Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YSTORFA Y BEDYDDWYR. Rhif. 7.—MEDI, 1838.—Cyf. I. SYLWEDD PREGETH, Â dmddodwyd yn Saesonaeg, yn Nhŷ Ctcrdd Mount PÍeasant, Abertawy, ar nos Sul, 29 o Orphenhaf, 1838, ar achlysur marwolaeth y PARCHEDIG CHRISTMAS EYANS. GAN Y PARCH. D. AB RHYS STEPHEN. • F mae efe, wedi marw, yn llafaru etto:"—Heb. xi, 4, Dysgir ni yn y testnn hwn fod nod- weddiad dynion yn byw ar eu hol, yn parhau i fod yn fendith ueu yn felldith i'r byd wedi iddynt ymadael ag ef am byth. Nodweddiad yw y peth cyfansawdd hẃnw, y crynswth hwnw o gyffroadau, meddyliau, bwriadau, a gweithredion a wnant i fynu y dyn fel bod moesol, a'i gwnant yr hyn ydyw yn ngolwg Duw, yr hyn ydyw er ei les neu ei afles ei hun, yr hyn ytîyw i'r byd o'i amgylcb. Y mae nodweddiad yn beth o bwys annhraethadwy, myfi ym hunm ydyw, mewn ystyr foesol ac ysbrydol, yr hyn ydwyf, pa beth bynag ydwyf. Ynddo ef y cynnwysir ein hanrhydedd neu ein gwarth, ynddo y bodola, ac â öhw y gwneir i fynu holl èlfenau ein dedwyddwch nen ein trueni presennol, defnyddiau ein llaw- enydd tragyfyth, neü ein gwae an- nherfyuol. Y mae ein nodweddiad fel hyn o bwys mawr ac anamgyffredadwy, nid yn unig i nì ein hunain, eiihr i gym- deithas hefyd. Y mae ybyd yn dded- wydd mewn cyfartalwch i ddaionus- rwydd ei drigolion, ac y mae ei drueni yn gydradd a'u hannuwioldeb. Y mae gan bob dyn achos i deimlo galar neu foddiant oblegid nodweddiad pob dyn arall. Y mae i fi reswm da a phwysig í lawenhau pan y cynnyddo rhií'edi y cyfiawn, aci alaru pan ffyno anwiredd. Nis gellir un weithred o rinwedd neu dduwioldeb nad yw o duedd i wneu- thur Hes i'ch cyd-greaduriaid o'ch cylch. Nis gellwcb gyflawni un nac nnihyw bechod nad yw o angenrheid- rwydd yn niweidio eich cyd-ddynion. Weithiau cawn ddyn annuwiol yn dadlen, os nid i gyfiawnhau ei ddryg- ioni, etto i'ch beio chwi am ei gynghori a'i rybyddio, "Nid wyf yn gwneuthur drWg i neb ond i'm hunan, pa raîd i chwi ymyraeth?" &c. Nis gall yr haeriad hwn fod yu wirioneddus, y mae yn annichonadwy cyfyngu drwg- effaith pechod i'r sawl a'i gwnelo. I gymeryd y golygawd caetbaf a oddef yr amgylchiad, bwriwn fod y pechod yn cael ei gyflawni yn y modd a'r lle dirgelaf, heb fod neb ond y pechadur a Duw hollwybodol yn canfod, hyd y nod bryd hyn, y mae y camwedd yn niwed i gymdeithas, drwy ei fod yn gwneuthur yr awdwr o hono yn llai addas i gyflawni ei ddÿledswyddau idd ei gyd-ddynion nag y byddai, pe nas cyflawnasai y trosedd hwnw. Un o effeithiau uniongyrchol ac anochel- adwy pechod, y mwyaf dirgel yn gys- tal a'r un cyhoeddus, yw cyníiyddu anghymhwysder y pecbadur i fod o wasarmeth yn y byd, a'i anghymhwyso fwy fwy i fod ÿn offeryn a gyuuyüdo 2 B