Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CEEDDOB CT AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; GYHOEDDEDIC DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBÂU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 95. IONAWR 1, 1869. Ptas 2g.—gydoìr post, 8c. HYSBYSIAD. Y mae Cyhoeddwyr y " Cerddor Cymreig " yn hysbysu nad ydynt o hyn allan yn bwriadu argraffu o hono ond y nifer a fydd yn ddigonol i gyflenwi archebion y Dosbarthwyr ; a dymunant hysbysu yn mhellach, na byddant yn alluog i gyf- flenwi archebion am ol-rifynau ond am y Gerdd- ORIAETH YN TJNIG. Y COR. [Yn Ebrill, Mai, a Mehefin, 1866, ysgrifenasom dair o erthyglau ar y Cor. Yn y gyntaf, dangosasora sefydl- iad a chyfansoddiad y Cor; yn yr ail, dangosasom ddos barthiad a threfniad y gwahanol leisiau yn y Cor; ac yn y drydedd, rhoddasom gyfarwyddiadau cyffredinol gyda golwg ar y modd i leisio a chanu. Yn bresenol, yr ydym yn myned yn mlaen, gan amcanu gosod gerbron ein cor- au gwrs o gyfarwyddiadau ac ymarferion, y rhai, os telir sylw priodol iddynt gan aelodau ein corau, a'u gwnant yn gantorion da; ac nid ydym yn meddwl y dylai un cyfarfod gael ei dreulio heb ryw gymaint o ymarferiad yn y pethau hyn. Yr anffawd fawr gyda golwg ar lawer yn ein corau ydyw, nad ydynt yn medd- wl am lafurio a dyfod yn mlaen. Ymfoddlonant ar ddy- fod i'r cyfarfodydd i weled eu gilydd a gwneyd ychydig o swn ; ond am lafurio ac ymdrechu gyda golwg ar ddy- fod yn ddarllenwyr da, ac yn gantorion deallgar ac eff- eithiol, nid oes ganddynt ddim blas i glywed am hyny. Bendith amhrisiadwy i holl aelodau ein corau fyddai credu mai nid cadw swn ydyw canu; ac nad ydyw dy- fod i gyfarfodydd canu, a threulio yr amser yno fel y gwna llawer ond y peth nesaf at dreulio amser yn ofer.] Ar ol deall natur, cylch, a nerth pob llais yn y Cor, y gorchwyl pwysig nesaf ydyw cyfartalu y gwahanol leis- iau. Y mae cyfartaledd priodol rhwng y lleisiau yn anhebgorol i ganu da. Pan oedd y beirniad mewn cyf- arfod cystadleuol a gynhaliwyd yn ddiweddar yn achwyn oherwydd yr anghyfartaledd oedd rhwng y Soprano a'r Bass, dywedodd Cynddelw, yn ol ei arabedd a'i barod- rwydd cyffredin;— " Mao y Bass yn gas o'i go' Os prin fydd y Öoprsuio." Wrth drefnu y mater hwn, y mae gan yr arweinydd nid i edrych am gyfartaledd yn y nifer, ond am gyfaital- edd yn swm y sain a gynyrchir gan bob rhan. Khaid iddo, gan hyny, ddeall yn dda beth ydyw nerth ac an- sawdd llais pob un sydd yn aelod o'r Cor; oherwydd ceir dau neu dri weithiau a ganant gymaint a chwech neu wýth o rai eraill; ac y mae lleisiau yn llanw mwy neu lai yn ol eu hansoddau. Mewn rhai ardaloedd hefyd ceir lleisiau y naill ran yn gryfach na lleisiau y rhan arall, fel y mae y Bass yn Arfbn a'r Soprano yn Ngweithfeydd Morganwg. Dylai yr arweinydd, gan hyny, arfer pob diwydrwydd i brofi nerth pob un o'r rhanau; ac os na ellir cael moddion i gryfhau y rhan fyddo yn wan, rhaid i'r rhan gref ofalu am ganu yn wan- ach. Oherwydd nid oes canu corawl da os na fydd y cyfartaledd wedi ei fantoli yn briodol. líîd ydys i ddeall wrth y cyfartaledd yr ydym yn son am dano fod pob rhan i fod yn hollol yn yr un cryfder. Fel rheol gyff'redin, cytunir y dylai y Soprano—y rhan sydd yn cynwys y brif felodedd, a'r Bass—y rhan sydd yn ffurfio sylfaen y gynghanedd, fod yn gryfach na'r rhanau canol. Dyweder fod holl nerth y Cor yn 60—nid 60 o bersonau, ond 60 o raddau cyfartal o ran nerth ; yna gallai y rhanau fod fel hyn :— Soprano ......... 17 Alto............... 14 Tenor ............ 12 Bass............... 17 ------ 60 Y mae eithriadau i'r rheol hon. Os bydd y gerddor- iaeth yn arddull ehedgan (fugue), yn yr hon y mae y testyn yn cael ei roddi i bob un o'r rhanau ar gylch, yna dylai y rhanau oll fod mor gyfartal ag y byddo yn ddichonadwy. Dylai y rhanau fod yn gyfartal hefyd pan na byddo ond lleisiau menywaidd, neu wrrywaidd yn unig yn cael eu defnyddio. Wedi trefnu y lleisiau fel y nodwyd—a charem ar- graffu ar feddwl pob arweinydd mai nid peth bychan a dibwys ydyw hyn, ond ei fod yn beth o'r fath bwys íel nas gellir ystyried y canu corawl yn dda hebddo, pa mor rhagorol bynagy dichon iddo fod mewn ystyriaethau ereill; —yr ydym yn myned yn mlaen i sylwi ar y gwaith. Y gorchwyl cyntaf oll ydyw dysgu lleisio. Gan ein bod wedi sylwi mor helaeth yn ein herthyglau ar " G-aniad- aeth," ac yn yr ail erthygl a nodwyd uchod, ar y dull priodol i leisio, nid ydym yn gweled yn a.ngenrheidiol ychwanegu dim yn y Ue hwn ar y pwnc. Ar ol dysgu lleisio yn glir ac yn naturiol, y gorchwyl nesaf ydyw arfer yr holl gor i gana mewn unsain ac mewn wýthfcd; oblegyd, os na fydd cydsain a chydasiad per-