Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GREAL, IONAẄr7i855. DEONGLIAETH-ÎTUGYRAU Y BEIBL. GEIRALLEG, (Enallage). 0an #. $3AüUamn, Híjos. Y mae Gramadeg i iaith, yr hyn ydyw Daeareg i grystyn y ddaear ; Mwnydd- iaeth i feteloedd a inwnau; Llysieuaeth i blanigion a llysiau; a Seryddiaeth i'r cyrph nefol. Gorchwyl y llysieuydd yw cymharu a dosbarthu y gwahanol lysiau a phlanig- ion a ganfyddir ar wyneb y ddaear, er mwyn casglu a chwilio allan ffeithiau cyffredinol yn nghylch eu ffurfiau, eu perthynasau, eu lìiw, eu harogl, a'u def- nydd yrnarferol. Yr un tnodd, gwaith y Gramadegydd yw dosbarthu geiriau iaith, a chasglu a chofnodi y ffeithiau mwyaf arbenig 0 berthynas i'w harfer- iad. Felly y mae yr athronydd yn esgyn o'r neillduol i'r cyffredinol—o enghreifft- iau i ddeddfau. Nis gelîir penderfynu deddf oddiwrth un neu ychydig ffeithiau ; ond ffeithiau cyff'redinol mewn natur, neu ífeithiau wedi eu easglu oddiwrth nifero ffeithiau annghysylltiedig wedi eu cym- haru â'u gilydd, a elwir yn ddedtifau natur. Ffeithîau cyffredinol mewn iaith, neu ffeithiau wedi eu casglu oddiwrth nifer o arferiadau neillduol, a elwir yn ddeddf- au neu reolau Gramadeg. Felly, hefyd, y mae y Geiriadurwr yn penderí'ynu ys- tyr geiriau. Pan gyfarf'ydda â gair mewn ymadrodd a fyddo yn amheus 0 ran ei ystyr, a'r holl eiriau ereill yn yr ymad- rodd yn ddealledig, yr hyn sydd yn penderfynu ei ystyr yw y ffaithna wna yr ymadrodd ddim synwyr heb roddi yr ystyr neillduol hwnw i'r gair; hyny yw, cysylltU rhyw syniad penodol âg ef; ac wedi cael allan fod yr un syniad wedi ei gysylltu â'r gair yn gwneyd synwyr mewn nifer digonol o achosion i bender- fynu yr arferiad cyffredinol; y mae y Geiriadurwr yn ei osod i lawr fel ystyr priodol y gair, ond nid yw Geiriadur yn awdurdod oddiwrth yr hwn nis gellir apelio: oblegyd gall y sawl fyddo yn alluog fyned dros yr un tir drachefn, a dyfod i benderfyniad gwahanol, o» caiíf nifer digonol o fteithiau i'w gynnal i fyny. Y mae yn ft'aith mewn Seryddiaeth, nas gall diffyg gymeryd lle ar yr haul ond pan fyddo y lleuad yn newid, neu pan fyddo y lloer yn y canol rhwng y ddaear a'r haul; ac y mae yn ffaitii mewn daeareg, fod yr amrywiol lysiau a'r anifeiliaid a welir yn awr ar wyneb y ddaear wedi dyfod i'w sefyllfa bresenol o berffeithrwydd, a hyny yn raddol, a bod dyn yn perthyn i'r oes neu y gyfun- drefn olaf, yr hon a elwir gan ddaeareg- wyr yn oes y Superficial Deposits Yr un modd, y mae yn ftaith gyffredinol mewn Gramadeg, nas gall fod brawddeg neu synwyreb heb rywbeth j'n cael ei haern, a plieth arall am yr hwn yr haer- ir, neu yr hyn a eilw y Saeson subject I und predicate. Camsynied y mae y sawl sydd yn tyb- ! ied fod Gramadeg yn gynnwysedig o ! egwyddorion a rheolau cyfi'redinol oedd ■ yn bodoli yn fìaenorol i iaith, ac yn dyl- I anwadu yn ei fturfiad a'i chyfansoddiad. i Cystal fuasai dwcyd fod y deddfau per- 1 tliynol i ddaeareg yn bodoli o fiaen y I ddaear, neu ddeddfau seryddiaeth a llys- ieuaetli yn hanfodi yn fiaenorol i'r ser neu y llysiau. Na, nid ydynt amgen y dat- ganiad o fieithiau sydd yn bodoli mewn iaith, ac yn cael eu llywodraethu gan arferiadau blaenorol, yn hytrach na'u bod hwy yn llywodraetlui yr arferiadau hyny. Y mae arferiadau arbenigol iaith, mae yn wir, yn cael eu llywodraethu gan ddeddfau ereill; sef y deddfau sydd yn rheoli gweitlirediadau y nieddwl dynol, ar y sawl y maent yn seiliedig eu hunain ; ond nid oes a wnelo y Gramadegj'dd â hyn, fel y cyfryw ; ei orchwyl ef yw, sicrhau a phenderfynu yr arferiadau eu hunain, ac nid yr egwyddorion neu y deddfau planedig yn y meddwl dynol, y rhai a arweiniasant i'r arferiadau hyny. Y mae Gramadegwyr yn arfer gwa- haniaethu rhwng rheolau ac eithriadau i reolau ; eithr y cyfryw wahaniaeth, er ei fod o ddefnydd ymarferol, nid oes iddo wir sail; oblegyd yr hyn a elwir yn eithriad sydd enghraifft o arferiad