Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

tfítotabig §m Wm Jtíí ŵUteto, €am> «t «ŵŵw «ẃtorffl 1 AT WASANAETH CERÜORIAETH YN MTSG CENEDL Y CYMRY. Riiif. 94. RHAGFYR 1, 1868. Pris 2g.—gydcCr post, 3c. UNDEB CERDDOROL DIRWESTWYR ERYRI. UNDEB CERDDOROL DIRWESTWYR ARDUDWY. Dtdd Mercher, Tach. 4, cynaliwyd Pwyllgor o gynrych- iolwyr yr Updeb uchod yn Nghaernarfon, dan lywydd- iaeth y Parch. J. Roberts (Ieuan Gwyllt). - 1. Etholwyd Mr. W. Parry, Bron y Wyddfa, yn Is- lywydd yr Undeb. 2. Trwy fod y Parch. J. Roberts yn bwriadu ymweled ag America yn ystod yr haf nesaf, etholwyd y Parch. Robert Lewis yn arweinydd; a phenderfynwyd ei fod i dalu ymweliad unwaith a phob un o'r corau ar ei ben ei hun, a'r ail dro a'r corau yn gynulledig yn y modd mwy- af cyfleus iddynt. 3. Derbyniwyd Cor Undebol Glan Padarn (Llanber- is), a Seindorf Bres Llandinorwig i'r Undeb. 4. Penderfynwyd fod y Gymanfa nesaf i gael ei chy- nal yn Nghastell Caernarfon, a bod yr Ysgrifenydd i fÿned i ymofyn am dano. 5. Penderfynwyd fod yr Undeb yn rhoddi gwahodd- iad i Mr. Joseph Parry (Pencerdd Amerìcà) yr hwn sydd yn bresenol yn yr Athrofa Gerddorol yn Llundain, i was- anaethu yn y Gymanfa nesaf fel canwr ac fel chwareu- ydd. 6. Yn unol a phenderfyniad blaenorol, cymerwyd y darnau y bwriedir eu canu gan y gwahanol gorau dan sylw, a rhoddwyd cymeradwyaeth i bob ur o honyut. 7. Bu sylw ar gais a ddygwyd yn mlaen gyda golwg ar ganu anthem y diweddar W. Owen, Tremadoc, gan y corau ynghyd yn y gymanfa nesaf. Sylwyd fod amryw ganoedd ar law gan Mrs. Owen, a'i bod yn ewyllysio eu gwerthu am haner y pris (9c. yn lle ls. 6c.); ond yn gy- maint a bód y darnau ar gyfer y gymanfa nesaf eisoes wedi eu dewis, yr oeddid yn gweled nad oedd dim i'w wneyd ond gohirio yr ystyriaeth yn nghylch yr anthem hon, ac anog y corau i'w cheisio a'i dysgu. 8. Bu sylw ar yr egwyddor Ddirwestol a broffesir gan yr Undeb ; arhoddwyd anogaethau difrifol i swyddogion pob cor perthynol i'r Undeb i edrych ar fod yr aelodau i gyd yn llwyr-ymwrthodwyr a'r diodydd meddwol. Heb hyn, ni bydd un ran o'r enw sydd ar yr Undeb ond gair gwag a thwyllodrus. Ctnaliwtd Pwyllgor yn Abermaw, ddydd Sadwrn, Hydref 24ain. 1. Bu sylw ar amser a lle y gylchwyl nesaf, a phen- derfynwyd fod hyn i fod dan ystyriaeth pellach. 2. Rhoddodd y cynrychiolwyr adroddiad o ansawdd y Corau. Dangosai yr adroddiad hwn fod rhai Corau yn bur drefnus gyda golwg ar dderbyniad i mewn, ac arol- ygiaeth dros yr aelodau mewn perthynas i'r adran ddir- westol a chymeriad moesol, tra nad oedd corau eraill mor drefnus yn hyn yma. Rhoddwyd anogaeth gref i'r corau i ymdrechu bod yn drefnus a rheolaidd, a gwnaed awgrymiadau i'r pwrpas hwnw, a phenderfynwyd ar- graffu tocynau aelodaeth i'r corau yu ol esiampl a gyf- lwynwyd i sylw. 3. Bu sylw ar y gyfres gyngherddau gan Mr. J. H. Roberts a Miss Evans, a threfnwyd eu hamser yn ni- wedd Tachwedd a dechreu Rhagfyr. 4. Penderfynwyd fod yr arian oddiwrth y cyngherdd- au hyn i gael eu talu i'r Pwyllgor. 5. Penderfynwyd anfon cais at Mr. E. Edwards (Pencerdd Ceredigion), Aberystwyth, i ddyfod yn arwein- ydd y gylchwyl nesaf, a dymuno arno ddyfod i "re- hearsals " gyda'r corau cyn hyny. 6. Dewiswyd geiriau Cymraeg ar " The Heavens are Telling," o waith llywydd yr Undeb, a phenodwyd y Llywydd a'r Is-lywydd i ddewis geiriau ar y tonau cy- nulleidfaol. 7. Penderfynwyd argraffu y geiriau a genir gan y corau ynghyd, yn llyfrau bychain fel o'r blaen. 8. Penderfÿnwyd os bydd rhyw gor neu band yn dewis ymuno â'r Undeb eleni fod iddo anfon cais at yr Ysgrifenydd cyn y dydd olaf o Tachwedd. Disgwylir i'r cor fod wedi ethol ei swyddogion ac ymíFurfio jn drefn- us cyn anfon y cais i mewn. 9. Tuag at y dyfodol, penderfynwyd fod unrhyw gor neu Band fydd am ymuno â'r Ündeb i anfon cais i'r Pwyllgor fydd yn cyfarfod yr wythnos olaf yn Tachwedd. Disgwylir i'r cor fod wedi ymffurfio yn drefnus cyn anfon y cais i mewn. 10. Penderfynwyd fod i'r corau anfon enwau y darn- au a ddewisir ganddynt i'w canu ar eu penau eu hunain, i'r Ysgrifenydd cyn diwedd mis Rhagfyr. 11. Penderfwyd fod y Pwyllgor nesaf i gy farfod ddydd Sadwrn, Chwefror 27ain, 1869. J, Jonbs, Ysg,