Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AWST, 1885. §mrafar8t 2 ŵ* 8*. PEEGETH ANGLADDOL T PAECH. T. EEES, ABEETAWE.* GAN Y PARCH. J. THOMAS, D.D., LIVERPOOL, " Oblegyd yr oedd efe yn wr da, ac yn llawn o'r Ysbryd Glan, ao o ffydd ; a Ilawer o bobl a chwanegwyd i'r Arglwydd."—Actau xi. 24. Am Barnabas y dywedwyd hyn: Cypriad o genedl, o lwyth Lefî, ac ym- ddengys ei fod yn wr o gryn urddas yn niysg ei bobl. Mae traddodiad mor foreu a dyddiau Clement o Alexandria, ei fod yu un o'r deg a thri- ugain. Ei enw gwreiddiol oedd Joseph, ond galwyd ef gan y dysgyblion yn fab y broffwydoliaeth, neu fab y cynghor, yr hwn hefyd a gyfieithr yn fab dyddanwch. Tybiai rhai fod Saul o Tarsus ac yntau yn adnabyddus â'u gilydd cyn dychweliad y naill na'r llall, oblegyd i Barnabas gael ei anfon i Tarsus i dderbyn ei addysg. Gan ei fod o lwyth Lefi, y mae yn bosibl ei fod yn cymeryd ei ran yn ngwasanaeth y deml; ac felly ei fod wedi eael llawer cyfle i wrando yr Arglwydd Iesu Grist yn ei weinidog- aeth bersonol. Yr oedd yn un o aelodau blaenaf ac amlycaf yr eglwys yn Jerusalem. Pan gyfododd yr erlidigaeth fawr, yn nglyn â'r hon y llabyddiwyd Stephan, gwasgarwyd y dysgyblion; ond dygwyddodd hyny, fel y mae yn dygwydd bob amser, " yn hytrach er llwyddiant yr Efengyl." "Aeth PhyHp i waered i Samaria, ac a bregethodd Grist iddynt;" a bu y fath lwyddiant, nes "yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas hono." Aeth rhai i Phenice, i ddinasoedd Tjtus, a Sidon, a Ptolemais ; y rhai oedd sylfaen- wyr yr eglwysi a gawn yn y lleoedd hyny; ac aeth rhai gwyr o Cyprus ac o Cyrene i Antiochia, ac a " lefarasant wrth y Groegiaid, ganbregethu yr Arglwydd Iesu." Pwy oeddynt, nis gellir gwybod. Gall fod Lucius o Cyrene yn un o honynt. Yr oedd ef yn aelod amlwg yn yr eglwys ar ol hyn. Dichon fod Simon o Cyrene, "yr hwn a gymhellasid i ddwyn ei groes ef," yn un o'r nifer, oblegyd tybir ei fod yntau hefyd yn ddysgybl i'r Iesu ; ond nid oes gwybodaeth sicr pwy oedd syHaenwyr yr eglwys yn * Traddodwyd y bregeth uchod yn nghapel Walter's Road, dydil Mawrth, Mai 5ed, 1885, yn angladd y í'arch. Thomas Bees, D.D., Abertawe. 36