Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ay AT WASANAETH CEEDDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMBY. Rhif. 90 AWST 1, 1868. Piîis 2q.—gyda'r post, 3c. UNDEB CERDDOROL DIRWESTWYR ARDUDWY. Cynaliodd yr Undeb hwn ei Gymanfa Flynyddol yn Nghastell Harlech, ddydd Ian, Meh. 25. Hon oedd y gymanfa gyntaf a gynaliodd yr Undeb,; ond y mae yn hollol sicr y bydd y llwyddiant a gafwyd yn hon yn achosi mai nid hon fydd yr olaf. Yr oedd Corau yr Undeb ar ddydd y Gymanfa fel hyn : — Enw. Arweinydd. Cor Corris......... II. Ll. Jones Aberdyfî ...... M. Rowlands Rhydymain...... Parch. J. Jones ... Gwynfryn ...... S. Jones...... Talsarnau ...... 0. Roberfcs Penrhyndeudraeth ... R. Jones...... Tanygrisiau (Festiniog) 0. W. Morris Bhiwbryfdir (eto) J. J. Griffith Ebenezer (eto) W. R. Jones Blaenau (eto) H. Roberts Trawsfÿiiydd...... W. Williams Aberganolwyn ... J. H. Roberts Dolgelleu ...... E. Williams (Tlltijr) Dolyddelen...... A. Davies Mannod ...... Henry Parry Rhif. 60 24 20 14 30 30 55 40 43 55 20 45 35 30 28 529 Yr oedd Castell Henafol Harlech wedi cael ei ddar- paru yn drefnus a chwaethus iawn ar gyfer y cyfarfod ; ac esgynloriau cryfion a chyfleus wedi cael eu gwneyd i'r corau ac ereill gan Mr. Ô. Roberts, Talsarnau. Yr ydym yn meddwl mai llythyr o eiddo Owen Roberts, a ymddangosodd yn y Cerddoh CjTMREig, a roddodd gychwyniad i'r Undeb ; ac y mae yn hyfrydwch genym ei weled yn parhau mor zelog a ff'yddlon yn yr achos. Edrychai y cymylau braidd yngilwgus yn y boreu ; ond cliriodd y tarth yn y man, a chafwyd diwjnod hynod o ddedwydd yn mhob ystyr. Deehreuwyd y cyfarfod yn y boreu yn lled fuan ar ol 10 o'r glocb,—L. H. Thomas, Ysw., yn y gadair; ac i ddechreu, canwyd y Don Gynulleidfaol Rotterdam (Rhif. 102, Llyfr Tonau Cynulhìdfaol), ar y geiriau mawreddog, " Mae'n llon'd y nefoedd, llon'd y byd," gan y corau ynghyd, dan arweiniad y Parch. J. ÎJoberts, (/. GioylW); ac.nid oedd yn bosíbl dechreu g}da dim oedd well. Cerddoriaeth gyífredinol a gafwyd yn y cyfarfod hwn i gyd; ac yr oedd y trefniad yn un doeth a cnanmoladwy, rhoddi cerddoriaeth gyffredin (secular) i gyd yn y naill gyfarfod, a cherddoriaeth grefyddol, neu gysegredig, yn y cyfarfod arall. Y darnau a ganwyd ac a chwareuwyd yn y cyfarfod hwn oeddynt fel y canlyn :— Ilallelujah (Handel) gan gerddfìntai bres Ffestiniog. (Yr oedd amser y gydgan hon yn rhy gyflym, a'r arddull yn rhy filwrol.) Gymry dowch i'r gad, sef Ymdailh Gwyr Harlech, ar eiriau Dirwestol o gyfansoddiad y Parch. N, Jones (Cynhafal), gan y corau ynghyd. Hunt- ing Song (Benediet), gan gor Ebenezer. Yr Haf (G. Gwent) gan gor Rhydymain. Nant y Mynydd (J. Thomas) gan gor Gwynfryn. Yr Alarch (R. Stephen) gan gor Aberdyfi, Detholiad o Alawon Cenedlaethol gan Gerddfintai y Blaenau. O Gymru anwylaf (J. Thomas) gan gor Mannod. Mai (J. Thomas) gan gor Trawsfynydd. Tra mae haul y dydd (Bishop) gan gor Penrhyn deudraeth. Handel's Waterpiece, gan gor Corris. Malvern (Rhif 146, Llyfr Tonau Cynulteidfaol) gan y corau ynghyd. Datod mae rhwymau (J. Thomas) gan y corau ynghyd. Cenid y rhai hyn dan arweiniad y Parch. J. Roberts ; ac yr oedd y lleisiau wedi eu trefnu gyda'u gilydd, fel y cafwyd canu tra rhagorol ary ddwy. Y mae yn amheus a ganwyd dim yn well yn ystod y gymanfa. Mae yn diamheu mai dyma yr hyn a ganwyd oreu, a goreu o lawer, gan y corau ynghyd. Terfynwyd y cyfarfod hwn gyda'r Gloria (Mozart) gan gerddfintai Festiniog. Am 2 o'r gloch, yn absenoldeb Chas. Edwards, Ysw., A.S., cymerwyd y gadair gan H. Griffith, Ysw., Dol- geileu. Cysegredig oedd y darnau a ganwyd yn y cyfar- fod hwn. I ddechreu, cafwyd yr Hallelujah (Handel), gan gerddfintai y Blaenau, mewn amser ac arddull gwell nag yn y boreu. Moriah (Rhif. 10, At. Llyfr Tonau) gan y corau ynghyd. Teilwng yw yr Oen (tiandel) gan gor Rhiwbryfdir, Manheim (lihif. 111, Llyfr Tonau) gan y corau ynghyd. Teilwng yw yr Óen (o Samson) gan gor üolgeíleu, fel y mae yn drefnedig yn y GyfreS. (Nid ydyw y geiriau Cymraeg hyn mewn un modd yn gyfaddas i'r gerddoriaeth.) Defíro (Lloyd) gan gor Tal- sarnau. Dying Christian (Harwood) gan gerddfintai Ffestiniog. St. Peter (Hhif. 183, Llyfr Tonau) gan y corau ynghyd. Their sound is gone out (Handel) gan gor Dolyddelen. O Father (Handel) gan gor Abergan- olwyn. Bethel (Rhif 216) gan y corau ynghyd. Great Dagon (Handelj gan gor Blaenau Ffestiniog. Rhoes iddynt genllysg(Handel)gan gorTanygrisiau. Hallelujah (Handel) gan y corau ynghyd. Terfynwyd gyda We never will bow down (Handel) gan gerddfintai y Blaenau.