Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

MEHEFIN, 1884. GAN Y PABCH. SIMON EVANS, HEBRON. " Felly, gan hyny, y pryd hwn hefyd, y mae gweddill yn ol etholedigaeth gras."— Rhdpeiniaid xi. 5. Ae. gais yr eglwys barclius yn y lle hwn, trwy ei bugail ymdrechgar, yr wyf wedi ymgymeryd â phregethu heddyw, yn ymyl îy nghartref, ar etholedigaeth. Nid yn aml y pregethir ar y mater hwn, er ei fod yn cael ei ddysgu yn eglur yn Ngair Duw gan Moses a'r proffwydi—yn y Salmau a'r Epistolau, ae nid yn un man yn eglurach nac yn yr Efengylau—o enau yr Athraw Mawr ; ac f elly y mae yn rhan o iachus eiriau ein Har- glwydd, a'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Y mae yn ein mysg fel enwad, a hwyraeh yn y cyfarfod hwn, dri dosbarth—amddifîynwyr yr athrawiaeth, gwrthwynebwyr yr athrawiaeth, a chredwyr dystaw ynddi, y rhai a ofnant ei chyhoeddi, gan amheu tuedd ymarferol yr athrawiaeth. O'm rhan fy hun, pe buaswn yn credu fod ynddi duedd groes i foesoldeb a santeiddrwydd, ystyriwn hyny yn brawf nad gwir yw ; ond credaf nad yw yr annysgedig a'r anwastad yn gwyrdroi yr athrawiaeth hon mwy na'r Ysgrythyrau ereîtl i'w dinystr eu hunain. Cymeraf yn ganiataol Ddwyfol awdurdod y Beibl, a chredaf y cyfrifir yma Air Duw yn derfyn ar bob ym- ryson, er y gwn fod gwrthwynebwyr a gwawdwyr yr athrawiaeth a alwant eu hunain yn bobl yr "advanced thought" yn gwadu Dwyfol awdurdod y Beibl, ac felíy yn cilio oddiwrth arwyddair cychwynol Protestaniaeth, " Ý Beibl, a'r Beibl yn unig." Ein hymofyniad fydd, Beth a ddywed yr Ysgrythyr ? Ymdrechaf siarad yn eglur, yn hunan-feddianol, ac yn deg. Sylwn ar— I. Y GwTRIONEDDAU A GYNWYSIR YN ATHRAWIAETH ETHOLEDIGAETH. Os gellir gwrthbrofi un o'r pedwar, syrth yr athrawiaeth ; ond os deliry pedwar, cydnabyddir yr oll sydd gynwysedig ynddi, sef bwriad Duw i santeiddio a dedwyddu y rhai a gant etifeddu iachawdwriaeth. Nid myfi sydd yn gwneud y gwirioneddau hyn, ond caf hwynt yn Llyfr Duw, a dymunaf eu traethu dan ddyJanwad y meddwl oedd yn Nghrist Iesu. 1. Na fydd pawb yi gadwedig. Byddai yn dda genyf feddwl y byddai yn y diwedd holl hil Adda yn bur, ond nid yw Llyfr Duw yn rhoddi uu sylfaen * Traddodwyd y bre^eth uchod ^yn Glandwr, Mawrth 5ed. 1884,