Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CERDDOR CYMREIG. AT WASANAETH CEEDDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMEY. CYHOEDDEDIG DAN JSTAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Khip. 66. AWST 1, 1866. Pkis 2g.—gydcür post, 3c CYMANFA GERDDOROL DDIRWESTOL GWENT A MORGANWG. Troed-y-Grisiau, Gorpli. lOfed, 1866. Fy Anwyl Gyfaill, - Gwyddech, mae yn ddiau, cyn gweled yr enw hwn, fy mod wedi newid fy nhrigfa ; ac nid wyf yn gwybod fod Troed-y-grisiau yn ol i Hafod-y-gan mewn dim ag sydd yn tueddu i wneyd dyn yn gysurus. Y dydd di- weddaf o Eehefìn mi a redais yn ngofal y cerbyd tan i lawr i Forganwg, er mwyn bod yn gyfieus i weled a chlywed y Gymanfa Gerddorol Ddirwestol yn Merthyr, dydd Llun, Gorph. 2. Byddai dweyd pa bryd y cyr- haeddais yno, pwy a welais ac a glywais wedi myned yno, yn mha le y bum yn gorphwys, pa fodd y mwyn- heais y Sabbath, ac felly yn mlaen, yn fwy na digon i lenwi un llythyr, heb son dim am y Gymanfa. Digon, gan hyny, yw dweyd i mi gyfarfod a chyfeillion ag ydynt yn werth eu galw yn gyfeillion; o ran meddwl a chalon, gallech fod yn hir iawn yn chwiíio am eu gwell; a byddai y byd hwn lawer iawn yn well nag ydyw pe byddai yn cynwys nifer go luosog o'u bath. Ond at y Gymanfa. Yn addoldy eang yr Eglwys Annibynol yn Soar, Mer- ■ thyr, yr oedd y cyfarfodydd yn cael eu cynal; ac yr wyf yn meddwl mai nid yn aml y llanwyd y deml hono mor llawn. Cynelid y cyfarfodydd am 10, 2, a 6—y ddau gyntaf yn rhad, a'r mynediad i mewn i'r diweddaf trwy docynau. Cadeirydd y dydd oedd y Parch J. Roberts (leuan Gwyllt). Yr oedd yr olwg ar y cynulliadau yn ardderchog—yn ddigonol i wefreiddio calon o gareg o'r braidd;—tua naw cant o bigion pobl ieuainc prif ardal- oedd "y gweithiau." Dichon y dylwn eich hysbysu fod hwn y deuddegfed cyfarfod blynyddol i'r Gymanfa. Nifer y corau oedd 12; a dyma en henwau :—Merthyr, Bethesda (Merthyr), Pant-tywyll (Merthyr), Dowlais Rhif 1, Dowlais Rhif 2, Rhymney, Gwent (Rhyinney), Pontypridd, Llantrisant, Band of Hope Caerdydd, Band of Hope Pontypridd, Oefncoedcymer. O'r rhai hyn yr oedd corau Bethesda, a Chefncoedcymer, yn "new- ydd-ddyfodiaid," ys dywed Eben Fardd. Y darnau a ganwyd yn y cyfarfod yn y boreu oedd y rhai canlyn- ol:—Ar dori maey dwfn ddistawrwydd (Mendelssohn), gan gor Merthyr (yn dda, ond heb bwyslais priodol mewn rhai manau) ; 0 cadw ni (Stephens), gan gor Bethesda (cydbwysiad y Ueisiau heb fod yn dda, a'r oslef yn rhy ysgafn); Come bounteous May, gan gor Pontypridd (lleisiau da iawn, ond yn esgeulus ar bryd- iau); Teyrnasoedd y ddaear (Lloyd), gan Dowlais Rhif. 1, (y trebles ar y cyfan yn rhy wan a theneu, a'r holl ddatganiad heb ddigon o'r urddas sydd yn perthyn i'r testyn); Cuckoo (Gersbach) gan gor Llantrisant (yn fywiog a dedwydd iawn, a galwyd am ei ail ganu); Retreat (Rille), gan Band of Hope Caerdydd (mwy o forward nag o retreat oedd yn ysbryd y cor); The Lord shall reign (Handel), gan gor Rhymney (canodd