Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

î CEEDDOE CYMEEIG: AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; GYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF CERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 117. TACHWEDD 1, 1870. Pris 2g.—gyddr post, 3c HYSBYSIAD. Ni argreffir o'r Cerddor ond nifer digonol i gyjlenwi archebion y Dosbarthwyr. Ni byddwn o hyn allan yn alluog ond i gyflenwi y Gerddoriaeth yn unig fel ol-rifynau. AT EOT G/OHEBWYB. Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cerddor gaeleihanfon i ni, i fod mewn Uaw ar neu cyn yr 20fed o'r mis, yn syml fel hyn:—Rev. J. Roberts, Fron, Oarnaroon. Y OYNWYSIAD. TDDAL. Cynhadledd Gerddorol Genedlaethol yr I fi1 Unol Daleithiau ................................. \ Undeb Canü Cynulleidfaol y Methodistiaid ) „„ Calfinaidd..........................................\ Eisteddfod Defynog................................... 88 Darlith Gerddorol........... ........................... 84 ystafell yr hen alawon............................. 84 Y, Diweddar J. D. Jones, Ehuthyn............... 85 Bwrdd y Golygydd.................................... 86 Marwolaeth Mr. Michael William Balpe...... 86 Lldndain................................................... 87 Y Cronicl Cerddorol.............:..................... 87 CYNHADLEDD GEEDDOEOL OENEDL- AETHOL YE TJNOL DALELTHIAU. Darllenwyd papyr ar y Gynhadledd newydd hon, ei hamcanion a'i dyledswyddau, o flaen y Gynhadledd, yn ^teinway Hall, New York, Awst 30ain, gan Mr. Henry C. Watson, Golyg^dd Watson's Art Journal. Sylwai yn gyntaf ar amcan y gynhadledd, sef cylymu holl gerddorion yr Unol Daleithiau mewn un frawd- oliaeth, gyda golwg ar ddyrchafu y gelfyddyd a'i phroffeswyr, a lledaenu cariad at gerddoriaeth, gwybod- aeth o honi, a'i dylanwad yn mhob teulu yn America. Tuag at hyn, y peth cyntafsydd yn angenrheidiol jw sefydlu Cymdeithasau Corawl yn mha le bynag y ceir nifer digonol o bersonau i wneyd hyn;—pob cymdeithas felly i gael y gerddoriaeth fyddo yn angenrheidiol arni oddiwrth y Gynhadledd am y pris a gostia. Rhoddir pob cyfarwyddyd gyda golwg ar sefydlu cymdeithasau, cyfartaliad y lleisiau, y gerddoriaeth a arferir, a'r dulí goreu i fyned yn mlaen, yn ddioed gan Ysgrifenydd y Gynhadledd. Gwaith arall ydyw gwasgu yr angenrheidrwydd am Weinyddu addysg mewn cerddoriaeth yn yr ysgolion cyhoeddus, Y mae canoedd o fìlocdd o ddoleri yn cael cu gwario bob blwyddyn yn y gwahanol daleithiau i'r amcan proffesedig o ddysgu cerddoriaeth i'r plant. Ond nid yw hyny ond twyll yn y ffurf waethaf. Yn îíew York, y mae y swm a delir o arian y cyhoedd am addysg gercdorol yn fawr iawn; ond beth sydd i'w ddangos am hyny ? Ceir arddangosiadau lleisiol ar amserau penod- edig, pryd y bydd yr holl gantorion yn canu wrth y glust. Nid oes dim un o'r ysgolheigion wedi cael yr addysg angenrheidiol i ganu wrth nodau, nac i ganu un frawdäeg gyda mwy o ddealldwriaeth nag a arddangosir gan y parot. A dyma yr addysg gerddorol a roddir i'r plant ac a delir am dani gan y bobl. Nid ydyw y bai ar yr athrawon. Mae y rhan fwyaf o honynt yn alluog ac yn gydwybodol, ac yn gwneyd eu goreu gyda'r moddion a'r amser a ganiateir iddynt. Y maent hefyd yn ddigllawn wrth y cadwynau sydd yn eu cadw yn gaeth. Mae y bai ar y gyfundrefn, a than hono y mae yr anwybodaeth ddygn sydd yn y byrddau addysg. Yn Boston a Massa- chusetts y mae yn wahanol. Ceir yno filoedd o blant yn gadael yr ysgolion wedi dysgu iaith newydd a phryd- ferth yr hon ni wyr ein gwîeidyddwyr ddim am dani. Rhaid i'r Gynhadledd hon edrych yn ddyfal ar fod y plant yn ein hysgolion cyhoeddus yn cael addysg briodol mewn cerddoriaeth. Trydydd peth yw rhoddi addysg gerddorol i weithwyr, o'r ddau ryw. Ar hyn o bryd, nid oes un sefydliad yn New York na Brooklyn tuag at hyn. Mae yr Ellmyn, y rhai mewn ystyr gymdeithasol sydd yn llawer doethach a hapusach na'r Americaniaid, yn rhifo eu cymdeithasau cerddorol wrth y canoedd. Nid ydynt yn cyfarfod i yfed diodydd meddwol, ac i ddadleu cwestiynau politic- aidd, ond i ganu. Fel hyn y mae yr ymarferiad a cherddoriaeth yn puro ac yn tynhau y cylchoedd cym- deithasol, ac yn lladd yr awydd am ddifyrion mwy Uygi-edig. Nid ydyw y perfformiadau o gerddoriaeth offerynol a geir yn y prydnawn yn ateb y diben. Yn hytrach na'r rhai hyn, rhodded yr awdurdodau wasanaeth rhyw adeilad cyhoeddus bob prydnawn, mewn gwahanol ranau o'r ddinas, lle y gallo y dosbarth gweithiol gael addysg mewn darllen wrth nodau a chaniadaeth. Byddai hyn yn fantais ac yn foddion hyírydwch iddynt yn mhob ystyr. Nid meddylddrych Utopiaidd, ond un hollol ymarferol, ydyw hwn. Y mae wedi dechreu gwreiddio yn y wlad hon. Yn Concord, y mae ysgolion canu i'r gweithwyr wedi eu sefydlu er ys dwy flynedd. Cynhelid hwynt ar y cyntaf trwy danysgrifìadau ; ond eleni y mae swm digonol o arian wedi eu rhoddi gan awdurdodau y ddinas. Nid yw hyn ond dechreu y diwedd. Bhaid i'r Gynhadledd hon edrych am fod yr un peth yn cael ei wneyd yn mhob dinas a thref trwy yr Unol Daleithiau. Pedwerydd peth ydyw sefydlu safon chwaeth gerddorol mewn cerddoriaeth fydol a chysegredig. Ar hyn o bryd y mae y safon yn isel. Y mae rhai eithriadau, rnegys y Philharmonic Societies yn New York a Brooklyn, y Church Music Association,yr Handel and Haydn Society yn Boston, y cymdeithasau cerddorol Ellmynig, a rhai cymdeithasau corawl eraill; ond y tu allan i'r rhai hyn y mae y chwaeth yn rhedeg yn nghyíeiriad cerddoriaeth