Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWB. Rhif. 49.] A W S T, 1839. PREGETH ODDIWRTH 2 COR. II, 16. (Parhad o Rifyn Gorph., tu-dal. 189..; £Cyf. IV. Y mae etto fath arall o gymhwysderau yn ofynol, sef,— Yn ail, Cymhwysderau moesol. 1. Y mae yn ofynol fod y cyfryw yn wir dduwiol:—yn adnabod Duw, hyny yw, yn credu ac yn ystyried ei fod yr hyn y mae wedi ei amlygu ei hun—yn dwys gredu gwirióneddau y gair—yn teimlo yn achos ei gyd-ddynion—yn ymostwng i holl aw- durdod Duw—yn ymgyssegru i wasanaeth yrArglwydd gan siriol ymddiried ynddo. Heb y pethau hyn nis gall gyda theimlad addas gymhell gwirioneddau y gair ar sylw ereill; nid ydyw gymhwys i gyfar- wyddo ac annogy gweiniaid yn Si'on; mewn gair, ni fydd yn ei holl wasanaeth crefyddol ond un yn gwatwor cymmeriad nad yw eiddo ef. Un wedi ymroddi i'r swydd sant- aidd hon oddiar ryw egwyddorion gau, heb fod yn wir dduwiol, yw y cymmeriad mwyaf arswydol ar yr holl ddaear! Och fel y bydd y cyfryw yn niwedd ei daith yn gorfod troi ei olwg yn ol, ac yn adolygu fel y dy- wedodd un—murdered tirne!—murdered talents!—murdered souls! 2. Y mae yn ofynol mewn un yn y cyfryw swydd ei fod hefyd yn meddutymher hedd- ychol, mwynaidd, a charedig yr efengyl. Yn y cymhwysderau a nodir gan yr apostol, gosodir pwys neillduol ar hyn, mewn gwa- hanol ymadroddion. 1 Tim. 3, 2, Bhaid ganhyny i esgobfod—nid yn daraurydd.— eithryndirion,ynanymladdgar,êçc. 2Tim. 3,24, Ac ni ddylai gwas yr Arglioydd ym- ryson, ond bod yn dirion wrth \bawb, yn athrawus, yn ddyoddefgar; mewn add- fwynder yn dysgu y rhai gwrthwynebus. Tit. 1,7, Canys rhaid i esgobfod yn ddiar- gyhoedd fel goruchwyliwr Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddigllon, nid yn win-gar, nid yn darawydd, Sçc. Y mae yn wir fod duwioldeb yn gwneuthur effaith rymus ar dymher ei mheddiannydd, ac yn ei wneu- thur i raddau yn addfwyn; etto, mae diffyg rhai mewn addfwynder yn eu gwneuthur yn anghymhwys i'r weinidogaeth. Y mae heddwch a chysur yr egrlwys, a llwyddiant yr achos yn y gymmydogaeth, yn ymddi- bynu ar hyn, fel moddion, i raddau' mawr- ion. Efengyl hedd yw yr efengyl; ac mae pöb math o ryfel yn anghydweddol â hi; ni oddef hi ddim er taeniad,neu mewn amddi- ffyniad o'i hogwyddorion, ond ysbryd hedd- ychol a charedig. Y mae yn wir fod dyn- ion o'r cyfryw dymber yn cael eu gosod weithiau dan yr angbenrheidrwydd o gym- meryd mesurau mwy anhyfryd nag yr ewyllysient, er attal dynion dichellgar i gael eu hamcanion drygionus i ben. Etto, arwyddair (motto) y Cristion, ac yn enw- edig gweinidog yr efengyl, yw, Os yw bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddych- lawn â phob dyn. 3. Cymhwysder moesol arall gofynol mewn un yn cyrameryd y swydd bwysig hon yw, ei fod yn meddu ysbryd cyhoedd: neu, mewnj|eiriau ereill, yn sychedu am fod yn ddefnyddiol i ereill i'r graddau helaethaf. Y mae llawer o ddynion gwybodus a duwiol yn ddiffygiol iawn yn hyn; y maent yn ym- ddangos fel yn ymfoddloni ar fod yn gref- yddol a meithrin crefydd ynddynt eu hun- ain, heb fod ar eu mheddwl i fod yn ddefnyddiol i ereill hefyd yn y pethau hyn. Nid ydyw un felly,yn gymhwys i swydd y weinidogaeth; ac nid ydyw ddigon i wein- idog ei fod yn teimlo awydd am fod yn ddef- nyddiol i'r bobl sydd dan ei ofal neillduol, ond dylai deimlo dros y byd. Gweddai fod ynddo gymmaint o gariad at Grist, a'r fath 30