Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CERDDOR CYMREIG. %lcfcgraam JPtisoî ü tmmwáìt (SjtrMomüìt pt mgsjg g dfemrg. Cyhoeddedig dan nawdd prif Gerddorion, Corau, ac TTndebau Gerddorol y Genedl. Ehip. 20. HYDEEE 1, 1862. Pris 2g.—gydaW post, 3c. ©pnntonstai*. CEEDDOMAETH YTS Y EHIFYIT EWIf, CjLNia.—"T'REWCH, T'REWCH Y TANT;" gan "Tannhauser," sef D. Lewís, Llanrbystyd. Hímn.-" AED MAWL A GWEDDI;" gan Dr. Tye. Tü DAL. Bywgraffyddiaeth..................... 153 Cynghanedd {Harmoný) ............... 154 Cymanfa Gerddorol Gwent a Morganwg ...... 156 Cylchwyl Gerddorol Caerloyw ............ 157 Eisteddfod Caernarfon.................. 158 Bwrdd y Golygydd.................... 159 Cronicl Cerddorol..................... 159 Hysbysiadau ........................ 160 IBjŴJgrafl^îiîJÍaCtl) (BiographyJ. M0ZART. {Parhad o tu dal. 146.) Ae eu dychweliad adref, yn niwedd Mawrth, 1771, yr oedd llythyr yno yn eu haros oddiwrth eu cyfaill Count Firinian, yn enw yr ymherodres Maria Theresa, yn ceisio gan Wolfgang gyfan- soddi Serenata ar yr achlysur o briodas yr Archdduc Ferdinand, pa un oedd i gyineryd île yn yr hydref dyfodol. Tr oedd yr hen gerddor I enwog Hasse hefyd i ysgrifenu Opera ar gyfer | yr un amgylchiad. Enw y gwaith hwn o eiddo j Mozart yw " Ascanio in Alba." Aeth ei dad ac | yntau i Milan, a chawsant dderbyniad groesawus ! gan y briodferch frenhinol. Mor fuan ag y | daethant i'r golwg, hi a redodd i'w cyfarfod, tyn-1 odd ei inaneg, a dechreuodd eu cyfarch yn mhell cyn eu bod wedi dyfod yn mlaen ati. Erbyn edrych, pa fodd bynag, yr oedd y farddoniaeth heb ddyfod i law; ac ni ddaeth hyd ddechreu Medi, ac wedi hyny bu raid ei hanfon yn ol i wneyd rhai cyfnewidiadau; a'r canlyniad oedd, na chafodd Wolfgang ond ychydig gyda phythef- nos at gyfansoddi y gerddoriaeth. Erbyn ei dyfod allan, yr oedd yn rhoddi boddlonrwydd cyffredinol i bawb; a phan chwareuwyd hi, ynghyd âg Opera Hasse, yn mhresennoldeb y pâr ieuainc brenhinol, yr oedd pawb yn teimlo ar unwaith fod cyfansoddiad y Uanc yn tra rhagori ar yr eiddo yr hen feistr; yn wir, yr oedd yr olaf wedi ei daflu yn gwbl i'r cysgodion. A dywedodd Hasse yn onest wrth ei gyfeill- ion :—" Y mae y bachgen hwn yn sicr o'n taflu ni i gyd i'r cysgod." JN~id ychydig oedd hyu oddiwrth hen gerddor ag nad oedd ueb yn ei ddydd a'i tatlai i'r cysgod ond Handel ei hun. Taflodd Mozart luaws o fân gyfansoddiadau i fodolaeth tua'r amser hwn, y rhai y byddai yn rhy faith eu henwi. Tn wir, gellir dweyd mai pan y byddai yn brysur gyda rhyW gyfansoddiad o bwys y byddai ei awen yn fwyaf haelfrydig ar fân ddarnau. Pan wrthi o ddifrif nid oedd pall na thrai ar ffrydlif ei athrylith; ac yn nghanol ei holl lafur i gyd, y mae ei lythyrau, neu y nodynau a ysgriblai ar ddiwedd llythyrau ei da'd, yn llifo ôrosodd gau fywyd. Feí hyn yr ysgrifenai at ei chwaer un dydd;—"Gellwch chwi obeithio, meddwl, credn, bod o'r farn, yrngad- arnhau yn y dybiaeth, dyfalu, dychymygu, dar- lunio i chwi eich hun, a byw mewn hyder ein bod yu iach ; ond gallaf fi ddweyd yn sicr ein bodfelly." Tn ngwanwyn y fl. 1772, etholwyd archesgob newydd i Salsburg ; a chyfansoddodd Wolfgang Serenata newydd gogyfer a'r amgylchiad; y geiriau gan Metastasio. Gan fod y fath gy- sylltiad rhwng y dyn hwn â gyrfa ddyfodol y cerddor, dichon y carai y darllenydd gael gair neu ddau o ddisgrifiad o hono. Yr oedd yn ddyn tàl o gorpholaeth, o edrychiad balcb, uchel, ac'awdurdodol. Nid oedd ganddo ddim chwaeth at gerddoriaeth. Ei brif hyfrydwch oedd ceffyl- au, cwn, saethu, a bod yn nghanol boneddigesau glân o wedd ac ysblenydd o wisgiad. Prin y geilid dychymygu am neb yn fwy annhebyg i Mozart, nac yn llai galluog i'w ddeall a'i werth- fawrogi. Araf iawn ydoedd i gredu fod diin neillduol yn y llanc oedd yn llywyddu cerddor- iaeth ei lys. Heblaw y llu mawr o ddarnau bychain á gyf- ansoddodd Mozait tua'r adeg hon, efe a gyfan- soddodd "Litani" ardderchog, yr hon sydd yn dra adnabyddus ac arferedig, ac yn mha un y ceir cyfleustra teg i weled galluoedd Mozart fel cyfansoddwr pan yn 16 oed. Tn mis Hydref, aeth gyda'i dad i Milan unwaith eto. Ei neges y tro hwn oedd i gyfan- soddi Opera newydd, " Lucio Scilla" erbyn dechreu y flwyddyn. Pan wrth y gwaith hwn, efe a ysgrifenai at un o'i gyfeillion:—" Y mae