Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

sî MAWRTH, 1885. fMlpas IpiôHrlróíj €tìà g ^ẁòmmá ^tt\û. Gan y DIWEDDAR HYBARCH. JOHN DAYIES, MORIAH, PEHTRO. " Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a'i torodd, ac a'i rhoddodd i'r dysgybüon, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghoríf. Ac wedi iddo gymeryd y cwpan, a diolch, efe a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwcli bawb o hwn: Canys hwn yw fy ngwaed o'r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau."—- Mat. xxvi. 26-28. " Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ífydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddyoddefgarwch Duw."— Rhuí. iii. 25. " Ac wedi iddo ddiolch, efe a'i torodd, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff, yr hwn a dorir trosoch ; gwnewoh hyn er coffa am danaf. Yr un modd efe a gymerodd y cwpan, wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw y testament newydd yn fy ngwaed; gwnewcu hyn cynifer gwaith bynag yr yfoch, er coffa am danaf."—1 Cor. xi. 24, 25. Y MAE pechod ya y byd. Y mae pawb wedi pechu, pob cenedl, pob oes, pawb dynion yn bersonoì. Y mae amryl-dduwiaeth, " duwiau lawer " yma, peth na ddylasai gael ei ddwyn i'r byd o gwbl. Y mae addoliad eilunod yma, addoliad ffurf neu lun gweledig o Dduw, o'r Hwn nid ellir tynu un llun, a'r hyn y gwaharddodd Efe yr Iuddewon yn bendant rhag ei wneuthur. (Ex. xx. 4, 5.) Lle y mae Duw yn adnabyddus ceir Uawer o anufydd-dod iddo, llawer o anniolchgarwch iddo, llawer o ddiffyg ym- ddiried ynddo, a chariad at y creadur yn fwy nag at Dduw y Oreawdwr, yr Hwn sydd yn fendigedig yn oes oesoedd. Y mae yn y byd lawer o ddiffyg ewyllys dda a chariad gan ddynion at eu gilydd. Pa beth yw holl ryfeloedd y byd ond prawf o hyn, prawf eglur a chyhoedd. Gwna yr Ysgrythyr yn yr Hen Destament a'r Newydd dystio pechadurus- rwydd y byd, gan ddyweyd, í( Pawb a bechasant, ac ydynt yn ol am ogon- iant Duw." Y mae deall a cliydwybod y byd yn profi yr un peth. Prawf