Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CERDDOR CYMREIG. AT WASANAETH CEEDDOEIAETH ÎN MYSG OENEDL Y CYMEY, CYHOEDDEDIG DAN :NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 81. TACHWEDD 1, 1867. Pbis 2g.—gydcûr post, 'dc. Y BYD CERDDOROL HEB GEWRI. Nid oes eisiau craffder anghyffredin i ganfbd nad oes yn y byd cerddorol, ar hyn o bryd, un cerddor mawr iawn, —neb yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na'i holl frodyr. Dyna fel y raae yn mhob gwlad. Ymddengys hefyd mai felly y mae yn mhob adran o faes gwybodaeth a gwaith. Os edrychwn i'r adran athronyddol, nid oes neb mawr iawn i'w ganfod yno; nid oes neb o daldra Bacon, na Newton, na Kant, i'w weled mewn un lle. Y mae ysgolheigion gwych yn Germani ac yn Mhrydain; ond nid ydyw y byd yn adnabod un cawr mewn dysgeidiaeth. Mewn cerfiadaeth ac arluniaeth, er fod llawer o gelfydd- ydwyr da yn dwyn allan eu cynyrchion y naill flwyddyn ar ol un arall, eto nid oes unrhyw un na dau a gydna- byddir fel rhai tra arbenig. Rhaid i'r beirdd ganiatau hefyd nad oes un bardd mawr yn trigo ar y ddaear y dyddiau hyn ; ie, er cynifer o "brif-feirdd " a " beirdd cadeiriol" sydd yn Nghymru, y gwirionedd amlwg sydd gerbron ein llygaid ydyw, nad oes yn Nghymru, nac yn perthyn i'r genedl Gymreig, un bardd mawr. Wrth droi i diriogaéth cerddoriaeth, yr ydym yn cael mai yr un modd y mae yno. Yn nyddiau Handel yr oedd dau gawr ar y ddaeai—yr anfarwol John Sebastian Bach ac yntau. Daeth Haydn a. Mozart ar eu hol hwythau. Daeth Beethoven í'w dilyn hwythau; ac ar ei ol yntau daeth Mendelssohn; ond ymadawodd y cerddor athrylithgar hwnw heb adael ei fantell ar öl i'r un Eliseus. Y mae rhai a fawrygir yn yr Almaen, yn Ffr'ainc, ac yn Itali, mégys Rossini, Auber, Verdi; y mae ysgolheigion cerddorol da yn Mhrydain, megys, Bennett, Benedict, Macfarren, Smart; rhaid addef hefyd fod gradd o athrylith yn per- thyn i'r rhai hyn, ac ereill a allasem eu nodi; ond nid oes heddyw neb ar y ddaear, hyd y gwyddys, ag y saif ei waith yn anfarwol i gydoesi â gweithiau y rhai cyntaf a enwasom. Mae yr ysbrydiaeth a roddes fodolaeth i ddyn- ion y cyfnodau a nodwyd wedi mynedyn wan ; ac y mae y byd yn bresenol dan addysg ag sydd ar unwaith yn ei gymhwyso ef erby ri cyfnod newydd ac yn llunio nodwedd y cyfnod hwnw ac yn prysuro ei ddyfodiad. Yn y sefyllfa hon mewn modd neillduol y mae Cymru. Diehon na fu un cerddor mawr—un crea»vdwr a saf'ai ar ei ben ei hun, yn Nghymru erioed, neu o leiaf er yr hen oesau euraidd y siarada traddodiad am danynt. Nid ydyw hanesyddiaeth yn ein cyfeirio at neb. Nid oes un amheuaeth nad oes yn perthyn i'n cenedl rai ysgolheigion cerddorol da'. Gallwn gyfeirio at Mr. Brinley Richards a Mr. John Thomas fel yn perthyn i'r dosbarth blaenaf o ysgolheigion cerddorol yn Mhrydain; ond fel creawd- wyr, nid ydynt ond bychain; ac fel creawdwyr cerddor- iaeth Gymreig, nid ydynt ond llai fyth. Enaid Ffrengig sydd i gyfansoddiadau Richards, ac 'anadl