Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWR. EBRILL, 1908. DYDD-LYFR GWEINIDOG. GAN--------------------? Nodiadau a ysjrifenwyd yn ysbod y Diwygiad o Eydref 1904 hyä Hydref 1905. Tachwedd lleg. Nos Wener. Hyfryd yw nos Wener. Nis gwn am un lle neillduol y dylwn alw. Yr wyf wedi gweled y cleifion gan mwyaf yr wythnos hon. Mae fy meddwl yn dawel, ac wele i mi noson lonydd yn fy ystafell. Henffych lyfr, desc, ac ysgrifell. Mae cysgod y Sul ar fy ystafell heno, ac ar y llyfrau, ac hawdd yw i'r meddwl lithro dros derfynau'r materol i " gymdeithas y dirgelwch." Mae'r ys* tafell hon yn troi yn " gysegr " i mi ar ambell noson dawel sanetaidd fel heno. Mor ddymunol yw ymguddio o swn y byd, ac ymsuddo i'f perffaith liedd. Mae gweddi a chymdeithas bersonol a Duw yn dyfod yn fwy o ffaith i mi yr wythnosau hyn nag erioed Ond y mae gweddio yn iawn yn waith anhawdd a chaled. Anhawdd yw gwthio ymlaen heibio'r llu o bethau sydd yn atal, nes dod allan i'r llecyn clir, lle nad oes rhwystr i gymdeithasu a Duw. " 0 na wyddwn pa le y cawn i ef." " O ! na chawn gwrdd a'r dirgel fan Lle gallwn gael fy Nuw." Y raae man i gwrdd a Duw—llecyn glân difrychau, lle y ceir y gym- deithas lawn ddirwystr, ond y mae y llwybr sydd yn arwain yno yn llawn anhawsderau, ac y mae ei gerdded yn golygu llawer o frwydro. Ni ddaw neb yn weddiwr mawr ar unwaith; rhaid dadblygu'n weddiwr fel pob peth arall. Nid oes neb yn meistroli llyfr caled mewn tin dydd, na neb yn graddio mewn prif ysgol heb flynyddau o barotbi, felly hefyd rhaid ymarfer blynyddau i adnabod Duw, a rhaid ym- drechu'n galed i gerdded y Uwybr sydd yn arwain i'w bresenoldeb sìct éf. Mae'r frwydr ar y ffordd yn frwydr a Phethau, Amgylchiadau, a