Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CERDDOR CYMREIG. AT WASAMETH CEEDDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMEY. CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDOPJON", CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Ehif. 59. IONAWR 1, lí Pris 2g.—gyddr post, 3r; COF-NODIADAU, Yn awr, ar derfyn y bummed flwyddyn o'n hoed- ran, dichon y goddefir i ni daflu ein golwg yn ol, ac adgoffa rhai o'r prif bethau a ddigwyddasant yn ystod ein bywyd. Mae yn ddiau fod y byd yn myned yn mlaen, ond dylid cofio mai nid rnewn llinell uniongyrchol. Yn myned rhagddo y mae, fei llanw y môr; ond nid ydyw pob tòn yn ymdaflu yn mhellach na'r un oedd yn ei rhagfiaenu. Myned yn mlaen, yr ydym yn ymdrechu credu, y mae cerddoriaeth ; ond nis gallwn weled yn hollol fod y tònau a redant i'r lan y blynyddoedd hyn, ar wahanol draethau Ewrop, yn rhedeg yn mellach na rhai a aeth o'u blaen. Y/n Germani, yn Itali, yn Ffrainc, ac yn Lloegr, nid oes un cyfansoddiad neillduol iawn wedi ymddangos, yr un sefydliad tra nodedig wedi ei osod i fyny, nac un cerddor na chantor o allu tra anarferol wedi dyfod i'r gol- wg. Collwyd rhai enwogion oddiar yr esgynlawr yn ystod y pum mlynedd diweddaf, rhai trwy angeu, ac ereill trwy wahanol amgylchiadau. Cy- merwyd ymaith gan angeu y mwyaf a adawsidyn ngweddill o holl gyfansoddwyrEwrop, sef Meyer- beer. Er na chyrhaedda efe at y cedyrn cyntaf, nid amgen Handel, Bach, Haydn, Mozart, Bee- thoven a Mendelssohn, nid oes ar y maes yn bre- senol un cyfansoddwr ag sydd yn gyfartal iddo ef. Y mae Rossini ac Auber, mae yn wir, yn fyw; ond prin y mae y byd cerddorol yn gwybod hyny oddiar ddim a wneir ganddynt y blynyddoedd hyn ; y mae Yerdi yn parhau i gael ei addoli gan ei gyfeillion., a Gounoud yn dyfod yn fwy cymer- adwy fel y niae yn cael ei adnabod yn well, Wag- ner, yn parhau i gyfansoddi " cerddoriaeth i'r dyfodol," a gwahanol gyfansoddwyr Lloegr yn ysgrifenu fel rhai ag y mae yn amlwg eu bod yn gyfarwydd a cherddoriaeth: ond ychydig o ys- brydoliaeth a deimlir yn ngweithiau neb o honynt, Bu farw Wallace a Linley hefyd. Yr oedd y blaenaf wedi dyfod yn hynod o boblogaidd fel ysgrifenydd operas o nodwedd ysgafn, a'r olaf— adwwr y geiriau Saesoneg, "God blessthe Prince of Wales "—wedi ysgrifenu llawer iawn o fardd- oniaeth a cherddoriaeth yn ei ddydd. Cymerwyd ymaith hefyd rai cantorion o enwogrwydd, ac yn eu mysg y tenor tra swynol Guiglini, ar ol nychu am fwy na deuddeng mis mewn gwallgofdy. Coll- wyd rhai cantorion a chantoresau oddiar yr esgyn- lawr trwy achosion ereill. Ymneillduodd Clara Novello, ar ol cadw ei lle f el un o brif gantoresau Ewrop am yn agos i chwarter canrif, i fyw gyda'i theulu yn Itali. Collwyd Herr Formes, y bass Ellmynig, o Ewrop, ac aeth i wasanaethu gwled ■ ydd y gorllewin am dymor. Y mae Jenny Lind (yr hon sydd yn bresenol yn Nice, oherwydd gwael- edd ei hiechyd), Grisi, Alboni, Garcia, a Mario, yn ol ac yn mlaen, weithiau yn canu ac weithiau yn peidio ; pan y canant, dangosant fod yr hen dân eto heb lwyr ddiffodd, ond amlygant nad oes yn aros ond gweddillion o'u galluoedd blaenorol. Ymneillduodd Henry Phillips—y baritone athry- lithgar, oherwydd llesgedd henaint; a thorwyd Vincent Novello, i'r bedd, ar derfyn dydd hir o lafur caled yn ngwasanaeth cerddoriaeth. 0 gyf- ansoddiadau newyddion, ni chafwyd ond ychydig o ddim gwerth yn y gwledydd a nodwyd. Y gwaith pwysicaf, mewn ystyr gelfyddydol, mae yn ddiau, ydoedd L'Africaine gan Meyerbeer, yr hon a ddygwyd allan yn Paris, ac wedi hyny yn Llundain, yn fuan ar ol marwolaeth yr awdwr. Mae yr opera hon yn dal i fyny gymeriad yr awd- wr ; ond nis gellir dweyd, er iddo fod wrthi am ranau helaeth o ugain mlynedd, ei bod wedi ychwanegu un cufydd at ei faintioli. Yn ei ora- torio newydd, Naaman, profodd Costa ei fod wedi cynyddu rhyw gymaint—nid llawer iawn, er pan ddygasai allan ei oratorio flaenorol Eli. Dygwyd allan amryw weithiau o eiddo Macfarren, Bennett, Benedict, Leslie, Smart, Hatton, Balfe, ac ereill, y rhai a brofant eu bod yn ysgolheigion cerddorol o radd uchel; ond ychydig ydyw y gallu creadigol a amlygir ganddynt. Yn mysg chwareuyddion, yr enwocaf a fu farw oedd Ernst, un o'r rhai mwyaf galluog ar y violin. Ni chododd neb newydd o bwys fel chwareuydd na chantor, heblaw fod Santley wedi cymeryd y gris uchaf fel baritone, a'r ddwy Patti wedi cymeryd Ewrop trwy storm. Mae yr hen rai yn cadw eu lleoedd—Thalberg, Pauer, Halle, Mrs. Arabella Goddard, a Madame