Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT WÁSANAETH CERDDORLAETH YN MYSCí cenedl y cymry. CYH0EDDEDIO DAN NAWDD PMF GERDDOFJON, COBAU, AC UNDEBAU CEHDDOPOL Y GENEDL. Rhîf. 62. EBRILL 1, 1866. Pjris 2g.—gydcûr post, 3e. Y COR. Dylai dau gyfarfod sefydlog mewn cysylltiad â cherddoriaeth fod yn perthyn i bob cynulleidfa grefyddol; y naill ydyw, dosbarth i'r plant i ddysgu elfenau cerddoriaeth yn ol cyf undrefn y Tonic Solfa; a'r llall ydyw, cyfarfod i gorpb y gynulleidfa i ymarfer â Thonau a Hymnau fel moddion gras. Pa gynulleidfa bynag sydd heb y naill a'r llall o'r cyfarfodydd hyn, y mae yn perthyn iddi un diffyg pAYysig o leiaf. Y mae sefydliad arall a ddylai fod yn perthyn i bob tref neu ardal, os nad i bob cynulleidfa. Hayiiw ydy w, Cor, neu Gymdeithas Gerddorol, er ymarfer gyda chysondeb â'r gweithiau cerddorol goreu, a chynal cyfarfodydd er datgan y cyfryw, er hyfrydwch a lles yr ardalwyr. Heb hyny, nid ydyw cerddor- iaeth yn cael mantais i ddylanwadu yn briodol ar y wlad; y mae yn fwy o degan chwareu nag o offeryn at waith. Nodwn yma rai pethau ag ydynt yn anhebgorol angenrheidiol er gwneyd Cor yn sefydliad effeith- iol a llwyddianus. 1. Un peth ydyw, ei fod yn Gor sefydlog,—-yn gorph cyílawn, byw,—yn bodoli ac yn gweithredu bob tymor ac ar bob tywydd ; ac nid yn rhywbeth a godir ar frys, gogyfer a rhyw achlysur neillduol, trwy gynull ynghyd gynifer ag a ellir o gantorion goreu y lle. Felly y gwelwyd yn rhy aml. Cesglid ynghyd nifer o gantorion y lle i ddysgu ar gyfer cyngherdd neu gyfarfod cystadleuol. Ymgy- nullent ar bob adeg—bob nos o'r wythnos, os yn bosibl, ac ni byddai dydd Duw eihun yn rhy gysegredig i roddi rhanhelaeth o hono at y gwaith. Ni fyddai dim ar droedy dyddiau hyny ond canu. Canu y boreu—canu gànol dydd—canu y nos ; ni fyddai y Beibl, nac un llyfr arall, nac un cyf- arfod arall, yn cael dim sylw. Byddai yr holl gyfansoddiad—y meddwl a'r teimlad, yn y cyflwr mwyaf afiachus, yn berwi yn nghlefyd poeth canu. Wedi i'r achlysur fyned heibio, dyna y cwbl yn chwalfa—y cor ar wasgar, y telynau ar yr helyg —-a'r holl ymdrech wedi difianu. Y mae y dynion a wnelonthyn yn anghyfíawn ahwynt eu hunain, aoynangharedigi'reithaf at gerddoriaeth. Ffordd anhraethol fwy rhagorol ydyw fod y Cor yn sefydlog, a'i amcan o'i flaen, ac yn cynal ei gyfar- fodydd gyda chysondeb trwy y flwyddyn. 2. Dylai fod swyddogion priodol yn perthyn i'r Cor, wedi eu dewis yn rheolaidd o blith yr aelod- au ; y swyddogion hyny i fod yn gynwysedig o Arweinydd, Ysgrifenydd, Trysorydd, a Phwyll- gor; a holl achosion y Cor i gael eu trefnu a'u Uywodraethu gan y cyfryw swyddogion. Gwaith y pwyllgor ydyw penderfynu pa gerddoriaeth a arferir gan y Cor, edrych am nifer digonol o'r gerddoriaeth hono i'r Cor, trefnu y cyngherddau a roddir gan y Cor, a gofalu f od y rheolau yn cael eu rhoddi mewn grym. 3. Dylai fod y Cor yn gynwysedig o rai yn medru darllen cerddoriaeth rwydd—pob aelod i gael ei brofi gan f wrdd cynwysedig o dri o aelodau y pwyllgor. Nid gwiw fyddai ceisio ei sefydlu hyd nes byddai nifer digonol o'r cyfryw wedi eu darparu, yn y dosbarth Tonìc Solfa, neu trwy ryw foddion ereill, i'w ffurfio. 4. Dylai fod yn perthyn i'r Cor hefyd restr o reolau, yn cynwys—■ Enw y cor. Ei egwyddorion sylfaenol. Ei swyddogion, a threfn eu dewisiad. Ei gyfarfodydd a'i waith- Cymhwysderau yr aelodau, fel cerddorion ac fel dynion. lawn-ymddygiadau, gyda golwg ar Ddydd yr Arglwydd, y diodydd meddwol, llwon ac iaith isel, yr Ysgol Sabbothol a moddion ereill o ras, cam- ymddygiad yn y Cor ac absenoldeb o hono. 5. Credu yr ydym y dylai pob Cor fod yn ofalus am gymeriad ei aelodau ; —fod pob un o honjnt yn aelodau o'r Ysgol Sabbothol; ac na byddont yn euog o aflendid, diota, cyfeddach, na meddw- dod. Gyda golwg ar y diodydd meddwol, y mae rhai o gorau mwyaf galluog Cymru yn gorau Dirwestol, a phob un o'r aelodau yn llwyrym- wrthod a diodydd meddwol. Byddai hyn yn fantais arbenig i bob Cor; oblegyd gwyddis yn rhy dda mai profedigaeth fawr liawer o gantorion ydyw y diodydd hyn. 6. Dylai pob un o'r aelodau dalu rhyw swm, yn fisol neu flynyddol, tuag at Drysorfa y Cor. Nid yn unig byddai y Drysorfa felly at wasanaeth,