Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEEAL. EBRILL, 1857. GWEITIIWYR CYMREIG YN EU PERTHYNAS A LLENYDDIAETH. PARHAD O TUDAL. 55. Pen. II.— Dyledswijdd gweithwyr i lafurio am wybodaeth. Mae yn amlwg oddiwrth y nodiadaa a wnaethom yn y bennod flaenorol, nad yw gwybodaeth gweithwyr Cymru yr hyn a ddylai, gyda g«lwg ar ei gwrth- ddrychau, ei graddau, a'i hansawdd. "Gwrthddrychau gwybodaeth ydynt an- eirif; mae y maes yn anfesuradwy; can- ys dichon fod ëangrwydd bodolaeth yn cyrhaedd i eithafion y terfynau; a lle bynag y mae sylwedd neu ysbryd, mae i wybodaeth destyn. Disgyna i grombil y ddaear, a dyfnderoedd y môr, ac esgyna i gribyn y mynydd a phegwn y ffurfafen. Nid yw y niilionyn yn rhy fychari, na'r cawrfil yn rhy fawr; yr eirias yn rhy boethlyd, na'r iâ yn rhy oer; y gallestr yn rhy galed, na'r awon yn rhy feddal; yr holl gread ëangfaith, yn ei mynyddoedd a'i dyffrynoedd, ei nieillion a'i choedwigoedd, ei daear, ei iidwyr, ei dyffrynoedd, a'i thân; uchod ac isod, gweledig ac anweledig,—ydynt oll, a byddant byth, yn destynau priodol gwybodaeth. Disgyna ar bob tôn, inymryn, gwreichion, a thwmpath ; cof- leidia y cwbl, a sugna ei chyfoeth o hon- ynt. Nis digonwyd hi, ac nis digonir, nJ'd nes myned heibio y creadur mewn ^yfyrdod hiraethus, at yr Hwn a'i gwnaeth. Hefyd, hi a aiff yn ol yn "gerbyd olrheiniaeth, ogwmpas aredyn "iyfyrdod ac hanes, ac yn mlaen trwy ad-ddilyniad a phrophwydoliaeth, nes pemio dros amser, yn ei amryfal ddeil- laid, ei deithi, a'i chwyldioadau, â rhan odragywyddoldeb." *el yna y llefara un ysgrifenydd gall- «og mewn perthynas i wrthddrychau gwybodaeth, a chyda golwg ar ei gradd- «".ysgrifena fel y canlyn •-" Tra mae ffÜj"ìyB yn cyfodi oddiar fympwy, a "yad oddiar dystiwlaeth, y mae gwybod- !C fi^ y^wthio ac yn treiddio at y fewrthddrych; eto, nid yr un modd y ei!Lp11 ^,gelu Pob gwrthddrych, nac yn mJ■ 1 j10 ar °' ei dd'gelu ; canysy mae gwybodaeth hanesyddol, athronyddol, a a mesuryddol. Mae hefyd ddamlygiad medonol (geometrìcal demonstration), damlygiad llygadol (ocular demonstra- tion), a damlygiad rhesymegol (logical dem^tatration). Yn gyntaf.dygir y gwrth- ddrycb i sylw—hanesyddiaeth a wna hyn; yn ail, ymofynir i'w natur—-ath- roniaeth a wna hyn ; yn drydydd, ym- ofyniri'w fesuriad a'i bwysau,—mesur- iaeth a wna hynyna. Dichon i wybod- aeth adnabod ei gwrthddrych o ran llun, enw, a rhyw, a hi er hyny, heb fod amgen na gwybodaeth arwynebol. Ffaith yw, fod dyfroedd y môr yn heilltion, eu bod yn ymdreio ac yn ym- lenwi; ond y mae gwahaniaeth rhwng fíaith ac athroniaeth. Perthyna i athron- iaeth i ddweyd paham y mae dyfroedd y môr yn heilltion, tra y mae dyfroedd yr afon yn groyw; a phaham y maent yn treio ac yn ymlenwi, tra nad yw dyfr- oedd flynnon neu lyn yn gwneuthur ielly. t * * * Mae Ue yma i athroniaeth ddyfod yn mlaen, er dwyn allan wybodaeth helaethach na'r eiddof fi. Mae yr eiddof fi yn wybod- aeth; ac nid yw eiddo yr athronydd amgen na gwybodaeth, ond yn unig ei bod yn fwy dwfn, treiddiol, a pherffaith." Mae ansawdd neu gymmeriad yn perthyn i wybodaetli; sef y dylanwad a effeithia ar y meddwl neu'r fuchedd. Nid oes un wybodaeth heb ddylanwad ; ac yn ol ansawdd y wybodaeth y mae ansawdd y dylanwad. Gan nad yẃ cymmeriaä na therf'ynau ein Traethawd yn caniatâu i ni brofì y gosodiad hwn, rhaid i ui ei adael fel gwirionedd hunan- eglur.'' Wedi gwneyd cyfeiriadau byrion at wrthddrychau, graddau ac ansawddgwy- bodaeth, awn rhagom igeisiodangos dy- ledswydd gweithwyr i lafurio am dani. Os yw gwybodaeth yn ddefnyddiol i ddynion nadywyncarngweithio.barnwn fod gan ddynion gweithgar hawl mor ddi- ammheuol a hwythau, i yfed o'i ffrydiau grisialaidd, ac i wledda ar ei danteithion melusiŵn; o herwydd nis gali y pethau 10