geneth fechan, merch, yr wyfyn deall, i Heman Gwent, yr ad- rodd-ganau a'r unawd yn dra rhagorol; amlygai, i'mtyb i, fod ganddi lawer iawn o athrylith gerddorol,—canai y cor yn dda, ond nis gallai wneyd cyfìawnder a darn ag sydd yn gofyn y fath nerth); The flowering spring (Amilie), gan gor Pant-tywyll (ynfoddhausiawn); The silver queen, gan gor Gwent (yn dda, ond nid cystal ag y clywais y cor hwn yn canu o'r blaen); Yr haf (Gwil- ym Gwent), gan Dowlais Rhif. 2, (disgwyliaswn lawer oddiwrth y cor hwn, a chefais fesur helaeth o foddhad, ond yn gymysg a pheth siomedigaeth. Yr oedd y rhan olaf yn sicr o fod yn rhy gyflym); 0 Father (HandeL, gan Cefncoedcymer (dyma y tro cyntaf i'r cor hwn ganu yn y gymanfa, ac ni fynwn ei farnu yn galed. Llawer rhy gras ydyw yr alto a'r trehle) ; Yr Hallelujah Ghorus (Handel), gan y corau ynghyd (nid yn dda iawn yn y dechreu—y rhanau diweddaf yn well, a'r ail dro yn dda iawn). Y darn cyntaf a ganwyd yn y cyfarfod am 2 o'r gloch oedd,—Mor hawddgar yw dy bebyll (Jos. Pariy), gan gor Bethesda (darn o gyfansoddiad goruchel ydyw hwn, a rhaid cael cor cyfarwydd iawn i wneyd cyfiawn- der a'r holl gyfuniadau tlysion sydd ynddo. Rhoddwyd rhai rhanau yn lled dda gan y cor, a'r rhanau eraill yn Uai effeithiol); canodd pob un o'r corau eraill a nodwyd yn fìaenorol un darn yn y cyfarfod hwn hefyd. Y ddau a gawsant ail-alwad oedd Band of Hope Caer- dydd, a chor Dowlais Rhif. 2. Y Laughing Chorus (Root) oedd gan y blaenaf; ac yr oedd y dernyn bychan bywiog hwn yn iechyd i'r holl gynulleidfa. Y darn a ganwyd gan Dowlais Rhif. 2, oedd Now by day's re- tiring lamp (Bishop); a phan ail-alwyd hwynt canasant Ganig y Clychau (Gwilym Gwent). Yr oedd yr awdwr yn digwydd bod ar yr esgynlawr ar y pryd; a sylwodd y cadeirydd fod y cor newydd ein anrhegu ag un o ddarnau goreu un o brif ganig-gyfansoddwyr y Saeson, ac* un o brif ganig-gyfansoddwyr y Cymry. Cafwyd anerchiadau yn ystod y cyfarfodydd hyn hefyd gän Mr. Howell Jones, Merthyr; y Parchn. D. Phillips, Thomas Levi, W. Évans, M.A., R. Gwesyn Jones, Mr. D. Evans, Caerdydd; Mr. W. L. Daniel, Tydfylyn; yr Anrhyd. 0. Bromley, America; a Miss Rees (Cranog- wen). Gwyddoch fod rhai a siaradant yn gryf ac yn anffaelededig iawn yn erbyn i'r rhyw fenywaidd siarad yn gyhoeddus; ond o'm rhan fy hun, yr wyf fi yn methu gweled nad dyledswydd pawb, yn wrryw a banyw, ydyw gwneyä y defnydd goreu ag sydd yn ddichonadwy o bob talent, dawn, a chyfieustra a roddir iddo. Mae yn ddiddadl fod y ferch hon wedi cael gallu tra anarferol i siarad yn gyhoeddus. Ni chlyw- ais i erioed ond ychydig iawn a allent siarad yn well na hi; a hyderaf y rhoddir iddo bob chwareu teg i arfer ei dawn er gwneuthur daioni. Yn y cyfarfod 2 o'r gloch hefyd cyfiwynwyd tysteb, yn gynwysedig o swm o arian ynghyd ag anerchiad oddiwrth y Gyman- fa i'r cadeirydd. DarUenwyd yr anerchiad gan Mr. D. Rosser, Aberdar, Ysgrifenyddy Gymanfa; cyflwynwyd y dysteb gan Aiiss Watts; cydnabyddwyd yr arwydd