Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YSTORFA WEINIDOGAETHOL. Rhif. 1.—MAWRTH, 1838.—Cyf. I. RHAGYMADRODD. Wrth gyflwyno y rhifyn cyntaf o'r Ystorfa Weinidog- aethol i sylw y cyft'redin, yrydyra yn crefucaniatâd i hysbysu i'r darllenydd yr hyn a'n cymhellodd i gymmeryd y gorcírwyl hyn mewn llaw. Nid ein hamcan yw gwrthwynebu unrhyw gyhoedd- iad cylchynol a gyhoeddir gan ein henwad, neu a ddichon gael ei gyhoeddi mewn nmser a ddaw. Ein penderfyiiiad di- ragrith yw ceisio llwyddiant ar bob ymgais a wneir gan ein brodyr i leshau eu hoes, ac i helaethu gwybodaeth dros holl barth- au gwlad ein genedigaeth ; ac i ddangos cymmaint o barodrwydd i dderbyn a chefnogi e\i cyhoeddiadau hwy ag a ddymunem iddynt hwythau i ddangos tuagat yr eiddom ninnau. Ond yr ydym wedi barnu fod amgylchiadau yr amser presennol yn galw am Gy- hoeddiadau o'r natur hyn, rhag i ddarilenwyr Uuosog Cymru golli eu harchwaeth at wirioneddau pwysig yr efengyl dragwyddol tra y niaent yn ymestyn mewn mo«ld gorchestol i gyrhaedd helaethrwydd o ẁybodaeth gyffredinol. Ein barn yw fod gwybodaeth gyífredinol yn dda, a bod ei holl gyfryngau yn deilwng o annogaeth; ond wedi y cyfan mai gwybodaeth Ysgrythyrol yw y trysor mwyaf pwysig, yn gymmaint ac mai hon yw y wybodaeth sydd yn dal perthynas â bywyd tragwyddol. Cynnaliaeth a chynnydd gwybodaeth Ysgryth- yrol yw y prif wrthrych sydd genym mewn golwg; ac os rhydd Buw ei fendith ar ein llafur i gysuro ac i adeiiadu deiliaid teyrnas ei Fab, fe fydd ein dyben yn cael ei ateb, a'r gogoniant yn dych- welyd idd ei enw teilwijg ei hun. Gyda golwg aryr amcanhyn, yr ydym yh bwriadu, trwy gyfrwng yr Ystorfa, i ddwyn i gof, adnabyddiaeth, a defnyddioldeb, yr hyn a allom o waith ein tadau yn y weinidogaeth, y rhai ydynt yn awr wedi gorphwys oddiwrth eu llafur. Mae yn ammheus genym a ellir enwi un wlad yn cynnwys yr un nifer o drigolion ag sydd wedi codi cynnifer o weinidogion defnyddiol yn ein henwad yn yr oesau diweddaf a thywysogaeth Cymru. Mae argraíf eu llafur llwyddannus ar gyflwr moesol ein cenedl yn aWr, fel yn ngwyneb