Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CERDDOR CYMREIGL Gjjglŵgraum Httsûî at ttrasanaeíh d^rdteiarih gm mpjg jí %mrg. Cyhoeddedig dan nawdd prif Gerddorion, Corau, ac Undebau Cerddoiol, y Genedl. Rhif. 2. EBRILL 1, 1861. Prìs 2g.-—gydá'r post, 3c. ©nnntopsíaìf. CEEDDOBIAETH YN Y RHIFYN EWÌT, Anthem.—"DEUWCH, CANWN I'Ä ARGLWYDD," gan J. A. Lloyd. Tu dal. Hanes Cerddoriaeth ... ... ... 9 Bywgraffyddiaeth .., ... ... 11 Egwyddorion Cerddoriaeth ... ... ... 12 Cynghanedd (Harmony) ... ... ... ]3 Trem ar y Byd Cerddorol ... ... ... 14 Y Wasg ürerddorol ... ... ... 15 Hysbysiadau ... ... ... ... ... 1' Ç>ane0 CerDDoríaetf). PEN. II.—DECHREUAD CERDDORIAETH. Whth dreiddio i mewn ac ymofyn i ddechreuad y gwahanol wyddorau, nid oes dim yn amlycach na 'u bod oll yn tarddu oddiar yr uo gwreiddyn, yn gysylltiedig anwahanadwy wrth eu gilydd, ac yn cydweithredu y naill er gwasanaeth y llall. Canfyddir hwynt yn cyehwyn o'r un ífynnonell ddwyfol, yn ymddadblygu dan lywodraeth deddfau cyffelyb, ac yn cydweinyddu i'r unrhyw amcanion gogoneddus. Athrouyddu ary gẃydd- oriou ydyw, y meddwl crëedig yn dyfod i gyfar- fyddiad â meddwl anfeidrol y Creawdwr, yii ei sillebu o lythyren i lythyren, ac yn ei ysgrifenu allan er gwasanaeth ei gydfeddyliau. Yn eu dechreuad, ymddengys yr holl wyddorau fel un paladr syml, unrhywiol; ond yn nhreigl oesoedd, y mae canghenau yn ymdori allan ym mhob cyí- eiriad, a changhenau ar gaughenau, ac ar y rhai hyny drachefu, yn ddiddiwedd. Olrheinier y wyddor a fyner tuag yn ol, a cheir hi yu dyíbd yn fwyfwj} unrhywiol. Iaith, er engrhaifft, yr hon erbyn hyn sydd wedi ymdori allau yn gan- noedd o ganghenau gwahanryw, a channoedd o'r rhai hyny yn cynwys miloedd íawer o eiriau, o bob math, ffurf, ac ystyr; dylyner y canghenau brigog hyn i lawr tua'r gwraidd, a cheir y ceinc- iau yn dyfod yn fwy anaml, ac o'r diwedd, yn unol a thystioíaeth dwyfol ddatguddiad, â pha un y cydsynia Max Müller, Barwn Bunsen, a phrif ysgolorion y byd, mae y cwbl yn dyfod }rn un iaith, a'r un hono heb ond ychydig o eiriau Bymlion yn perthyn iddi. Mae yr un peth yn wirionedd gyda golwg ar gerddoriaeth. Rai blynyddoedd yn ol, yr oedd cerddoriaeth leisiol ac offerynol heb ymwahanu, a barddoniaeth a cherddoriaeth, megys uu golfen ddyblyg, heb ymddadgysylltu. Tchydig yn is, gwelir y pren heb y ganghen ffyrf, doreithiog o gynghanedd. Yn îs i lawr drachefn, y mae melodedd heb ond ychydig iawn o frigau, ac amser yn rhyw un brigyn bychan syml. Eai graddau i waered drachefn y mae cerdd a dawns yn ymwahanu; ac oddiyno i'r gwaelod nid oes ond un paladr symì o fydr, mewn ymadrodd, sain, a symudiad, —y bardd, y cerddor, a'r dawnsiwr yn yr un person. Wedi dilyn ein llwybr hyd y fan hon, yr ydym yn teimlo awydd i ymofyn âg anian paham y mae felly; ond gyda bod y cwestiwn yn ym- ffuríìo yn ein mynwes, y mae cyfres o amgylch- iadau yn ymwthio ger ein bron, a phob un a'i auadl yn ei wddf am roddi gair o eglurhad ar y mater. Dacw Mr. Jones yn myned i'r ardd at y cî mawr, Sainbo, yr hwn sydd wedi bod yn rhwym wrth y gadwen trwy y dydd, ac yn erfyn ar Ruth y forwyn,.a phawb a elai heibio, am gael ei ollwng yn rhydd. Gyda bod Mr. Jones yn ei gyfarch yn garedig ac yn dynesu ato, dyna ei lygad yn dân byw, y mae yn ymgynhyrfu tíwy ei holl auian gan lawenydd, y mae yn. curo ei gynffon (sef ei dabwrdd,) yn canu, ac yn dawn- sio ; ac fel y mae ei feistr yn ceisio ymafael yn y gadwen i'w dadfachu, mae yr holl gi niewn cynghanedd a dawns, fel y mae bron yn amhos- ibl ei ryddhau; a dyna gyfansoddi, datgan, a dawnsio fydd gauddo ar ei olljrngiad yn rhydd. Yr ydym yn cymeryd ein hengraifft ar dir mor isel er mwyn cael mantais i weled yr egwyddor yn ei symlrwydd. Yr egwyddor hono yw:— Fod unrhyw gynhyrfiad ar y g'iau (organau y teimlad) yn effeithio cynhyrfiad cyfatebol ar ÿ cyhyrau, ac yn ol ei angherddoìrwydd, yn cyn- yrchu tnydr mewn lleferydd, llais ac ysgogiad. Pan welo y plentyn bach ryw liw tlws, neu pan glywo ryw sain newydd a hyfryd, y mae yn llamu o orfoledd ar fraich ei fam—y mae yn gwaeddi dros yr holl dŷ, yn ysgogi trwy ei holl gorph, ac yn curo a'i law. Pan fyddo y siaradwr medrua yn tywallt ei areithyddiaeth gynhyrfiol ar ei gynnuìleidfa, ceir ei gweled yu. ymdòni yn fyd- ryddol iel y goedwig yn ngafael yr yatorm, neu