Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT WASANAETH CERDDOMAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DÂN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAl), ÂC ÜNDEBÂU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 101. GORPHENAF 1, 1869. Pms 2g.—gijddr post, 3c. AT EDT GOHEBWYR. Yn gymaint a'n bod, oherwydd afiechyd trwm, wedi ein hanalluogi i dalu ymweliad yr haf hwn a'r Unol Daleithîau, byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Oepddor gael eihanfon i ni, i fod mewn llaw ar neu cyn yr 20/eci o'r mis, yn sysil fel hyn:—Rev. J. Roberts, Fron, Carnaruon. HYSBYSIAD. 2?i argreffir o'r Cerddor ond nifer digonol i gyflenwi archebion y Dosbarlhwyr. Ni byddwn o hyn allan yn alluog ond i gyflenwi y Gerddoriaeth yn unig fel ol-rifynau. Y COR. Yn ein gwers ddiweddaf, yr oeddym yn gwasgu ar y Corau yr angenrheidrwydd o ddysgu canu yn wan, ac ar yr arweinyddion a'r athrawon y pwys mawr o ymarfer a disgyblu eu corau yn hyn. Ond nid llai pwysig yw dysgu a gofalu am ganu yn gryf pan fyddo angenrheid- rwydd am hyny; ac y mae yn amheus iawn genym a geir mwy o ganu da yn gryf nag a geir yn wan gan gorau y wlad yn gyffredin. Yn rhy fynych, ceir bloeddio a gwaeddi yn ile canu yn gryf, a rhyw swn anadleiddiog, a disylwedd yn lle canu yn wan. Nid yw y gofal a'r drafferth angenrheidiol tuag at ganu yn effeithiol yn gryf nac yn wan yn cael eu cymeryd. Y mae ansicrwydd o ran cryfder yn llawn mor ddinystriol i gerddoriaeth ag ydyw ansicrwydd o ran sain neu o ran amser ; ac ni ddy- lai un arweinydd oddef y naill mwy na'r llall. Üs cryf íÿdd yn ofynol, ni ddylai ymfoddîoni ar ddim arall yn ei le ; ac os gwan, o'r ochr arall, ni ddylai gymeryd un math o swn na sain yn lle canu yn wan. Arferiad ag y bydd llawer yn syrthio iddi wrth ganu yn gryf, ac arferiad y tybia rhai eu bod yn tra rhagori ar eu cymydogion oherwydd eu bod yn ei dilyn, yw / Allegro. gwneyd math o ebychiad o'r fron o flacn y nod fyddo i'w seinio. Bydd yr ebychion hyny yn y cyffredih tua 3ydd, 4ydd, neu öed islaw y nod priodol, fel nad yw y sain gofÿnol byth yn cael ei daroganddynt yn glir ac yn gryno. Y maent yn canu rywbeth yn debyg i hyn:— iÜÜgIBüÌ=HÉÉl!l Yn lle- 'azz: :p3; ZZC2~ mm Ac y mae ambcll un mwy dysgedig na'r cyffredin yn barod i amddiffyn y dull hwn, gan haeru mai y dull goreu—"y dull clasurol"—"y dull Italaidd," o ganu ydyw. Ond "Italaidd" neu beidio, dylai yr arweinydd ei ysgymuno o'r Cor yn ddiarbed, oblegid y mae canu corawl da, effeithiol,'yn amhosibl gyda dull o'r fath. Dy- lai pob un yn y Cor ddysgu taro pob nod yn hollol glir a sicr, o ran nerth, amser, a thon. Wrth ganu yn gryf yr ydym yn golygu canu a holl nerth y llais; ac y mae ymarferiad a gofal mawr yn angenrheidiol tuag at wneyd hyn yn gystal a chanu yn wan. Heblaw yr hyn a nodwyd uchod, peth arall ag y mae cantorion yn dra thueddol o syrthio iddo ydyw taro y nod yn gryf, ac os bydd eisiau aros arno am rai taraw- iadau, gwanhau, naill ai ar unwaith neu yn raddol. Yn lle— Cenir Neu Y mae hyn yn ein dysgu mai y ffordd oreu i ddysgu canu yn gryf yw ymarfer i ddeehreu ar nodau byrion, ac wedi hyny, yn raddol, ar nodau hirach, a chymeryd nodau hirion yn olaf. lloddwn yma ymarferion mewn nodau byrion i ddechreu, ac yna mewn nodau hirach ac amser mwy araf:— y^gfcfrgga-:» ^^*È~^^Z^?^g^Z—=