Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CERDDOR CYMREIG AT WASAMETH CEEDDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMEY. CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 64. MEHEFIN 1, 1866. Pris 2g.—gyddr post, 3c. Y COE. Wedi cael y lleisiau, a'u dosbarthu yn ol graddeg (pitch) pob un o honynt, y peth nesaf ydyw dysgu pob un o aelodau y Cor i wneyd y goreu o'r llais a gafodd. Mor bell ag y mae a fyno Ueisiau natur- iol da, ni fyddai yn bosibl cael canu corawl gwell mewn un wlad nag yn Nghymru; a'r unig achos fod eorau gwell i'w cael nag a geir yn Nghymru ydyw, fod y corau hyny "wedi cael eu dysgu a'u harferyd i wneyd gwell defnydd o'u lleisiau. Nid oes gwell lleisiau naturiol gan un genedl; ond y mae y rhan fwyaf o lawer o leisiau y Cymry heb ddysgyblaeth briodol i'w tynu allan. Dylai ar- weinydd pob cor astudio y pwnc hwn yn dda; ac ni ddylai adael i un cyfarfod fyned heibio heb ryw gymaint o addysg gyda golwg ar ymarferiad y llais. Dylai ofalu fod pob un yn cadw ei hun yn yr agwedd fwyaf manteisiol i ganu. Os yn sefy]l y bydd y cantorion, dylent sefyll yn hollol syth. Ni ddylai y corph fod yn gwyro mewn un cyfeiriad, ond yn gwbl syth, ac yn pwyso yn mron yn hollol ar y troed chwith. Dylai fod darpar- iaeth briodol, o ran goleuni, llyfrau, a phob peth angenrheidiol, fel na byddo raid i un o'r cantor • ion fod mewn sefyllfa anghyfleus. Sefyll ydyw yr ystum fwyaf manteisiol i ganu ; ond os bydd y cor neu y dosbarth yn eistedd, gofaled pob un ei fod yn eistedd yn y dull mwyaf naturiol a man- teisiol—na byddo pwys yn cael ei roddi ar y frest, na byddo y pen yn gogwyddo yn ormodol tua'r llawr, na'r llygaid wrth ganu yn dal gormod o gymdeithas â'r llwch. Dylai y genau hefyd fod yn ddigon agored. Y mae diffyg mawr iawn yn Nghymru yn y pwnc hwn. Oherwydd gau-wyl- eidd-dra, mursendod, neu rywbeth, ychydig iawn, ac yn enwedig o'n merched, a agorant eu genau yn ddigonol wrth ganu; ac felly, bydd naill ai naws y ffroenati ar y llais yn ei wneyd yn rhy debyg i gerddoriaeth teulu y trwynau hirion, neu ynte naws y gwefusau yn ei wneyd yn aneglur a thew, neu ynte naws y dannedd a'r cilfochau yn ei wneyd yn fain, teneu, cras, a gwichlyd, yn debycach i gerddoriaeth y llif ddur na cherddor- iaeth y galon a'r llais dynol. Angenrheidiol iawn hefyd ydyw gofalu am yr anadl. Canu tra dalio yr anadl y mae y rhan fwyaf, ac wedi hyny cy- meryd ystor newydd i fewn. Ond y mae hyny yn peri fod y canu yn anghyfartal ; oblegyd fel y mae y corph yn myned yn wag o awyr, y mae y llais yn myned yn deneuach, a'r canu yn fwy llesg, gwanaidd, a difywyd. Dylai y canor edrych 0 hyd am fod ei gorph yn Ued lawn o awyr—mor llawn fel y byddo ei asenau, a muriau tyner a hydwyth ei babell yn cael eu gwthio allan. Rhydd hyny sylwedd yn ei lais, ac yni yn ei gerddoriaeth. Gyda golwg ar gyfansoddiad peiriant y Uais dynol, gwahanol ansoddau y Rais, a'r dulliau gor- eu i'w drîn, nid oes genym ddim neillduol i'w ychwanegu yn y lle hwn at yr hyn a ddywedasom yn ein herthyglau ar " Ganiadaeth" ac nid ydym yn gweled ys angenrheidiol ail argraffu yma yr hyn a ysgrifenasom yn lled helaeth yno. Nid ydym yn gweled yn angenrheidiol yn y lle hwn ychwaith i ni roddi dim cyfarwyddiadau gyda golwg ar ddysgu darllen cerddoriaeth. Yr ydym wedi cymeryd yn ganiataol eisioes, yn wir, fod holl aelodau y Cor yn medru darllen—nid ydynt i gael eu derbyn yn aelodau hyd nes byddont, yn 01 cyfundrefn y Tonic Solfa, neu ryw gyfundrefn arall, wedi dyfod yn alluog i hyn. Nid ydym am dynu dim o'r hyn a ddywedasom yn ol. Dos- barth y Solfa ydyw y lle i ddysgu darllen; a doethineb yn swyddogion y Cor ydyw ei wneyd a'i gadw yn ammod gaeth—nafyddo neb i fod yn aelodau o'r Cor heb fedru darllen cerddoriaeth. Bydd hyny yn fantais i'r sefydliad yn mhob ystyr. Ynghyd a chael pob un i leisio yn y modd goreu—i ddefnyddio ei lais, a'i lais i gyd, yn y modd mwyaf naturiol ac effeithiol, gorchwyl pwysig iawn arall mewn Cor ydyw cael pawb i gydleisio. Yn y Ue cyntaf, dylai pob un fyddo yn canu yr un ran fod yn cydasio mor berffaifch ag sydd ddichonadwy. Gyda Ueisiau o wahanol ansoddau, ac o nerfch amrywiol, nid heb lawer o ofal ac ymarferiad y ceir cydymdoddiad da. Gorchwyl arall, a mwy anhawdd fyth, ydyw cael y gwahanol ranau drachefn i gydasio. Byddai yn dda i bob arweinydd a chor gredu mai heb;íhj» brith ac aneffeithiol fydd pob canu corawl. '< , v Mae yn anhebgorol angenrheidiol fod y nodau i gyd yn cael eu seinio yn hollol gywií gan bob