Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CERDDOR CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; GYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y CENEDL Rhip. 143. IONAWR 1, 1873. Pris 2g.—gydcûr post, 2|ç. AT EIN GOHEBWYB. -Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Ceeddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw arneucyn yr Wfed o'r mis, yn syml fel hyn:—Bev. J. Boberts, Fron, Carnarvon. CrHNWYSIAD. TUDAL. I. Handel .. .............. 1 Cystadleuaeth y Palas Gwydr .......... 2 Beirniadaetfa Eisteddfod Taibacfa ........ 3 Eisteddfod Gerddorol Aberdar .......... 4 Undeb Cerddorol Sir Ddinbych.......... 4 Undeb Cerddorol Dirwestwyr Ardudwy.......... 5 Marwolaetfaau.................. 5 Cor Morganwg................ 6 Cronicl Cerddorol ............... 6 Amrywion ................... 7 I. HANDEL. [Tr ydym yn bwriadu rhoddi yn y Oerddor y flwyddyn hon fywgraffiadau o brif gerddorion y byd.—Öoì.] Nid ydyw gweithiau neb o'r prif gerddorion mor ad- nabyddus i genedl y Cymry ag ydyw gweithiau Handel, a<5 yn enwedig ei brif waith, sef yr oratorio Messiah ; ac eto, dichon fod llawer o'n cantorion heb wybod ond ychydig am hanes y cyfansoddwr hwn ag sydd yn sefyll hyd yn hyn fel y blaenaf ar ryw gyfrifon o holl gyfan- soddwyr y byd. Ganwyd George Frideric Handel* (neu Händel) yn Halle, Sacsoni Isaf, ar y 23 o Chwefror, 1685, nid 1684, fel y mae ar ei gofgolofn yn Mynachlog Westminster. Yr oedd Germarii y pryd hwnw heb enill yr anrhydedd o fod y wlad fwyaf cerddorol ar y ddaear. Hyd hyny, yn wir, nid oedd un cerddor o allu tra neillduol wedi codi yn y wlad hono. Edrychid tuag at Itali am ger- ddorion a cherddoriaeth; a syniad tad Handel oedd y syniad cyífredin yn Germani am y gelfyddyd:—" Y mae cerddoriaeth yn gelfyddyd brydferth ac yn ddifyrwch dymunol; ond fel galwedigaeth nid oes yn perthyn iddi ond ychydig o urddas, yn gymaint ag nad oes iddi ddim amcan uwch na difyrwch a phleser." Tra yr oedd ei dad, meddyg cyfrifol, yn coleddu y fath syniadau, nid rhyfedd oedd i George gyfarfod ag anhawsderau na fuasai dim ond yr athrylith uchaf ynghyd a'r penderfyniad mwyaf di-ildio yn eu gorchfygu. Ni roddid caniatad iddo fyned i un gyngherdd, nac hyd yn nod i ysgol gy- hoeddus, rhag cael ei lygru gan gerddoriaeth. Y r oedd yn rhaid iddo ddysgu Lladin gartref, a phenderfynu dyfod yn feddyg da fel ei dad, a gadael cerddoriaeth i ffidlwyr Itali a digrif-chwareuwyr Efrainc. Ac eto, nid * Ysgrifenai eraill yr enw yn wahanol; ond dyma y dull yr ysgnfenai ef ei enw ei hun bob amser wedi dyfod i Brydain. yn ddiarwybod i'w famaeth, os i'w fam, yr oedd gan y plentyn offer cerdd (dumb spinet)* yn guddiedig mewn ystafell fechan yn nhop y ty, a chyda hono, yn lladrad- aidd, heb air o gyfarwyddyd gan neb, yr oedd efe wedi dysgu chwareu yn dda erbyn ei fod yn saith oed. Digwyddodd yn yr adeg hono i'w dad benderfynu talu ymweliad a mab arall iddo ag oedd yn ngwasanaeth Duc Saxe-Weisenfelds. Dymunai George fyned gydag ef, ond ni chaniatai ei dad. Pan oedd y cerbyd yn cych- wyn, rhedodd George ar ei ol, ac ni fynai ei rwystro ; a bu raid i'w dad ei gymeryd gydag ef. Ar ol cyrhaedd palas y Duc, gwnaeth George ei ffordd i'r capel, ac at yr organ. Clywid yr organ yn cael eu chwareu, ond deallai y Duc fod yno ryw law heblaw ei organydd ef; a phwy oedd yno ond George. Cyffrodd ei dad yn fawr iawn ; ond cymerodd y Duc blaid y cerddor ieuanc, a dywedodd wrth y tad fod ei fab yn feddianol ar athrylith gerddorol hollol anghyffredin, ac na ddylai mewn nn modd sefyll ar ei ffordd, ond rhoddi pob cefnogaeth iddo. Ni ang- hofiodd Handel y Duc byth, a mynych y byddai yn adrodd yr hanes gyda hyfrydwch. Ar ol myned adref, yr oedd y cwbl wedi newid. Cyfeillion yn rhyfeddu, cefnogaeth, nawdd, a chyfleusterau oedd yn gwlawio arno beílach. I ddechreu rhoddwyd ef dan ofal Sackau, organydd Halle, yr hwn oedd yn gerddor dysgedig yn holl wybodaeth a cherddoriaéth yr hen ysgol. Rhoddai wersi i George yn egwyddorion y gelfyddyd, a rhoddodd ef ar waith i ddadansoddi yn mron bob cyfansoddiad ag oedd i'w gael ar y pryd yn Itali a Germani, ac i gyfansoddi cantata neu motet bob wythnos. Ar yr un adeg, ymberffeithiodd Handel mewn chwareu yr organ, yr harpsichord, y violin, ac uwchlaw y cwbl yr liautboy, yr hwn oedd ei hoff offeryn. Ar ol bod yn dysgu, yn cyfarwyddo, ac yn haner addoli ei ddisgybl felly am tua thair blynedd, addefodd yr hen organydd mai cwbl ofer oedd i'r plentyn aros gydag ef yn hwy—ei fod yn gwybod mwy nag ef. Yn y flwyddyn 1696 (nid 1698 yn ol Burney ac eraill) efe a anfonwyd i Berlin, lle yr oedd gan Etholwr Bran- denburg y sefydliad cerddoröl blaenaf yn Ewrop ar y pryd, a hufen talent gerddorol Itali yn cael ei ddwyn yno. Y prif feistriaid y pryd hwnw oedd Attilio Ariosti a Bononcini—dau Italiad ag yr oedd eu cyfansoddiadau yn y bri uchaf. Gwelodd Attilio dalent y plentyn a ddaethai yno o Halle ar unwaith, ac yr oedd yn ddigon syml a gonest i'w gydnabod. Dywedir y byddaf yn ei gymeryd ar ei glin, ac yn ei gadw yno i chwareu ei harpsichord am oriau. Yr oedd Bononcini o dymer wahanol. Chwerthin am ben y plentyn a'i ddirmygu a wnai efe ; ac er mwyn taflu digon o sarhad arno, efe a gyfansoddodd ddarn o gerddoriaeth o'r fath anhawddaf ag a allai, ac a'i taflodd o flaen George i'w chwareu ar yr olwg gyntaf. Gosododd yntau y copi ar yr offeryn * Offeryn bychan ysgwar, gyda thanau wedi eu gorchuddio a brethyn.