Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GREAL. CHWEFROR, 1866. DYLEDSWYDD YR EGLWYS TUAG AT Y PLANT, ODDIAR SAFLE Y BEDTDDWYR AC_ADDYSG1AD Y TESTAMENT NEWYDD. (PAB.HAD O TUDAL. 4.) Y Mae plant yn ddeiliaîd gw,einidogaeth yr efengyl, mor gynted ag y gallont wybod rhagor rhwng drwg a da; neu mewn geiriau ereill, mor gynted ag y deuant yn gyfrifol am eu gweithredoedd : cyn hyny y mae y plentyn yn cael ei achub yn yr ail Adda, heb yr un weithred o'i eiddo ei hun, yr un modd ag yr aeth yn golledig yn yr Adda blaenaf. Y mae yr eglwys i arfer ei doethineb wrth gyfranu addysg i blant fel deiliaid gweinidogaeth yr efengyl; fe ddylai yr addysg fod yn cyfateb i'w dealltwriaeth a'u chwaeth: ac y mae yn anmhos- sibl cael Ue gwell i ddysgu plant na'r ysgol Sabbathol. Y mae hon yn cael ei rhanu i ddosbarthiadau, a phob dosbarth yn cael ei wneyd i fyny o rai cyffelyb o ran oed a dysg, ac athraw doeth a diwyd yn cymhwyso ei addysg yn ol cyrhaeddiadau ac amgyffredion pob un. Y mae hyn yn fantais fawr; yn hyn y mae yr ysgol yn rhagori ar y pwlput. Y mae yr athraw wrth ddysgu un yn dysgu pawb, os na bydd yn rhy uchel i un, ni bydd yn rhy uchel i'r oll; os bydd yn anghenrheidiol dweyd yn oleu er mwyn un, bydd hyny yn sicr o fod yn fuddiol i'r lleill. Y mae y ddyledswydd yma yn cael ei chymhell yn y Beibl, nid am fod y plant yn yr eglwys, eithr fel un o'r cymhwysderau hanfodol i ddefnyddioldeb y rhieni yn yr eglwys. Pan y sonir am gymhwysderau esgob, yn mhlith amryw bethau ereill, dywedir, " Yn llywodraethu ei dý ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn ufÿdd-dod, yn nghyda phob onestrwydd." (I Tim. iii. 4, 5. Tit. i. 6.) Dywedir hefyd am y diaconiaid, " Bydded y diaconiaid yn wýr un wraig, yn llywodraethu eu plant a'u tai eu hunain yn dda." Sonir am blant yn y fan yma, a dywedir yn bendant mai dyledswydd y rhieni ydyw eu llywodraethu a'u dysgu, a bod eu henwogrwydd fel crefyddwyr yn ymddi- bynu, mewn rhan, ar eu gwaith yn cyflawni eu dyledswydd tuag atynt. Dywedir hefyd yn y Uythyr cyntaf at y Corinthiaid, "Canys y gwr digred a santeiddir trwy y wraig, a'r wraig ddigred a santeiddir trwy y gwr; pe amgen, afian yn ddiau fyddai eich plant, eitbr yn awr santaidd ydynt." Pa beth a olygir yn y fan yma wrth santeiddrwydd y plant ? Ai y meddwl ydyw, fod eu perthynas a thad neu fam grefyddol yn rhoi cymhwysder cref- yddol ynddynt i fod yn aelodau yn yr eglwys, ynte bod perthynas briodasol y rhieni â'u gilydd yn eu gwneyd yn gyfreithlon, ac yn yr ystyr hwnw yn santaidd ? Yn ol un o reolau dehongliaeth Feiblaidd, y ffordd debycaf i gael gafael ar y gwir feddwì ydyw ymofyn beth ydyw y mater tan sylw ? Am "ba beth y mae yr awdwr yn ysgrifenu ? Yn mha gyssylltiad y mae yr adnod tan sylw yn dyfod i mewn ? Ond i'r darllenydd droi i'r seithfed bennod yn y llythyr cyntaf at y Corinthiaid efe a genfydd mai pwnc yr awdwr ysbryd- oledig ydyw, fod priodas yn parhau er na byddo y ddau wedi credu, er fod un