Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YSTORFA WEIN IDO GAETHOL. R„jF. 4.—MEHEFIN, 1838.—Cyf. I. Nid hawdd meddwl am ffaith mwy amlwg nag i fod dyn wedi ei gynnysgaethu â chymhwysiadaunaturiol addas, i ymwneuthur â dyled- swyddau crefyddol. Mor belled ag y mae genym wybodaeth am arferiadau holl dylwythau y ddaear, yr y'm yn cael eu bod yn gyffre- dinol yn teimlo ac yncydnabod eu rhwymau i -d<»lu parch ac addoliad i ryw fbd uwch nâ hwy eu hunain, ur yr hwn y barnant eu bod yn ymddibynu am gynnaliaeth a diogelwch. Ond er eu bod oll yn cyd- nabod y fath rwymau, eto y maent wedi ymddyrysu yn y camsyniad- au mwyaf erchyllŷo barth cymeriad gwrthrych eu hymddyried a'a gwasanaeth, fel y gellirdweyd amdanynt, gyda'r cyfiawnder períFeith- iaf, " Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid, ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw, i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwar carnol, ae ym- lysgiaid " Fe ddywedir fod y rhai doethaf yn mhlith Paganiaid yr oesoedd gynt, pan yn cydnabod eu hanallu i gyihaeddyd gwybodaeth foddhaol ambethauysbrydol,wedi cyfaddef nad oedd modd i ateb angeny teulu dynol, heb ddatguddiad pendant oddiwrth Dduw, Barnent y fath ddatguddiad yn beth dymunol a buddiol, er symud pob dyryswch, a dwyn o fewe gafael dynion ymofyngar wîr sicrwydd am y pethau a berthynant i'w dedwyddwch. Darí'u i un o honynt hefyd i dystio ei fod yn coleddu dysgwyliad y byddai i'r fath fendith gael ei rhoddi i'r byd, ac yn ganlynoli hyny y mae gwahanol gyfundraethau wedi eu taenu yn mysg y cenedloedd, megis Shasters yr Hindwaid, a Choran Mahomed, dan y cymeriad o ddatguddiedigaethau oddiwrth Dduw. Ond wrth chwilio eu hawl i'r cymeriad y maent yn ei hòni, peth hawdd yw gweled nad ynt yn deilwng o berffeithr,wydd yr orgedd ddwyfol, nag yn meddu ar -addasrwydd i ateb cyflwr dynolryw fel deiliaid moesol a chyfrifedig. Yr unig gyfundraeth deilẅng o'r fath gymeriad, yn marn y difiifol, yw y gyfrol a dderbyuir fei y cyfryw gan Gristnogion; a'n hamcan yn y Hinellau presennol yw dangos y sylfaen sydd genym i gredu ei bod wedi ei rhoddi trwy ysbrydoliaeth Duw.