dyner Itali sydd yn bywiocau cynyrchion Thomas. Ychydig o'r dewrder a'r gwres, yn gymysgedig â'r prudd-der cwyn- fanus sydd yn perthytì i'r galon Gymreig, a geir yn ngweithiau y naill na'r llall o honynt; ac ar gyfrif eu haddysg, dysgyblaeth eu meddwl, yn gystal a'r cylchoedd yn mha rai y maent yn ymdroi, nis gellir disgwyl nem- awr o ddim Cymreig oddiwrthynt. Sicr ydyw mai ofer- edd fyddai disgwyl am y creawdwr cerddorol Cymreig yn mherson yr un o honynt hwy. Rhaid i hwnw, pa bryd bynag yr ymddangoso (ac nid oes un argoel eto y bydd iddo ymddangos yn fuan) fod yn un o'r bobl, a gwreiddiau ei galon yn nghalon ei genedl, yn gorphoriad byw o deimladau ei wlad — ei theimladau crefyddol, cymdeithasol, a gwleidyddol, fel y byddo ei weithiau yn ddelweddau cywir a bywiol o ysbryd y genedl. Y mae gwahaniaeth hanfodol rhwng hyn a bod yn fedrus i redeg y bysedd dros danau y piano neu y delyn. Y mae genym nif'er o rai ereill—ac y mae eu nifer yn lluosogi yn bar- haus, y rhai a gymerant eu lle yn nosbarth yr efrydwyr ; ac y mae hyn yn addaw yn dda am sefyllfa ein caniad- aeth yn y dyfodol. Gwelwn felly mai cyfnod o efrydiaeth, ymarferiad, a rhagbarotoad ydyw yr un presenol ar gerddoriaeth Gym- " reig. Y mae yn ein mysg efrydwyr rhagorol; ond ílaf- uria y rhan amlaf o honynt dan anfantais oherwydd fod cylch eu hefrydiaeth yn rhy gyfyng. Y maent gan mwy- af yn perthyn i'r dosbarth gweithiol. Nid ydym yn nodi hyn fel un sarhad arnynt. Nid ydyw hyn yn anfantais hollol ychwaith. Ar yr un pryd, y mae yn cynwys an- fanteision pwysig. Oherwydd cyfyngder amgylchiadau, gorfodir y rhan amlaf o'n cerddorion i lafurio yn galed er enill eu bara beunyddiol, ac i weithio a throi yn holl- ol yn mysg un dosbarth ; nis gallant gael amser i weled ond ychydig o'r byd ; nid ydynt yn alluog i droiond o fewn un cylch neillduol; ac nis gallant gael ond ychydig iawn o amser i astudio gwahanol ffurfiau, i feddwl, nac i osod eu meddyliau ynghyd ac mewn tfefn. Y mae y cyfyngder hwn felly yn aufantais ddirfawr iddynt ar lawer golygiad. Dan yr amgylchiadau hyn, nis gellir disgwyl am greawdwr cerddorol mawr. Yn bresenol y mae meddwl y genedl yn ymlunio, ac yn cael ei adeiladu. Yn y eyfnod hwn o addysg, pwnc pwysig ydyw fod ein hefrydwyr yn ymroddi ati o ddifrif i astudio, heb dreulio eu hamser ar oferedd, heb ollwng eu meddyliau ar ol gwagedd, na chymeryd eu hudo ar gyfeiliorn mewu cyfeiriadau amhriodol ac i diriogaethau digynyrch. Da genym ddeallfod llawer ynymroddi o ddifrif at eu gwaith, er eu bod dan ddirfawr anfanteision; a bydd yn flin genym glywed fod ambell un yn gwario gormod o'i ar- ian am yr hyn nid yw fara, ac yn treulio ei nerth ar bethau tra digynyrch. O barhau i weithio, addysgu y genedl, ac adeiladu ei chymeriad cerddorol â defnyddiau da, gan barhau i fyned rhagom uwch uwch tua'r nefoedd, nid oes neb a wyr na wel y Cbeawdwr mawr yn dda roddi cyn hir un cerddor o fri ac enwogrwydd anfarwol yn binacl ar adeiladwaith ein cenedl.