Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YSTORFA Y BEDYDDWYR. Rhif. 18.—AWST, 1839.—Cyf. II. COFIANT Y PARCH. DAFYDD THOMAS, SALEM, LLANGYFELACH, MORGANWG. GANED Dafydi> Thomas, mab James a Chatharine Thomas, yn Aberdaunant, plwyf Llansadwrn, swydd Gaerfyrddin, yn y fl. 1791. Canfyddwyd rhai arwyddion dẃysdra myfyrdod, a phryder crefyddol arno pan oedd ynghylch naw mîwydd oed, ac hoffai yn fawr gyfeillach ac ymddi- ddanion pobl grefyddol. Nid hawdd fyddai brudio am waeth anffawd i blentyn na chyfeillach rhai proffeswyr crefydd. Ni a obeithiwn fod crefydd- wyr yr oes a'r gymydögaeth soniedig yn dduwiolion engreiíftiol báwb o honynt. Tua yr oed uchod gosodwyd ef yn-yr^sgol yn y Betws, lle y treul- iocfd bedair blynedd; abu beth amser ẃedi hyny, dan ofal dysgeidiaethol Mr. Thos. Frice, yn Lhinsadwru. Yn ei bumthegfed tìwyddyn rhoddwyd ef i ddysgu celfyddyd Crydd, dan ofal Mr. Jolin Thomas, Cwmsidanfaèh, plwyf Tal-Ilyche. Bu yno tìwyddyn, pryd yr aeth i Langadog, a bu yno yn aros, ac yn dilyn ei alwad nes cyr- haeddodd 19 oed. Yn ysbaid yr holl amser hyn, yr oedd ei arweddiad yn sobrddwys a difrifol, ac arwyddion ystyriaeth a meddylgarwch parhaus amo. Pan yn tynu atderfyn y flwydd- yn soniedig, ymwelwyd â'i gyflwr gan argyhoeddiadau cryfion ; teimlodd ei bechadurusrwydd, a theimlodd fod ei glwyf yn anaele, o ran dim a fedrai efe wneuthur iddo. Gwelodd nad oedd un ffordd o ddiangfa ond trwy Cyf. II. iawn anfeidrol y Cyfryngwr bendigëd- ig, a ífodd i gymeryd gafael yn ngo- baith yr efengyl. Wedi canfod nad oedd iechydwriaeth yn neb arall, nac enw arall dan y nef, wedi ei roddí yn mhlith dynion,trwy yr hwn y gellid bod yn gadwedig, rhoddodd ei fryd a'i oglud, a'i holl ymddiried ar Fab Duw, a chafodd gysur a diddanwch calon acysbryd, drwy greduyn ei enw ef. Ymofynodd am gysylltiad eglwysig â'r brodyr yn Waunclyndaf, a bedydd- iwyd ef ar broffes o ffydd ac edifeir- wch,gan y Parch. Lewis Lewis, bugail yr eglwys hòno. Yn mlien ynghylch dwy flynedd, wedi i'r brodyr weled rheoleiddiwcn ei fuchedd, a duwiol- frydedd ei ysbryd, annogasant ef i bregethu yr efèngyl, a chafwyd bodd- lonrwydd mawr ynddo. Wedi preg- ethu dros ddwy flynedd yn achlysurol yn ei gymydogaeth ei hun, cafodd dderbyniad i Athrofa y Fenni, He y bu, yn ymhysbysu ei hunan mewn gwybodaeth fuddiol, dan ofal yr haedd- barch, Micah Thomas. Aeth o'r Athrofa i Broadoak, swydd Hen- ffordd, Lle y bu yn llafurio am dynihor bychan. Eithr ar ddymuniad y di- weddar Barch. Joseph Harris, ymwel- odd Mr. Thomas â Phenclawdd, Bro- wyr, Morganwg, lle yr arosodd, ac urddwyd ef ynoyu yfl. 1817, yn fugail yr eglwys fechan, ac yn genadwr yn y gymÿdogaetlw Treuliodd flyneddan 2 F