Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

EBRILL, 1885. ìwìẁifltòẃ fefnìẁ h §iftxebìr ÿt Hmh&m. GAN Y PARCH. J. B. JONES, B.A, ABERHONDDTJ. Salm xxxvii. 37—" Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn ; canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd." 1 Tim. iv. 8—" Canys i ychyditr y mae ymarfer corfforol yn fuddiol, ond duwioldeb sydd fuddiol i bob peth; a chanddi addewid o'r bywyd sydd yr awr hon, ac o'r hwn a fydd." Rhyfedd y cydgordiad sydd yn Ngair Duw, ac yntau wedi cael ei ysgrif" enu gan gynifer o bersonau, a byny mewn oesau mor bell oddiwrth eu gilydd. Mae y cydgordiad yn brawf diymwad o fod y gwahanol ysgrifen- wyr dan arweiniad diffael yr Ysbryd. Dyma ddau destyn, un o'r Salmau, a'r llall o Epistolau Paul yn mhen mwy na mil o flynyddau, yn cyduno yn hollol mewn dadganiad—y perffaith a'r uniawn yn y naill ydyw y duwiol yn y llall—a diwedd mewn tangoefedd yn y cyntaf ydyw addewid o'r bywyd a fydd yn yr ail, canys diwedd i dangnefedd olygir, ac nid marw mewn tawelwch, ac yn ddiofn a diboen—gall yr annuwiol wneud hyny— ond myned i dangnefedd wedi marw sydd beth na fedr neb ond y perffaith a'r uniawn wneud. Os Dafydd ydoedd awdwr y Salm uchod, yr oedd gan- ddo sail profiad i ddywedyd y testyn am wasanaethwr Duw, canys o'i febyd i'w fedd yr oedd ufyddhau i ddeddf Duw, a'i addoli yn ei dy eihun, ac yn ei dy Ef yn llawenydd penaf ganddo. Ar gyfrif hyny y galwai Duw ef yn wr wrth fodd ei galon. Oyfaill agos i Dduw ydoedd Paul yn y peth hyn ; canys yntau hefyd a wasanaethodd Dduw o'i febyd, hyd garchar Mamertine yn Rhufain, ei lety olaf ar y ddaear hon, lle y datodwyd daear- ol dy ei babell hon â min bwyell y dienyddwr. Gwnaeth a dyoddefodd Paul fwy dros grefydd na neb ar ei oL Gan hyny, gwyddai fwy am ei gwerth hi a gwaelder y byd a'i drysorau goreu na phawb ereill. Haerllug iawn yw gwaith dynion annuwiol yn rhoddi barn anffafriol a sarhaus am grefydd. Nid yw eu barn o un pwys, canys 16