Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GREAL. EBRILL, 1865. Y DYSGEDYDD A BEDYDD. (PARHAD O TUDAL. 51.) A Mr. Wolfe, y Cenadwr, y mae yr ysgrifenydd yn y Dysgedydd, yn gwneyd cam dybryd. Dywed ef fod Mr. Wolfe yn dweyd iddo ef gyfarfod â sect, y rhai a alwent eu hunain yn ganlynwyr Ioan, a'u bod hwy yn myned â'r plentyn at yr afon, ac yno yn ei daenellu; ond ni ddywed fod Mr .Ŵolfe yn dweyd eu bod hwy yn trochi y plentyn dair gwaith cyn ei daenellu; er hyny, dyma y ffaith, ac y mae yn engraifft o'r modd haerllug y gall taenellwyr ddarnguddio ffeithiau, yn eu hymdrech i amddiffyn y daenell. Wel, os yw y ffaith fod y bobl hyn yn taenellu unwaith yn rhywbeth er profi mai taenellu yw dull bedydd, sicr yw fod y ffaith eu bod yn trochi dair gwaith yn profi mai trochi yw y dull. Os nad yw yn ffurfio awdurdod dros drochiad, llai fyth y ffurfia awdurdod dros daenelliad; ac os felly, nid oedd gan yr ysgrifenydd yn y Dysgedydd un hawl i nodi y ffaith, a llai fyth i'w darnio fel y gwnaeth. Heblaw hyn, y mae y sect hon yn cael ei hadnabod wrth enw yn golygu trochiad, sef Sabeaid; ond celodd yr ysgrifenydd y ffaith hon eto. 1. Celodd eu henw, yrhwn a olygai eu bod yn drochwyr. 2. Celodd ran bwysicaf tystiolaeth y Cenadwr Wolfe, yr hwn a ddywed eu bod yn bedyddio trwy drochiad y sawl a daenellid ganddynt. Mae yn debyg fod y ffaith uchod o eiddo y Cenadwr Wolfe wedi ei chymmeryd gan yr ysgrifenydd yn y Dysgedydd o lyfr y Dr. Henderson ; ond dylasai wybod fod Dr. Gotch, o Goleg Bristol, wedi gorfodi Dr. Henderson i addef mai annghofio eu bod yn trochi a ddarfu. Sylwer, annghofio eu bod yn trochi dair gwaith, ond cofio eu bod yn taenellu unwaith! A ydyw y dynion a ysgrifenant fel hyn, wedi annghofìo hefyd y gosb sydd yn syrthio ar y rhai sydd yn "attal y gwirionedd mewn annghyfiawn- der ì" rhag ofn eu bod, dodwn ef i lawr yma; " Canys digofaint Duw a ddadgudd- iwyd o'r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac annghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn attal y gwirionedd mewn annghyfiawnder." (Rhuf. i. 18.) Yn dilyn yr anwiredd yn nghylch y Cenadwr Wolfe, y mae amryw ereill. 1. Dywed y dylasai y gair a gytìeithir o'r dwfr, yn Mat. iii. 16. fod yn oddiwrth y dwfr. Ei reswm am hyny yw, am ei fod yn cael ei gyfieithu 374 o weithiau yn oddiwrth. Dalier sylw, nid yw yn nodi un engraifft; a chan fod ganddo gynnifer a 374, tybed na all'sai fforddio i enwi un, modd y caffom famu gwerth ei haeriad. Yn atebiad i'r haeriad uchod, nodwn ddau beth; yn gyntaf, os ydyw fod y gair a gyfieithir o'r yn cael ei gyfieithu 374 o weithiau yn oddiwrth, yn profi mai oddiwrth y dylasai fod yn Mat. iii. 16., dywedwn ninnau fod y ffaith fod y gair yn cael ei gyfieithu yn o'r fwy na'r nifer uchod o weithiau yn profi mai o'r y dylai fod yn Mat. iii. 16. Os yw yr ymresymiad hwn yn deg i'r Dysgedydd, y mae yn deg i ninnau ; ac y mae yr eiddom ni yn decach, oblegyd dyma nifer o engreifftiau, yr hyn ni chafwyd ganddo ef:—Mat. xii. 43. xiii. 1. xiv. 29. xtü. 18. Marc xi. 12. Luc iv. 35. 41. xiii. 2. 29. xxii. 71. Act. xvi. 18. Heb. xi. 15. Yn ail, o'r dwfr a ddylai fod, oblegyd mai dyna, yn ol Grammadegwyr, ac yn eu plith Winer, ydyw yr ystyr gyntaf a mwyaf cynnwysfawr. Ei haeriad'nesa'f yw, nad allai Iesu weddio "tra oddi tan y dwfr," tra y gallai yn hawdd tra yr oedd y dwf'r yn cael ei dywallt arno. Y mae yr un faint o reswm yn erbyn tywallt, ac sydd yn erbyn trochi yn yr haeriad uchod. Seilir yr haeriad ar y dybiaeth fod Iesu yn arfer geiriau pan yn gweddio. Nid oes eisieu i ni dybied y fath. beth. Gallai fod Iesu yn gweddio yn y galon heb roi ei lais allan, yr hyn y dysgẁyliwn i bob un a fedyddir o'i ddilynwyr ef wneyd; ond os mynir ei fod yn arfer geiriau ac yn rhoi ei lais allan, y mae yr un faint o reswm yn hyny yn erbyn tywalltiad ac sydd yn erbyn trochi. O barthed i'r pictiwr yn Ngholeg Bristol, a'i esboniad o Ioan iii. 34., y mae yn deilwng o hono ef, ac o'r pwnc sydd ganddo i'w amddiffyn, ond yn annheiìwng o'n sylw ni, tra y byddo ein synwyr cyffredin genym. O barthed i wrthddadl y newid dillad, y mae yn gwasanaethu yr un mor rymus yn 10