Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<■• •*'"' ' YSTORFA Y BEDYDDWYR. Rhif. 32.—HYDREF, 1840—Cyf. III. Y PREGETHU CYMERADWY. Ycyfryw ydyw yr amrywiaeth pregethn sydd yn y- byd Ciist- "ogol, (nid amrywiaeth doniau wyf yíl ^i ddweyd,) fel y maè gwrandawyr yr ^fengyl, lawer o honynt, wedi en dyrysu i'r fath raddau, fel nas gwydd- ant yn iawn pa beth i'w wrthod neu 1 w gymeradwyo. Nid wyf wrth ^dweyd fel byn yn bwriadu neillduoli 8C i enwi yr amrywioi rywiogaethau *g sydd mewn ymarferiad, rhag i neb dybied fy mod arnymosod arbersonau, ac i hyny, yn Ue buddioli, gynhyrfu anfoddlonrwydd a gwrthdarawìad, ac felly i'm hysgrif fod yn fwy o niwed lag o ddaioni. Ond gobeithir fod y dydd ar ddarfod i bregethwyr geisio m amcan llai nà dyrchafu Çrist, ac acbub eneidiau, ac i neb pregethau gael eu cymeradwyo, ond y rhai a fyddont yn tueddu i'r amcan mawr a gogoneddus hwn. Wrth bregethu, er mwyn achnb pechaduriaid, nid oes eisiau gadael Pob trefn a dibrisio synhwyroldeb. Y taae yma ddigon o le iddynt i weith- redu, a gweithredu i ddyben teilwng. Ac nidyw dysgeidiaeth a gwybodaeth- au mewn un modd i'w diystyru. Gall y rhai hyn fod o fuddiohleb mawr os defnyddir hwynt yn briodol. Fel yr arian, a'r aur, a'r sidan glas, a'r por- plior gynt yn cael eu cyflwyno at deml Duw; felly os caiff dysg a gwybodaethau eu defnyddio yn ddar- 08tyngol i wasanaeth yr efengyl, ac ftdeiladaeth eglwys Crist, hwy a ateb- ant ddyben mawr. Ontí" faint bynag a fyddo dysg, gwybodaeth, nen ddawn Cvf. III. y pregetbwr, os na bydd yn pregetlm er mwyn achub pechaduriaid, y mae ei bregethu yn annrhaethol fyr o ateb i amcan y swydd bwysig o bregethu yr efengyl. I bregethu i acbub, rhaid, yn 1, Fod y pregethu yn eglur. Pwy a all gael ei argyhoeddi trwy weinid- ogaeth nad yw yn deall dim o honi? Cyn rwydded y gellir taraw y nod wrth saethu i'r awyr ag argyhoeddi pechadur wrth bregetbu jddo bethau nad yw yn eu deall. Nid wyf yn golygu nad yw gweinidog yr efengyl i bregethu ar wirioneddau dyfuion, y rhai nad yw llawer o'i wrandawyr yn en deall ; y mae yr boll wirionedd i gael ei ddysgn i ddynion yn ei dro, ac yn ei gysylltiad; ac y mae gwaith gweinidog i fyfyrio a cliwilio mewn i ddyfnion bethau Duw. Ac nid yw cecrach rhyw fath o ddynion, yn dweyd nad ydynt hwy yn deall, pan nad yd- ynt yn ceisio deall, nac erioed wedi rhoddi en llafnr at hyny, yn ddigon o achos i attal dyîedswydd gweinidog 'deallus, i dori bwyd i'r rhai sydd "wedi ymgynefino â gair cyfiawnder." Ond dylid bob amser ymdrechu dwyn pob pwngc gerbron mor oleu ag y gellir, ac yn wastadol ddweyd ain ddigon i achub pob gwrandawr mor oleu, fel nas gallo yr hwn a fyno lai nâ deall. Dylai achos y gwrandawyr, fel deiliaid barn a thragwyddoldeb, gael ei roddi yn y modd egluraf ag a ellir ger eu bron, fel y caffo en calon ei dàl yn oleu gerbron y drych dwyfol, fel na byddo raid iddynt ond craffu ar yr hyn a bregethir, i weled pa un ai, 2 M