Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIWYGIWE. Rhíf. Ì46.] MEDI, 1847. ÍCyf. XII. ANLLADRWYDD. GAN Y PARCH. EVAN LEWIS, BRYNBERIAN. Dyma un o brif bechodau meibion a merched ieuainc Cymru. Y mae yn drosedd o'r seithfed gorchymyn, " Na wna odineb." Mae yn tarddu o lygredd mewnol y galon, ac yn dra adnabyddus yn mhob cymydogaeth. Mae'r Bibl yn rhesu anlladrwydd yn mysg y pechodau duaf a gwaethaf; y mae yn un o'r pech- odau ag sydd yn dinystrio cymeriadau, a damnio eneidiau. Y mae llyfr Duw yn dywedyd liawer mwy am y pechod hwn nâ llyfrau dynion. Anhawdd iawn yw dilyn y pechod ffiaidd hwn i'w holi lochesau, a'i olrhain yn ei wahanol ffurf- iau, a dangos ei ddrygedd mor eglur á goìeu nes cywilyddio ei goleddwyr: " Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel." Y mae y gair Gr. aselgeia, yn cael ei arfer naw gwaith yn y Testament New- ydd—yn cael ei gyfieithu bedair gwaith yn aníladrwydd, pedair gwaith yn dry- thyllwch, ac unwaith yn anniweirdeb Marc 7, 22; Rhuf. 13, 13; Gal. 5, 19 2 Cor. 12, 21; Eph. 4, 19; 1 Pedr 4, 3 2Pedr 2, 18; Jud. 4; 2 Pedr 2, 7 "lladradau, cybydd-dod," &c, &c. Cawn edrych ar y pechod hwn yn rhai o'i achosion neu ei achlysuron. Yr achos- ion o bechod sydd yn y dyn ei hun, yr achlysuron sydd tu allan iddo ei hun. Nodwn, fel achos— 1. Segura.—Mae dyn yn greadur gweithgar, wedi ei gynysgaethu à gallu- oedd bywiog a gweithgar, ac wedi ei fwriadu gan ei Grëwr i weithgarwch, ac nid i segurdod. Mewn ymarferiad íì'r hyn sydd dda, y mae ei iechyd, ei hawdd- fyd, ei lwyddiant, a'i ddyogelwch: " Y neb fyddo ddiog yn ei waith sydd frawd i'r treulgar." Ae, medd un o'r hen Gym- ry, " Tri pheth sy'n llygru'r byd, balch- der, afraid, a seguryd." Y mae segurdod yn pydru'r corff ac yn rhydu'r enaid. Sicr yw fod segurdod corff a meddwl yn un o achosion puteindra ac anlìadrwydd. Cawn enghraifft otidus o hyn yn Dafydd, brenin Israel: gwel 2 Sam. 11. Pan yr oedd Joab a'r milwyr mewn rhyfel ealed yn erbyn meibion Ammon, yr oedd Dafydd yn esmwyth arno yn Jerusalem; ac un diwrnod wedi bwyta ciniaw dda, aeth i'r gwely, ac wedi iddo godi o'i wely ganol y piydnawn, aeth i fynu i nen y tŷ, ac yno, o ganol segurdod, canfu Bath- seba deg, gyda'r hon y godinebodd; ac yn nhr\*Tngwsg segurdod, meddwodd, temtiodd, twyllodd, a lladdodd Urias ffyddlon a diniwed. Nid yn nghanol f rhyfel gwaedlyd, a'r enciliad peryglus o flaen Saul y pechodd Dafydd; nid pan yn myfyrio ar ryfeddodau cread- igaeth a rhagluniaeth, ond pan yn segura yn ei artref tawel. 2. Rlwdiana.—Gen.34,1, "ADinah, merch Leah, yr hon a ymddygasai hi i Jacob, a aeth allan i weled merched y wìad." Dy\ved Josephus iddi fyned allan ar ddydd gwledd oedd yn cael ei chynal yn y wlad. "A aeth allan (medd y duwiol Henry) i weled a chael ei gweled." Dinah, unig ferch _ ei thad a'i mam, j-n mìoclau ei dyddiau, "a aeth allan," heb ganiatad ei thad a'i mam, neu trwy ganiatad ei mam heb yn wybod i'w thâd, neu trwy ganiatad y ddau. Os aeth hi allan heb ganiatad, yr oedd hyny yn ychwanegu ei phechod; os trwy eu canialad, yr oeddynt hwy mewn rhan yn gyfraiiog o'i phechod. Allan yr aeth Dinah wedi ymdrwsio yn ei gwísgoedd goreu a'i - haddurniadan