Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cgfytóŵŵig §m Itofoìŵ jrif êfrìŵoẁît, €m% m Iŵeto feŵmfll s êmùl AT WASANAETH CEMDÒRIAETH YN MYSG, CENEDL Y CYMEY. Rhif. 83. MEHEFIN 1, 1868. Pris 2g.—gydcCr post, 3c. Y GERDDORIAETII YN Y RHIFYN HWN. Y mae yn amlwg fod y Cymry hyd yn hyn heb eu Han- tbem Genedlaethol. Gwnaed amryw gynygion, mae yn wir, i ysgrifenu geiriau ar yr hen Álaw " Glan Meddw- dod Mwyn " i'r perwyl hwnw ; ond nid ydyw y genedl wedi cydnabod yr un o honynt, nac wedi gwneyd ond ychydig o wasanaeth o honynt. Ymddengys i ni, mai yr alaw fwyaf nodweddiadol o gymeriad y Cymry ydyw " Ymgyrch Gwyr Harlech." Tuag at osod allan y nerth, y gwroldeb, a'r tan sydd yn perthyn i galon y Cymry, nid ydyw " Glan Meddwdod Mwyn " i'w chymharu am eiliad âg " Ymgyrch Gwyr Harlech." Llwyddasom i gael gan ein Bardd talentog Ceiriog ddau bennill tra rhagoi ol ar yr Alaw ; ac ymddengys i ni fod yr alaw ardderchog, danllyd hon ar y penniìlion tra phrydferth hyn o'r eiddo Ceiriog yn llawer rhagorach na dim a feddem o'r blaen fel Anthem Genedlaethol. Nid oes eisiau bellach ond cydnabod yr alaw, a dysgu ac ymarfer y geiriau. Tuag at fod yn fantais i ddwyn hyn oddiamgylch, yr ydym yn argrafFu yr alaw, yn y ddau nodiant, gyda'r geiriau, yn y rhifyn presenoí; ac yr yd- ym yn credu y bydd felly ddefnyddio eyffredinol arnynt. UNDEB CERDDOROL DIRWESTWYR ARDUDWY. Cynnaliwyd Pwyllgor yn yr Abermaw, ddydd Sadwrn, Mai 2il, 1868. I."—Ymholwyd ynghylch nifer y Corau, &c, a phen- derfynwyd fod i bob Cor roddi gwybodaeth fanwl ar hyn i'r Ysgrifénydd erbyn dydd Sadwrn Mai 16eg, 1868. II.—Penderfynwyd fod cyfarfod y boreu i fod o gerdd- oriaeth foesol a gwladol, a chyfarfod y prydnawn o gerddoriaeth gysegredig, a chytunwyd ar drefn y Corau i ganu. III.—Penderfynwyd rhoddi gwahoddiad i Miss Evans, Cwmyglo, i ddyfod i'r Gylchwyl, ac enwyd personau i ddymuno arnynt ddyfod yn gadeiryddion y gwahanol gyfarfodydd. IV.—Penderfynwyd deisyf ar y Parchn. O. Jones, B.A., a J. Roberts (Ieuan tìwylltjì roddi anerchiadau, un yn y boreu a'r llall yn y prydnawn. V.—Penodwyd y prisiau am fynediad i mewn i'r Gylchwyl. VI —Penderfynwyd fod y gwaith argraffu i gael ei ranu rhwng Mr. David Jones a Mr. O. Rees, Dolgellau. VII.—Penderfynwyd fod y Gylchwyl i gael ei hys- bysu yn y "Faner," " Yr Herald.Cymraeg," yr " Ôs- westry Advertizer," a'r " Cerddor Cymreig," ymlaen llaw. VIII.—Penodwyd y Llywydd, yr Ysgrifenydd a'r Trysorydd, ynghyda rhyw bersonau a ddymunont hwy alw atynt, i ffurfio Is-bwyllgor i drefnu y manylion ychwanegol. IX.—Datganwyd diolchgarwch i gyfeillion y Dyffryn a'r Abermaw, am eu caredigrwydd at gychwynwyr a chynrychiolwyr yr Undeb yn ystod y flwyddyn. X.—Penderfynwyd fod y Pwyllgor i gyfarfod eto yn yr Abermaw, Gorphenaf lleg, i ddarllen cyfrifon y Gylchwyl, ac i drefnu ymlaen am y flwyddyn ddyfodol. J. Jones, Ysgrifenydd. CYSTADLEUAETH TALSARN, 1868. Ton Gynulleidpaol, 8au, 8 llin. Dabth 11 o Donau i'r gystadleuaeth hon. 1. Y mae " Mot" wedi ysgrifenu ei Don yn nodiant y Solfa, ond y niae heb feistroli y nodiant hwnw. Y mae cryn lawer rhyngddo hefyd a meistroli cynghanedd. Ceir y troseddwyr yn gorwedd ar faes y cyfansoddiad, a dagr goch, farwol swyddog y gyfraith wedi ei gyru trwy- ddynt; a gwelir fod y fintai archolledig yn lled luosog. 2. Musicus.—Anystwythder yw nodwedd neillduol y Don hon. Y mae ysgogiadau yr alaw yn ddieithr ; ond nid oes dim melusder ynddynt. Nid llawer iaivn sydd yn y gynghanedd ag y gelîir dweyd ei fod yn wallus ; ond ychydig a geir yma hefyd ag y gellir dweyd ei fod yn ddestlus. Ceir yma rai gwallau hefyd. Yn banau 2 a 3, y mae 8fedau cuddiedig fel hyn:— Yn ban 4, dylasai yr alto esgyn i, ac nid disgyn oG|i F. Yn ban 9, ceir yr Alto yn ysgogi yn anchwaethus, fel hyn: — , , , . *èsJL$d_j^L.: ^=xmi Nid ydyw y cord nesaf yn gywir— d—j%~ai yn ngradd»'