Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

MEDI, 1884. fìiíutòòm §to|. §tó£ §§far0Mtt ẅMpîrMit GAN Y PARCH. PROFF. D. E: JONES, M.A, CAERFYRDDIN. Mab ydoedd Proffeswr Morgan i'r diweddar Mr. David Morgan, Forge Farm, ger yr Hendy Gwyn (Whitland). Ganwyd ef Awst, 1818. Hanai o deulu nodedig am eu crefyddolder a'u sel gydag achos y Gwaredwr. Tr oedd ei dad, yr hwn oedd yn ffermwr cyfuefchog a chyfrifol, yn hynod am ei onestrwydd a'i eirwiredd, ac yn bregethwr cynorthwyol derbyniol iawn gan yr eglwys yn Henllan, o ba un yr oedd yn aelod defnyddiol, yn ogystal a chan yr eglwysi cylchynol. Cafodd Mr. Morgan a'i chwaer, Mrs. Lewis, Brynberiau, eu derbyn yn aelodau o eglwys Henllan, gan eu hewythr, y diweddar Mr. Lloyd, pryd nad oeddynt eto ond naw miwydd oed. Felly, cafodd ei fagu i fyny yn ofalus, a'i gysegru i'r Arglwydd o'i febyd. Wedi derbyn yr addysg elfenol oreu oedd yn gyrhaeddadwy yr amser hwnw, prentisiwyd ef, pan yn bur ieuanc, mewn masnachdy drapery yn Narberth. Wedi treulio ei egwyddor-wasanaeth yno, symudodd am ychydig amser i Gaerfyrddin, ac oddiyno i fasnachy mawr a chyfrifol yn Sloane Square, Llundain, lle y treuliodd bedair blynedd. Ar ei fynediad i'r Brif-ddinas ymaelododd mewn eglwys Seisnig yn y gymydogaeth hono, a phrofodd ei hun yn aelod cyson a defnyddiol iawn. Arferai Mr. Morgan siarad yn uchel am y Ues a dderbyniodd tra yn aros yn y masnachdy hwn, a phriodolai lawer o'i lwyddiant dyfodol i hyny. Cymerai y meistr "ddyddordeb neillduol yn nerchafíad y bechgyn yn feddyliol a moesol. Perthynai i'r sefydliad lyfrgell yn llawn o'r llyfrau goreu, a ílarlienfa (reading-room) eang a chyfieus at eu gwasanaeth. Ffurfiai y bechg> n f«.th o gymdeithas ddadleuol {débating soúety) yn eu mysg eu hunain, á chynalient gyfarfodydd bob wythnos yn y ddarllenfa i ddadleu ar wahanol faterion. Llywyddai y meistr, feirheol, yn y cyfarfodydd hyn, a chymerai pedwar o'r bechgyn ran yn mhob dadl, sef <i iu ar bob ochr i'r cwestiwn. Yn un o'r cyfarfodydd hyn daeth Eglwysyddiaeth ac Ymneill- duaeth yn gwestiwn y ddadL Cymerwyd ochr Ymneillduaeth gan Mr. Morgan (wrth gwrs) ac un arall. Siaradodd Mr. Morgan mor gadarn 41