Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

íjUíflnùro ggtigtfl AT WASANAETH CEEDDOEIAETH ¥N MYSG OENEDL Y CYMEY. CYHOEDDEDIO DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AO UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 63. MAI 1, 1866. Pris 2g.—gydcCr post, 3c. Y COE. Ttjag at ffurfio Cor, casgler ynghyd gynifer ag a ellir o gantorion goreu y dref neu yr ardal. Fel rheol gyffredin, gyda gofal na byddo lleisiau drwg, na pliobl hollol anf edrus a dilaf ur, yn gynwysedig ynddo, goreu oll pa gryfaf fyddo y Cor. Wedi eu cael ynghyd, a gosod eu henwau yn drefnus ar y llyfr, y peth nesaf ydyw dosbarthu y Ueisiau at y gwahanol ranau. Y mae o bwys mawr fod cyfar- taledd, neu gydbwysiad da, rhwng y rhanau. Yr ydys wedi myned i alw y Soprano, neu y Treble, yn gyffredin yn "brif lais," neu Air ; ac y mae hyny yn fynych yn gywir. Mewn Tonau Cynull- eidfaol y Soprano ydyw y prif lais. Mewn Alaw- on Cenhedlaethol, y prif lais, bid sicr, ydyw yr hen Alaw; ac nid ydyw y rhanau ereill mewn ystyr, ond cynghaneddiad iddi. Mewn amgylch- iadau fellý, dylid bod yn dra gofalus am fod yr Alaw yn cael ei chanu gydag eglurder, ac na byddo un o'r rhaíiau ereili yn ei chuddio nac yn ei gorbwyso. Ond yn y rhan fwyaf o lawer o gerddoriaeth gorawl, nid felly y mae. Mewn Rhan-ganau, Canigion, Anthemau, Cydganau, bydd y cyfansoddwyr yn ymdrechu rhoddi ei le, ei swydd, a'i bwys i bob un o'r lleisiau. Nid math o wisg wedi ei gosod am alaw, neu félodedd, ydyw y gwahanol leisiau mewn cyfansoddiadau o'r fath hyn, ond corph cyfan, ac " ysbryd y peth byw" yn rhedeg trwy bob rhan o hono. Y mae o'r pwys mwyaf, gan hyny, fod cyfartaledd priodol o nerth a gallu yn perthyn i bob llais. Nid ydym yn meddwl, nac am haeru, felly y dylai pob llais fod yn gyfartal o ran rhif a nerth. Y mae am- ryw ystyriaethau yn ein perswadio i gredu na ddylent fod felly. Dichon mai y cyfartaledd goreu, a chymeryd yn ganiataol fod y lleisiau perthynol ibob rhan yn rhai cyffredin o ran nerth, fyddai rhywbeth tebyg i hyn. DyAveder fod Rhif y Cor yn 24 Yna rhodder—Soprano - - - 8 Alto - 5 Tenor Bass - - o - 6 râ—■ t=±z °i Byddai y Soprano felly yn cynwys tua'r drydedd ran o'r holl nifer. Y mae gwahaniaeth rhwng lleisiau o ran gradd- eg (püch), gallu (power), ac ansawdd (giiality neu timbre); ond nid oes angenrheidrwydd i ni fanylu ar y pethau hyn yn y lle hwn, yn gymaint a'n bod wedi ysgrifenu yn helaeth arnynt yn ílaenorol. (Gweler Ceeddor, Rhif 23, 25, 27, &c.) Ceir syniadau prif athrawon y byd cerddorol Avedi eu corphori yn yr erthyglau hyny. Wrth ddosbarthu lleisiau y Cor, nid oes gan yr arholwyr ond profi yn unig beth fydd cylch neu raddeg (]ritch) llais pob un o'r aelodau. Y mae lleisiau y merched, a siarad yn fanwl, yn dri dosbarth. Yr uchaf ydyw y Soprano. Cylch helaethaf y llais hwn ydy^v o B isalaw yr erwydd i Ê neu F uwchlaw yr erwydd, fel hyn:—- Nid oes ond ychydig a gyrhaeddant F, ac ambell un Gr. Cylch mwyaf cyffredin y llais hwn ydyw o C i A, sef,- Nid oes nerth mawr yn nghyhyrau y peiriant Ueisiol hwn, a lled amherffaith ydyw eu nodau isaf, ond y mae ei rai uchaf yn glir ac ysgafn. Yr ail ddosbarth y w y Mezzo Sopr- ano. Nodau eithafol y llais hwn -Jr-— I-- ydyw o G isaf i C uchaf, sef,— Ond ei gylch mwyaf esmwyth yd- yw o A isaf i F uchaf, sef,— Mae y llais hwn yn f wy crwn a llawn na'r llall, ac y mae cyhyrau y peiriant lleisiol yn y cyffredin yn fwy ci'yfion. Y trydydd dosbarth yw y Con- -^ŷ-——£j£— tralto. Cylch eithafol y llais hwn j&nzzzriz: ydyw o E isaf i B uchaf, sef,— %f"~z^~ Ond ei gylch mwyaf cyffredin yd- yw o F i D, sef,— Y mae cyhyrau y peiriant hwn yn gryfion, ond sych ac amherffaith ydyw ei nodau uchaf. A siarad. yn fanwl, yr un modd, y mae lleisiau y meibion hefyd yn dri dosbarth. Yr uchaf