Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HYDREF, 1888. fr êfm%$ p $fxúut. GAN Y PARCH. H. OLIYER, B.A., BRYSTE. Yn mhlith y Cenadaethau lluosog a apeliant at gydymdeimlad a chymhorth eglwysi Prydain Fawr a'r America, nid oes yr un ag sydd yn meddu cymhellion cryfach na'r Genadaeth a ddygir yn mlaen yn mhrif ddinasoedd Ffrainc, o dan arweiniad y Parch. E. W. McAU. Er na feddwn adna- byddiaeth bersonol o sylfaenydd y mudiad, yr ydym wedi âyîod i gysylltiad agos a mynych ag amryw o'i berthynasau, ac yr ydym, er's amryw flyn- yddoedd, wedi teimlo y ddyddordeb dyfnaf yn llwyddiant ei waith. Wrth sylwi ar ymledaeniad yr Eglwys yn yr oes Apostolaidd y mae amryw egwyddorion sylfaenol yn dyfod i'r golwg a ddylent nodweddu gweithgarwch Cristionogol yn mhob oes a gwlad. Cadwai yr Apostolion eu golwg ar berthynas naturiol, agosrwydd lleol, cyfleusderau rhagluniaethol, a seýyllfa fanteisiol i oleuni yr Efengyl i lewyrchu o amgylch ogylch. Dyma'n ddiau oedd wrth wraidd brwdfrydedd yr Apostol Paul i bregethu yr Efengyl yn Rhufain. Pregethu yn Rhufain y pryd hwnw oedd pregethu yn nghanolbwnc y byd ; a darostwng Ehufain o dan lywodraeth y rTydd oedd y ffordd feraf i enill yr holl genedloedd o dan iau y Gwaredwr. Mae yr holl bethau hyn wedi cydgyfarfod heddyw yn y Genadaeth Ffrengig. Geilw agosrwydd y tir, y drws agored, y llwyddiant mawr sydd eisoes wedi cymeryd Ue, a'r rhagolygon bendigedig sy'n ymagor o'n blaen, yn uchel arnom i fyned i mewn a meddianu y wlad. Mae Scotland ar ddihun, ac amryw drefydd yn Lloegr ac America yn deflfroi; ond hyd yn hyn y mae Cymru yn hepian. Ac eto, y mae galwad neillduol arnom ni. Mae y Ffrancod yn berthynasau i ni—o'r un gwaed a ni; ac er yr holl wallgof- rwydd a thrueni sy'n nodweddu eu hanes, nid oes i ni ar y cyfan achos i gywilyddio arddel y berthynas. Hwynthwy yn ddiamheu yw y genedl ddoniolaf yn Ewrop. Nid oes yr un genedl aiall wedi gwneud cymaint a hi yn nghynydd a lledaeniad^gwareiddiad. Ac er fod Uawryf gogoniant milwrol wedi ei gymeryd oddiarni, y mae y meddwl Ffrengig yn parhau i fod y meddwl mwyaf dylanwadol yn yr holl fyd. Dim ond i egwyddor gael derbyniad yn Paris, a chymeryd meddiant o'r meddwl Ffrengig, nid yn hir y bydd cyn ymledu i derfynau eithaf y ddaear Yn sicr, byddai Cenadon o Gymru yn fwy cymhwys i ddwyn cenadwri'r cymod i galonau 46