Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DDOR CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, GORAU, AG UNDEBAU GERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 139. MEDI 1, 1872. Pris 2g.—gyädr post, 2£c. AT EDST GOHEBWÎR.-%äii ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cerddoe gael ei hanfon i ní, ifod meion llaw wrneucyn yr Wfed o'r mis, yn syml fel hyn :—Rev. J. Robcrts, Fron, Carnanon. CYNJNWY: IAD. Y diweddar Dr. Lowoll Mason Cylchwyl Gerddorol Boston Coleg Ccrddorol Cymreig yn America Mozart yn chwareu heb Gopi friodas Mademoiselle Nilsson Congl yr Efrydydd Ieuane Êwrdd y Golygydd Ystafell yr Hen Alawon At ein Gohebwyr Y Wasg Gerddorol Cronicl Cerddorol Hanesion Cerddorol Amrywion Y DIWEDDAE Db. LOWELL MASON. Nid yn aml y cafwyd neb a weithiodd í'wy yn achos cerddoriaeth na Lowell Mason. Ganwyd ef'yn Massa- chusetts, ar yr 8fed o Ionawr, 1792. Amlygodd dalent at gerddoriaeth pan yn ieuanc iawn ; a phryd nad oedd ef'e eto ond plentyn, yr oedd yn arweinydd cor yn un o eglwysi ei dref enedigol. Ymadawodd o Massachusetts, a chafodd le fel ysgrifenydd mewn ariandy yn Savannah, a dewiswyd efyn arweinydd canu yn yr Eglwys Bresbyter- aidd. Yno y gwnaeth efe ei gasgliad cyntaf o Gerddor- iaeth Eglwysig, ac y cyfansoddodd y fwyaf poblogaidd o'i holl Donau Cynulleidfaol, ar Emyn Genhadol Heber (Missionary, Llyfr Tonau Cynulleidfaol, Khif. 110). Cafodd ganiatad yr Ariandy i fyned oddi cartref, a chy- öierodd ei daitb i Philadelphia, i geisio cael rhyw ffordd i gyhoeddi ei lyfr. Cynygiodd ei gopi i'r cyhoeddwyr, y tiaill ar ol y llaíl, am ddim ond ychydig o gopiau o'r llyfr; ond nid oedd neb a'i cymerai. Aeth oddiyno i Boston ; ond bu yr un mor aflwyddianus yno. Pan ar gychwyn yn ol, yn siomedig, i Savannah, cyfarfu gwr bonheddig ag ef, yr hwn, ar oi edrych dros y copi, a datgan cymer- adwyaeth iddo, a ofynodd ganiatad yr awdwr i'w ddangos ì Fwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas Handel a Haydn yn Boston, o ba un yr oedd efe yn aelod. Cymerodd y gymdeithas hono y gwaith dan ei nawdd ; cyhoeddwyd ef; a daeth y cyhoeddiad cerddorol mwyaf poblogaidd yn America. Mewn ychydig iawn o amser, yr oedd 17 o argraffiadau o hono wedi eu cyhoeddi. O hyny allan, ymgysegrodd Lowell Mason yn llwyr i wasanaeth cerdd- oriaeth. Ymsefydlodd yn Boston, penodwyd ef yn or- ganydd yn Eglwys Dr. Lyman Beecher (tad Mrs. H. Beecher Stowe, a'r Parch. Henry Ward Beecher), a dechreuodd o ddifrif ar y gwaith o ddarlithio ar gerddor- iaeth a chyhoeddi llyfrau ccrddorol. Gwelodd ar unwaith y fantais o fabwysiadu cyfundrefn Nägeli, yr hon syddyn seiliedig arddull Pestalozzi; ac nid un o'r pethau lleiaf pwysig am ba rai y mae America yn ddyledus iddo oedd rhyddhad o gaethiwed gormesol y " doh sefydlog." Daeth yn fuan i gael edrych arno fel y mwyaf' pwysig, mwyaf goleuedig ei farn, a mwyaf medrus fel athraw, mewn cysylltiad a cherddoriaeth yn America. Ymun- odd dynion galluog eraill, megis Thomas Hastings, G. I. Webb, J. B. Woodbury, gydag ef; ac yr oedd W. B. Bradbury, G. F. Root, T. F. Seward yn falch o gael galw eu hunain yn ddisgyblion iddo. Trwy ei lafur ef, a chynorthwy ei gyfeillion, y daetb y dosbarth cerddorol yn sefydliad mor effeithiol yn yr Unol Daleithiau, ac y sefydlwyd Academi Gerddorol Boston, a'r Cynhadleddau Cerddorol a gynhelir yn Am- erica bob blwyddyn, y rhai a wnant gymaint dros gerdd- oriaeth yn y wlad. Pa beth bynag ydyw sefyllfa bres- enol cerddoriaeth yn yr Unol Daleithiau, cyfiawnder ydyw dweyd ei fod y peth ydywyn benaf trwy offerynol- iaeth Lowell Mason. Yn fuan ar ol i Mr, W. E. Hick- son, tad cerddoriaeth yn yr Ysgolion yn Mrydain, ddechreu ar ei waith yn y wlad hon, cafodd Lowelí Mason awdurdodiad i ddwyn cerddoriaeth i mewn i Ysgolion cyhoeddus Boston. Ac nid oes neb a wyr am America na wyr hefyd am ddylanwad cerddoriaeth ei hysgolion. Efe hefyd, trwy ei ddarlithiau, ei ddosbarth- iadau, ei gyfansoddiadau Uiosog, a'i gyhoeddiadau cerdd- ol, a roddes i gerddoriaeth yn America ei ffurf a'i nod- wedd yn ystod yr haner can' mlynedd diweddaf. Nid oedd neb yn deall sefyllfa ac angen presenol ei wlad yn well nag ef. Dichon fod gwahaniaeth barn yn mysg beirniaid cerddorol ynghylch gwerth sefydlog a pharhaol ei gyfansoddiadau. Y mae rhai a ddadleuant ìddo enill llawer o'i boblogrwydd ar dranl bod yn rhy arwynebol. Pa fodd bynag am hyny, y mae yn ffmith fod ei gerddoriaeth ef a'i ysgol yn dra phoblogaidd ; a thrwy ei fod yn gy- sylltiedig a barddoniaeth foesol a chrefyddol, y mae wedi ac yn gwneyd daioni anhraethadwy. Yn 1821 y cyhoeddodd efe ei gasgliad cyntaf o Donau. Yn 1837, dacth drosodd i Ewrop, a dychwelodd yn llwythog o ffrwy th ei sylwadau ar gerddoriaeth yn yr hen fyd, ac yn enwedig ar y dulliau o weinyddu addysg gerdd- orol. Yn 1855, anrhydeddwyd ef gan Brif Athrofa New York â'r gradd o Ddoctor mewn Çerddoriaeth. Efe oedd y cyntaf a gafodd y radd hono yn America. Daeth drosodd drachefn iEwrop; a rhoddodd gymorth gwerth- fawr yn narpariad y Casgliad o Donau, &c, aẁwasanaeth Capel Weigh House (Capel Mr. Binney). Yr oedd yn cadw yn iachus a bywiog hyd o fewn rhai wythnosau i'w farwolaeth. Bu farw yn ei gartref yn Orange Valley, ar yr lleg o Awst, 1872, yn yr unfed flwyddyn a phedwar ugain o'i oedran.