Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. CHWEFROR, 1908. Y TAIR GORNEST. MAE'r deng mlynedd nesaf yn argoeli bod yn rhai cynhyrfus. A barnu oddiwrth arwyddion yr amserau, mae brwydrau mawr ymlaen. Trowch i ba gyfeiriad y mynoch, gwelir fod cryn anesmwythyd—yn myd gwleidyddiaeth, yn myd crefydd, ac yn myd cymdeithasyn neillduol. Tair problem sydd ger bron y byd yn galw am sylw dioed yw y tair hyn— (a) Pwy sydd yn mynd i ly wodraethu,—y dyn gwyn ynte'r dyn melyn?—y gorllewin ynte'r dwyrain ? (b) Beth sydd i'w wneud a'r anesmwythyd Cymdeithasol (Social unre8t), sydd mor amlwg ; a beth fydd diwedd y cyíîro Sosialaidd sydd erbyn hyn yn rby gryf i'w anwybyddu ? (c) I ba le yr arweinia y symudiad mawr meddyliol geir heddyw yn myd crefydd ?—yr anfoddlonrwydd geir yn mysg duwinyddion a Christionogion diwylliedig i aros gyda'r hen derfynau ; a phwyso ar gredoau sydd a llwydni a gwendid henaint yn rby amlwg arnynt ?— damcaniaethau sydd eisoes yn anghyson iawn a dysgeidiaeth wyddonol y dydd, ac islaw lefel gyffredin goleuni a gwybodaeth yn y cyfnod hwn ? meddir Mae'r tair problem hyn yn galw am eu penderfynu, ac yn hawlio sylw pawb ystyriol. Y neb a edrycho islaw'r wyneb fe wel fod y tri llifeiriant aruthr hyn yn mynd i rywle. I.—GORNEST Y DDAU GYFANDIR. Mae Asia fawr lonydd wedi deffro o'r diwedd ; y cyfandir hynaf yn dadebru drachefn,ac uchafiaeth Ewrop yn dechreu caeî ei gwestiyno. Mae Japan yn teimlo ei nerth. China yn ymysgwyd o'r llwch. India yn siglo'i chadwyn, a'r dyn du yn dod yn ymwybodol o'i ewynau. Mae glanau'r môr Tawelog yn ferw i gyd—a'r Dwyrain yn estyn ei Uaw nnwaith eto i chwiüo am ei hen deyrnwialen golL Dyw'r cri am " America i'r dyn gwyn " ddim i gael pasio heb ehállenge. Ac y mae'r Ŵithfod hen wledydd y byd yn dod yn rhyddfrydig, acyn agored i