Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GBEAL. MEDI, 1855. LEONGLIAETH.-FFUGYRAU Y BEIBL. RHIF XI. CYFERBYNIAETH NEU WRTHOSODTAD, (Antithesis). " Ut silvm foliis pronos mut antur in annos, Prima cadunt; ita verborttm vctiis interit a-tas, F.t jnrenum ritu ftorent modo nata vigeutque. Debemur morti nos nastraque; sìre receptus Terra Neptunus classcs Aguilonibus arcet, Regis opus ; sterilisve diu palus, aptaçue remis, ì'icinas urbes alìt, et grave sentit aratrum : Seu cursum mutacit iniquum frugibus umnis, Doctus iter me/ius. Mortali a facta peribunt, Nedum sermonum stet hon os et gratia virax. Multa rcnasceiitiir. quce jam cecidere; cadenigue; Quae nunc sunt in honore rocabuta, si volet usus, tittem penes arbitrium est, etjus, etnorma loquendi ."—Hor. de Arte poetica. Nid o anghenrheidrwydd gwreiddiol a naturiol y mae fod rhyw syniad pen- nodol neu feddylrith yn cael ei gysylitn à rhyw sain neu air neillduol mwy na'i gilydd; yr unig reswm boddhâol a ellir ei roddi am hyny, a'r hwn sydd wedi cael ei dderbyn trwy gydsyniad eyff'redinol, yn rnhlith Gramadegwyr er dyddiau Horace Fardd, ac yn foreuach;-—yr unig reswin, dywedwn eto, ydyw arfer gwlad a chenedl, yr hyn a eilw efe "usus lo- quendi;" a dyma fel y dywed y pen- beirniad hwnw ar y mater, fel y gwel y dysgedig yn y llinellau uwch ben yr er- tbycl hwn :—" Megys y mae dail y coed, ar droad y flwyddyn, yn cael eu cyfnew- id, a'r hen yn cwympo i lawr; felly y mae geiriau o henaint yn darfod, ac yn myn- ed allan o arferiad. Pan fyddont megys newydd eu geni, y maent yn eu blodau ac yn rymus. Yr ydym ni, a phob peth a berthyn i ni, yn ddarostyngedig i farw. Felly y môr wedi ei dderbyn i'r tir a'i ffurfio yn borthladd, sydd yn amddiffyn y Hongau rhag y gogleddwynt; a,'r peth oedd o'r blaen yn llyn diffrwyth, ac yn gyfaddas i'r rhwyfau, sydd yn awr wedi ei sychu, yn meithrin y dinasoedd cym- ydogaethol, ac yn cael ei droi gan yr aradr. Felly, yr afon, yr hon oedd yn difwyno ffrwythau, wedi ei throi i redfa arall, sydd yn llifo trwy sianel mwy cyf- leus. Pob dim a berthyn i ddynion marwol a dderfydd; a pha fodd lai na dderfydd godidogrwydd ac ystyr geiriau. r']awe.r 8)'äd Yn cael en haileni a'u byw- hâu eilwaith, y rhai oedd wedi meirw a myned o arferiad; a bydd i eiriau sydd yn awr mewn bri dtlarfod os arferiad a'i myn, gyda'r hwn y niae yr awdurdod i roddi deddfau a rheolau i iaith." Gwel- wn fod y bardd Rhufeinig, drwy gyfî'el- ybiaethau dedwydd agodidog.yn dangos f'od pob peth dynol, yn gystal a dyn ei hunan, yn ddarostyngedig i ddartbd a marw; ac felly y mae geiriau a fuont unwaith yn cael eu defnyddio yn mhlith y dosbeirth anrhydeddusaf, ac yn dad- saiu trwy lysoedd breninoedd a brawd- feydd, yn darfod, ac yn meirw megys; ac ereil), y rhai oedd wedi syrthio allan o atferiad, yn cael eu hadgyfodi drachefn; yr hyn oll a fyddai yn annichon pe bydd- ai ystyr naturiol i eiriau; ond pethau dynol ydyw geiriau, ac nid pethau nalur. I'r un perwyl y dywed Gellius, (lib. 12. cap.l'S.) " Arferiad ydyw arglwyddes pob peth, ac yn neillduol geiriau." Quintil- ian, hefyd, i'r un pwrpas, "Defod ac ar- fer iaith ydy w cydsyniad y dysgedigion ; megys inai yr arfer a'r dnll o fyw yw cydsyniad y rhai da." (Ub. 1. cap. 6.) Gan ddàrfod i ni gyfeirio at y mater dan sylw amryw weithiau yn achlysurol, cymerasom beth trafferth yn y lle hwn i'w egluro a'i brofi allan o waith ysgrif- enwyr, awdurdod y rhai ni wrthddadl- euir gan y dysgedig a'r gwybodus. Yn gymaint ag nad oes unrhyw gymhwys- der naturiol mewn unrhyw sain neu air pennodol, i ddynodi y meddylrith a gys- ylltir âg ef, mwy nag sydd mewn rhyw air arall, amlwg yw, mai arferiad sydd yn peri i ni, pan glywom y gair ywyn yn caei ei ddweyd, gysylltu y syniad o'r lliw neillduol hwnw, ar v sawl y mae y gair 25