Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CERDDOR CYMREIG AT WASANAETH CEEDDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMEY. CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORIOÎsr, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 49.—Ctf. III. MAWRTH 1, 18G5. Pkis 2g.—gyda'r post, Sc. CEEDDOEIÀETH YE HEBEEAID. Wrth chwilio unrbyw bwnc mewn henafiaeth, mae yn anhebgorol angenrheidiol cadw golwg ar ddau wirionedd ; y naill ydyw, mai nid mewn cy- íiwr o anwareiddiad y cychwynodd dynoliaeth ei gyrfa ar y ddaear, ar llall, mai yn y dwyrain—yn Asia, y gosodwyd i lawr ei chryd. Wrth anghofio y cyntaf, y mae dynion yn anmharod i dderbyn profion anwadadwy o wareiddiad uchel yn y cynoesoedd, oherwydd eu bod yn disgwyl cael gwahanol genhedloedd yn soddi yn îs mewn an- wybodaeth ac anfedrusrwydd pa bellaf yn ol yr olrheinir hwynt; a thrwy golli golwg ar yr ail, y mae dynion yn myned yn gwbl ar gyfeiliorn Avrth chwilio am darddiad neu ddechreuad gwahanol ddyfeisiau ac arferion. Un o genhedloedd henaf y byd, ond nid yr henaf cll fel cenedL ydyw yr ríebreaid. Pan yr oedd Abraham, Isaac, a Jacob yn ymdaith ar hyd glenydd Môr y Canoldir—yn trigo mewn pebyll, ac yn arwain eu hanifeiliaid o'r naill ardal borfaog i'r llall, yr oedd yr Aipht yn deyrnas gadarn ac enwog, y mae pob lle i gredu fod Caldea yn ymer- odraeth gref, ac y mae yn lled debyg fod seiliau yr " Ymerodraeth Nefol" yn China wedi eu gosod i lawr. P» fodd bynag, y mae y genedl Hebre- aidd yn hawlio lle pwysig yn mysg cenhedloedd henafol y ddaear. Ac y mae lle a phwysigrwydd arbenig yn perthyn i'w cherddoriaeth fel y cyfryw. Nid mor hawdd ydyw penderfynu pa faint o ddylanwad a gafodd addysg ac esiampl yr Aipht ar gerddoriaeth yr Hebreaid. Tybia rhai eu bod yn ddyledus i'r Aipht am eu cwbl braidd, yn y pwnc hwn fel pob peth arall; haera rhai ereill, i'r gwrthwyneb, nad oeddynt yn ddyledus i'r Aipht am ddim, oblegyd eu bod, fel yr oeddynt yn bobl briodol i Dduw, dan ei addysg mewn modd neill- duoì; a chreda ereill fod y gwirionedd yn gorwedd yn y canol, rhwng y golygiadau eithafol hyn. Pel y sylwa Dr. Saalschütz, yr oedd yr Hebreaid wedi disgyn o deulu ag oedd yn gyfarwydd a cherdd- oriaeth (Gen. xxxi. 27); ac er na chrybwyllir hyny yn yr hanes ysgrythyrol, y mae yn hollol naturiol i ni dybied fod y patriarchiaid yn ymarferyd a'r gelfyddyd. Ond pan sefydlodd Jacob a'i feibion yn yr Aipht, hwy a gawsant gerddoriaeth yn y wlad hono, mae yn ddiau, wedi ei diwyllio i radd- au llawer uwch nag y gallasai fod yn eu mysg hwynt; ac y mae yn anhawdd meddwl na ddarfu iddynt gymeryd gafael yn y cyfleustra. Dadleua rhai fod hyny yn annichonadwy iddynt, oherwydd eu sefyllfa neillduedig a chaethiwus. Mae yn wir fod bugeiliaid yn íiîaidd a dirmygedig yn ngolwg yr Aiphtiaid (Gen. xliii. 32, a xlvi. 86), a defn- yddia Joseph Iryny yn ddadl gerbron Pharaoh dros gael gwlad Goshen yn drigle i'w frodyr; ond y mae yn amlwg r:a pharhaodd y culni hwnw yn hir, ac i'r Hebreaid ddyfod yn fuan i barch ac anrhydedd yn ngolwg yr Aiphtiaid. Am y caeth- iwed, nid ydys i olygu ddarfod iddo ddechreu am ugeiniau lawer o flynyddoedd wedi i'r Hebreaid fyned yno. Ymddengys, yn wir, na chymei'odd le hyd amser y Pharoah diweddaf a fu yn teyrn- asu ar y wlad cyn eu mynediad allan. A thra yr ydoedd yn parhau, nid oedd ond y gweithwyr— y rhyw wrrywaidd o'r dosbarth gweithiol, neu y crefftwyr, yn goddef mewn modd neillduol dano, Yr oedd y dosbarth uchaf yn rhydd (Exoo. iy. 27, 29); felly hefyd yr oedd y gwragedd, a'r plant oeddynt dan oedran gweithio. Yr oedd yn y wlad luaws mawr iawn o fugeiliaid hefyd, y rhai, mae yn ymddangos, oeddynt a'u hamser yn gwbl yn eu dwylaw eu hunain. Naturiol, gan byny, ydyw disgwyl eu bod yn 'diwyllio cerddor- iaeth hyd yr eithaf, yn ol y cyfleufterau lluosog, a'r manteision helaeth, oedd o fewn eu cyraedd yn yr Aipht; a chan eu bod, y pryd hwnw fel yn bresenol, yn ddynion o alluoedd naturiol cryfion a bywiog, hawdd ydyw tybied y gallasent fod yn llawn cyfuwch fel cerddorion a'u cymydogion yr Aiphtiaid, os nad yn uwch. Mae yr amgylchiad cyntaf y cawn hanes am danynt yn arfer cerddoriaeth ar ol gadael gwlad y caethiwed yn teilyngu sylw arbenig a manwl, „ yn gymaint a'i fod, nidyn unig yn dangos ar un- waith fod cerddoriaeth yr Hebreaid wedi cyfran- ogi yn helaeth o nodwedd yr Aipht, ond ei fod hefyd yn arnlygu i fesur beth oedd sefyllfa cerdd- oriaeth yn ngwledydd y dwyrain ar y pryd. Ar ol gweled Pharaoh a'i lu wedi eu hysgytio yn y Môr Coch, a hwythau wedi eu dwyn yn ddiangol ar hyd prif-ffordd Jehofah, yr hon a agorasid trwy