Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GREAL. RHAGFYR, 1854. Y PARCH. STEPHEN EDWARDS, RYMNI. Cìîatt U. ÎSlIte, £irf)ofos. Gvda galar dwys yr ydym yn gorfod cofnodi marwolaeth y brawd anwyl Ste- phen Edwards, gweiuidogy Bedyddwyr, yn Soar a lerusalem, Ityinni. Ymaflodd y Geri Marwol ynddo nos Sadwrn, Hydref 14 -g, a rhoddes derfyn ar ei fywyd gwertlifawr a defnyddiol aai saith o'r gloeh boreu dranoetli, sel' Sab- bath, Hydref 15fed, 1854, yn 44 mlwydd oed, os nad wyf yn camgofio. Gadaw- odd weddw alarus a saith o amddifaid bychain a digymhorth ar ei ol, heb un ddarpariaeth, ond Rhagluniaeth fawr y nefoedd, ar eu cyfer. Dydd Llun, Hyd- ref 16eg, ymgasglodd ty'rfa luosog i'w hebrwng i dý ei hir gartief. Wrth y tý darllenodd a gweddiodd y brawd John Lloyd, Merthyr, eithr gorchfygwyd ef gan ei deimladau, a thorodd allan i wylo. Cyfodwyd y corph gan y brodyr Thoin- as, Tredegar; Jaines, Beula; Ellis, Sir- howy ; a Roberts, Blaenau. Ar lan y bedd areithiodd y brawd Evans, Caer- salem, Dowlais, yn bwrpasol iawn, a gweddiodd y brawd M. James, Beula; ac felly yr ymadawyd hyd y boreu y cawn "gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr." Yroedd galar y dyrfa yn hytr ach yn fraw a dychryn. oblegyd yr oedd yr ardal wedi ei tharo a syndod, a'r olwg ar luoedd yn debycach i ddelẃau dych- rynedig, nac i alarwyr yn angladd eu bugail hawddgar. Dylid cofio hefyd niai ynddo ef yr ymaflodd y Cholera gyntaf yn Rymni, hyd ag y gwn i, ac yr oedd hyny, yn nghyda marwolaeth un mor barchus, ac mor ddisymwth, yn peri i'r newydd galarus ddisgyn fel taranfollt ar yr holl gylchoedd. Gellir dweyd am Mr. Edwards yn ddi- petrusder ei fod yn un o'r gweinidogion goreu a feddem yn Nghyinru. Nid yn mawredd ei alluoedd y rhagorai, ond yn mawredd ei ddaioni a'i ddefnyddioldeb.- Dechreuodd bregethn yn Penuel, Rym- ni, tua phymtheg mlynedd yn ol, a rhyf- edd fel y bu, yn Penuel y traddododd ei bregeth olaf, nos Sul, Hydref 8fed. Yn dra buan wedi iddo ddechreu pregethu, rhoddodd eglwys Soar, canghen o Penu- el, alwad iddo yn weinidog; a sefydlodd yno yn 1840 neu 1841, a Uafuriodd yn ,eu plith hyd ddydd ei farwolàeth. Yr oedd ei ddefnyddioldeb, ei barch, a'i ddylanwad yn cynnyddu yn barhaus; a thystiolaetli untrydol creí'yddwyr Rym- ni, o bob euwad a dosbarth oedd, mai efe oedd yr addfetaf i fyd arall yn yr ardal; ac ymgysutent i raddau yn y sicrwydd gobaith fod eu colled anadferadwy hwy, yn euilill tragywyddol iddo ef. Ymddengys mai ychydig o fanteision a gafodd Mr. Edwards, fel rhagbarotoad i waith y weiuidogaeth, oblegyd yr oedd efe ýn briod cyn dechreu pregethu; ond yr oedd cadernid ei synwyr naturiol, ei addfwynder a'i ddoethineb i ymwneyd â phob math o ddynion, gloewder diain- heuol ei gy meriad fel Cristion, gwresowg- rwydd a thynerwch ei deimladau cref- yddol, yn nghyda ei ymroddiad cyflawn i waith ei Arglwydd, wedi goi'chfygu pob anf'anteision, a gwneyd argraff'annilëad- wy ar gwm Rynini. Nid rhyw byneiwr mawr a doctoraidd oedd Mr. Edwards, fel i^regethwr; ond pregethai bob amser yn ymarferol, gwiesog, ennillgar, a theimladwy; yr oedd cariad Crist yn ei gymhell, a'r ddoethineb sydd oddi uchod yn ei gyfar- wyddo. Byddai wrth ei fodd pan yn gwrando eieill yn pregethu, a hyt'rydwch ei enaid f'yddai elywed rhywun yn tradd- odi pregeth dda i bobl ei ofal; mynych iawn y gwelid ei lygaid bywiog yn nofio mewn fij'nhonau gloewon o ddagiau. Y bywydCristionogol trwy Iesu Grist oedd hoftder ei galon, a swm ei bregethau. Gadawai esgyrn sychion duwinyddiaeth dadleugar, a gofalu am gymhwyso barn- au ei frodyr, yn etifeddiaeth ddihalog i'r rhai sydd yn ethol eu hunain yn stew- ardiaid ar y eyfryw bethau. Ei arwydd- air ef oedd gwneuthur daioni, a byw niewn heddwch â phob dyn. Ciliai, fel y golomen, o'r lle y clywid swn ymladd, a saethu. Anfynych y cwrddid â dyn o ymddangosiad mwy dengür a golygus na Mr. Edwards. Yr oedd rhyw serch- owgrwydd boneddigaidd, a charedig- rwydd diddichell, yn argraffedig ar ei agwedd gorphorol, a dull ei wynebpryd, nes oedd golwg arno bron yn ddigon i'n hennill i'w garu, ac ymddiriedynddo yn ddiderfyn. Tua chwe' blynedd yn ol ymgymerodd 34