Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YSTORFA Y BEDYDDWYR. Rhif. 6.—AWST, 1838.—Cyf. I. DWYFOLDEB PERSON CRIST. TMTae pob gwirionedd datguddiedig ■"-■■ yn beth o bwys i ni, ac y mae yn gymaint dyledswydd arnom i gredu pob peth y mae Duw wedi ei lafaru, ag yw gwneuthur poh peth y mae ÿn ei orchymyn; ond nid oes genym le i ameu nad yw rhai gwirioneddau yn dal perthynas agosach â'n hiachawdwr- iaeth nag eraill a lafarwyd gan yr nn Ysbryd aníFaeledig; ac yn mhlith y rhai hyn y cyfrifwn y dystioljaeth ys- grythyrol ain berson ein Harglwydd Iesu Grist. Nid credu rhywbeth a farnom yn nnol à'n mheddylian ein hunain a'n diogela rhag dainnedig- aeth, ond credu y dystiolaeth a dyst- iolaethodd Duw am ei Fab fel Cyf- ryngwr rhwng Duw a dynion ; ac o ganlyniad, y mae yn beth hanfodol i'n dedwyddwch i goleddu barn gywir am yr hwn a osododd Duw yn iawn trwy ffydd yn ei waed ef. Heb hyn nid yw yn beth dichonadẃy ì ni ymorphwys arno mewn modd hyderns am gyfiawn- der a bywyd, i ÿmroddi i'w wasanaeth mewn modd difrifol fel ein Pen a'n Brenin, ac i ymddiried yn ei ffyddlon- deb a'i awdurdod am bob cymhorth angenrheidiol yn y bywyd hwn, ac am ddedwyddwch tragywyddol yn y byd a ddaw. Mae yn wybodus i fod gwahanol olygiadau yn cael eu coleddu yn y byd yn mhlith dynion a gyfenwir yn Grist- nogion, o barth person ein Cyfryngwr bendigedig. Mae rhai wedi darbwyllo eu hunain i gredu nad yw ond dyn yn unig, ac mai ei unig ragoriaeth ar eraill yw, ei fod yn fwy santaidd, ac fel y cyfryw wedi ei wisgo gan Dduw â swydd inwy goruchel nà neb arall. Mae y rhai hyn, er bod yn gyson â hwy eu hunain, yn alltudio ath.raw- iaeth y iawn cymodolo'u cyfundraeth, ac yn dysgu mai unig ddyben marwoi- aeth Crist oedd aelio. gwirionedd yr athrawiaeth a ddysgasai yn ei fywyd ; ynghyd a dangos i'w ganlynwyr, trwy ei ymddygiad ei hun, y modd y mae yn gweddu iddynt i ddyoddef gorthrym- der mewn arafwch a llarieidd-dra. Mae yn beth rhyfedd i fod neb yn gallu derbyn hyn fel athrawiaeth ys- grythyrol, pan y mae- yr ysgrifenwyr santaidd mewn modd unfrydol yu gosod allau ei ddyfodiad i'r byd fel gweithred o ddarostyngiad, yr hyn nis gallasai fod pe na buasai ynbodoli cyn ei enedigaeth. Gwyddom iddo gael ei eni mewn tlodi, a'i ddwyn i fynu mewn amgylchiadau isel; ac ar bwy gyfrif ganhyny, yn ol y gyfundraeth hyn, y gellir dweyd iddo ef, ac yntau yn gyfoethog, fyned er ein mwyn ni yn dlawd, fel ein cyfoethogid ni trwy ei dlodi ef. Eraill, er symud yr anhawsder hyn, a ddywedant nad yw na gwir Dduw na phriodol ddyn, eithr i fod ei ran ysbrydol yn greadur o'r radd ucheiaf, mewn bodoliaeth o'r dechreuad, ac iddo mewn amser i wisgo corff dynol yn ol arfaeth Duw, er inwyn dyoddef a marw yn lle troseddwýr, a thrwy hyny eu dwyn i fwynhan bywyd, hedd- wch, ac anllygredigaeth. Os gwir yw hyn, y mae pawb a'i addolant fel Duw, yn euog o'r éilunaddoliaeth mwyaf echryslawn, yn g'ymaint a'u bod yn talu i greadur y parch a berthyn yn unig i'r Ci eawdwr, yr hwn ni rydd ei ogoniant i arall, na'i fawl i ddelwau