Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

MEHEFIN, 1888. GAN Y PARCH, JAMES CHARLES, CROESOSWALLT. ADGYFODIAD CRIST. " The resurrectiou created the Church, the risen Christ made Christianity ; and eyen now the Christian faith stands or falls with Him."—Priií. Fairbaibn, D.D. Nid oes un o fil o Gymry unieithog yn meddwl amheu am fynyd y ffaith o Adgyfodiad Crist, mwy na ffeithiau ereill yn ei hanes. Beth. sydd yn cyfrif am hyn ? Wel, diau fod gan ysbryd crefyddol ein cenedl ddylan- wad mawr ar y bobl ieuainc a fegir yn ein gwlad, ond y rheswm penaf ydyw symlrwydd yr hanes. Darllena hanes Iesu fel rhyw hanes syml a naturiol arall. Nid yw Cymru wedi bod yn rhydd oddiwrth. chwedlau dychymygol, a phan adroddir hwy wrth blant meddylgar, dechreuant amheu eu cywirdeb ar unwaith ; ond wrth ddarllen hanes Adgyfodiad Crist credent fod yr oll wedi cymeryd lle fel yr adroddir ef. Gall fod yr hanes yn y Beibl yn un rheswm dros ei gredu; ond ei symlrwydd a'i naturioldeb sydd yn taro y meddwl gyntaf. Wedi i rai ddyfod i oedran, a dechreu meddwl a myfyrio ar ffeithíau mawrion hanes Iesu, ni thueddir hwy i'w hamheu, ond yn hytrach i gredu yn gryfach ynddynt am eu bod yn rhy fawr i fod yn dwyll. Mae Iesu yn ei Berson a'i hanes, ei enedig- aeth oruwchnaturiol, ei fywyd pur, ei weithredoedd nerthol, ei farwolaeth, yr hyn gymerodd le yn nglyn & hyny, ei adgyfodiaid, a'i esgyniad yn rhy fawr a rhyfeddol i fod yn ffrwyth creadigaethathrylithddynol. Ni chafodd dim mor fawr a gogoneddus a hyn erioed ei ŷugio. Beth, gan hyny, sydd yn cyfrif am y ffaith fod rhai yn amheu dilysrwydd yr hanes ? Credwn mai ysbryd gwyddonol yr oes sydd o dan wraidd y cyfan. Nid fod dim mewn gwyddoniaeth yn groes i'r tfeithiau rhyfeddol hyn, ond fod y personau hyny sydd yn glynu wrth y materol yn unig, ac yn gwadu y goruwchnaturiol a'r gwyrthiol, yn cael eu harwain i wadu Adgyfodiad Crist—un o'r gwyrthiau rhyfeddaf mewn hanes. Ond y mae eu hymdrechion i geisio gwneud i ffwrdd â'r ffaith yn fethiant hollol. I. Adgyfodiad Crist fel Ffaith Hanesyddol*. Yn yr unfed ganrif ar ddeg bu Petr y Meudwy (Peter the Eermit) ya * Yr ydym yn ddyledus am gynorthwy i gyfansoddi yr ysgrif hon i Drs. Fairbairn, Eder- ftä™'.,LŴfe' yi rhui sydd,.yn. y,md.ri? â'r,mafcer j.n *ŵẅa&£t±. ^y^eUid tywti» b^»..., » u>i>b«, ,) ruai Byaa yn ymann ar mater j-n ieistroigar, u«i&* (ìwasanaethed y sylw hwn yn lîe dyfyniadau o'u gweithiau, er arbed meitncler. 26