Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YSTORFA WEINIDOGAETHOL Rhif. 2.—EBRILL, 1838.—Cyf. I. ÜNDEB CRISTNOGOL. " Un gademid, un fryd fry, Un fraint, un feddiant, un frys, Un allu, un ewyllys,—un Duw." Of «neenergy, of one mind above, of one pre-eminence, of ono possession, of one inapulse, of one power, of one will,—one God."—lOJLO Gocií. Nid oes dim yn eglurach idd ei ganfod, ac yn hawddach idd eî brofi, nag i fod anghydfod wedi cymmeryd lle, nid yn unig rhwng dyn a'i Grëwr, ond hefyd a'i gydgreadur; ac ni fetha un meddwl ystyriol weled y canlyniadau niweidiol, amserol a thragwyddol, o hyny. Y gwreiddyn oddiar yr hwn y tarddedd anundeb yw pechod, ei ganghen- au brigog, ëang, ac atgas, ynt gasineb, cabldraethau, ymrysonau, ymladdau, ac angeu o bob ystyr, oddieithr i oruchwyliaeth rasol ac achubol gymmeryd lle ar ddeiliaid y niweidiau uchod. Ond ein testun i ysgrifenu ychydig arno ar hyn o bryd yw undeb-, a'r uudeb o'r fath oreu yn mhlith dynolion, sef " Undeb Cristnogol." Teilyngdod a phwysigrwydd y pwngc dan sylw a eilw am symledd meddwl yn yr ysgrifenydd i'w addasu idd ei drin yn ystyriol, ac yn y darllenydd idd ei ddarllen a'i fyfyrio yn bwyllog a llesiol iddo ei hun. Nyni a gymmerwn olwg fer ar natur undeb Cristnogol. Yr enw cadarn undeb a gynnwys ac a olyga bod yn un; a'r enw gwan, neu yr ansawdd air, Cristnogol, a ddengys natur neu o ba ryw y byddo. Credwyf nas gellir yn briodol ddefnyddio y gair undeb gyda golwg ar yr hyn a gynnwys ynddo y peth a fyddo o natur ysgarol ac anghyd- ìbdol, o ganlyniad byddai yn briodolach i ddefnyddio cyd-fwriad a chyd-frad, pan ffurfir penderfyniad, ac yr amcenir gan fwy nag un o bersonau, i wneud yr hyn fyddo yn ddrwg; o herwydd bod yn han- fod y cyd-frad hyny elfenau a dueddant i effeithio anghyd-fwriad ac anghysur rhwng y pleidiau. Dichona iddynt barhau yn hirfaith yn y cyd-fwriad yn ffyddlon idd eu gilydd; ond wedi hyn oll, eglur yw fod yn natur pechod, a phob drwg duedd, i achosi anghydfod, a gwneud