Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CERDDOR CYMR CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIO DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAÜ, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 138. AWST 1, 1872. Pjris 2g.—gyäoür post, 2£c. AT EIN GOHEBWYR. -Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Ceeddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ar neu cyn yr Wrfed o'r mis, yn syml fel hyn: —Bev. J. Roberts, Fron, Carnarwn. CYNNWYSIAD. TÜDAL. Cystadleuaeth Gerddorol y Palas Gwydr ..... .. 57 Cor y Deheudir a'i Fuddugoliaeth.......... 58 Hanes y Cor Cymreig Bnddugol.......... 59 Y Royal Academy oî Music............ 61 Cronicl Cerddorol ..........' ..... 61 Hanesion Cerddorol................ fi2 Amrywion ................... 63 CYSTADLEUAETH GEEDDOEOL Y PALAS GWYDE. Erbtn hyn y mae cystadleuaeth gerddorol genedlaethol y Palas Gwydr wedi myned heibio. Os llwyddiant sydd i fod yn safon, cafodd cenedl y Cymry achos digonol i íbd yn foddlawn yn y gystadleuaeth hon, oblegyd Cym- raes—Miss Anna Williams, Dowlais, a enillodd yn nghys- tadleuaeth y merched; Cymro—Mr. Dudley Thomas, a enillodd yn nghystadleuaeth y tenor; a chor Cymreig a gymerodd yr Her-wobr, cwpan aur o werth Mil o bunau. Ar y cyfan, pa fodd bynag, nid boddhaol iawn oedd cynyrch y cyfarfodydd hyn. Nid oedd y gystad- leuaeth, mewn un modd, yn deilwng o Brydain. Dydd Mercher, Meh. 26, yraddangosodd yr ymgeis- yddion yn y dosbarthiadau 8 a 10 (yr ymgeisyddion ar unodau soprano a tenor) o flaen y barnwyr i gael eu profi cyn ymddangos o flaen y cyhoedd. Y mae rhyw- beth i'w ddweyd yn mhlaid y dull hwn, lle byddo llawer o gystadleuwyr, ac yn enwedig os bydd lle i dybied fod amryw. o'r cyfryw yn rhai gwael. Ar yr achlysur hwn, pafodd bynag, ymddengys yn sicr nad ymddygwyd tuag at bob un o'rymgeiswyr gyda'r parch dyladwy; oblegyd, ar ol bod mewn llafur i ddarparu y gwahanol ddarnau, a myned yno, rai o honynt rai canoedd o filldiroedd o ffordd, y cwbí a gafodd nifer o honynt oedd canu am ychydig o eiliadau yn unig yn y prawf hwn. Yr oedd yn bresenol 19 o ymgeiswyr ar yr unodau tenor, ac ni ddewiswyd ond pedwar i gynyg yn gyhoeddus, ac aed trwy yr holl brawf (?) hwn mewn llai nag awr. Gwrth- dystiodd yr ymgeiswyr yn achos un, ac ychwanegwyd hwnw at y rhestr. O 16 o ymgeisyddesau ar yr unawd soprano, dewiswyd 6 i gynyg yn gyhoeddus. Daeth y gystadleuaeth gyhoeddus yn mlaen ddydd Iau (y 27), pryd yr oedd tua saith mil o ddynion yn bresenol. Ý tri beirniad a ddewiswyd gan y merched oedd Syr Julius Benedict, Signor Arditti, a Syr Stern- dale Bennett. Yr oedd y meibion wedi dewis y ddaù farchog, a Mr, Arthur Sullivan. Ac yr oedd Mr. Manns a'i fand yn chwareu. Enwau y merched a ganodd oedd Mdlle. Barthonska, Miss Bruce, Madam Cliaboillez, Mrs. Shelton, Miss Simpson, a Miss Anna Williams. Yr alaw a ganodd yr olaf oedd " Hear ye, Israel" o'r Elijah ; ac er fod rhai o'r lleill yn canu yn dda, dyfarnwyd y wobr (£30), ar unwaith i Miss Williams. Y mae ganddi lais soprano pur, llawn, a pheraidd. Gyda diwylliad priodol, hi a all ddyfod yn gantores o radd uchel. Enwau y meibion oeddynt Mri. E. Joel, S. H. Maggee, W. Bees, Tebbutt, a Dudley Thomas. Teimlid fod y canu yn y gystadleuaeth hon yn wáelach nag yn yr un flaenorol; ond canodd Mr. Dudley Thomas yn dda, ae enillodd y wobr yn hawdd. Y darii a ganodd oedd " Fra poco " o Lucia (Donizetti), Dydd Sadwrn (y 29) daeth dau ddosbarth arall yn mlaen, sef y contralto a'r bas. Y pedair a ganodd yn y cyntaf oedd Miss Chambers, Miss Emriclc, Miss Hancock, a Miss Standish. Y beirniaid a ddewisasent hwy oedd Sig. Arditti, Dr. Wylde, a Mr. Joseph Barnby. Yr oedd y gystadleuaeth yn un galed iawn rhwng Miss Hancock a Miss Emrick—mor galed yn wir fel y bu raid iddynt ail ganu. Ar ol hyny, dyfarnwyd y wobr i Miss Hancock. Daeth chwech o ddynion yn mlaen i gystadlu ar yr unod- au bas, sef Mri. F. W. Crotty, G. Halford, C. Prince, H. A. Pope, G. H. Wooley, a J. L. Wadmore. Y beirniaid oedd Syr Sterndale Bennett, Sig. Arditti, a Mr. A. Sullivan. Dyfarnwyd Mr. Wadmore yn fudd- ugol, yr hwn sydd yn efrydydd yn y Eoyal Academy qf Music. Am 4, cafwyd cyngherdd, yn mha un y canodd y pedwar ymgeisydd gwobrwyedig, ynghyd a Miss Edith Wynne, Madam Patey, a Mr. Santley. Dydd Mawrth (Gor. 2) cafwyd cystadleuaeth mewn canu corawl, rhwng cymdeithasau o leisiau cymysg, heb fod dros 200 mewn nifer. Y beirniaid dewisedig oedd Syr J. Benedict, Mr. Barnby, a Mr. A. Sullivan. Daeth tri chor yn mlaen, sef Cymdeithas Gorawl Deheubarth Llundain (cor Tonic Sol-ffa) dan arweini'ad Mr. L. C. Venables; Cymdeithas Gorawl Brixton, dan arweiniad Mr. Lemare; a Chor Cymdeithas y Tonic Sol-ffa, dan arweiniad Mr. Joseph Proudman. Dyfarnwyd y wobr (£100) i'r olaf. Ni chynygiodd ond Cymdeithas Brixton ar ddarllen darn ar yr olwg gyntaf; a chawsant y dyst- ysgrif. Yr oedd y gweddill o gysatdleuaeth y dydd hwn rhwng bands milwrol; a chafwyd cyngherdd am 4 o'r gloch. Dydd Iau oedd dydd mawr y gystadleuaeth. I ddechreu, enillodd Undeb Corawl Bristol, dan ar- weiniad Mr. Alfred Stone am ganu nifer o'r darnau a osodasid i gorau gwrrywaidd. Y wobr hon oedd £50 ; a chanodd cor Sol-ffa Mr, Stone yn rhagorol. Enillas- ant hefyd dystysgrif am ganu darn ar yr olwg gyntaf.