Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GrEEAL. EBRILL, 1866. BLAGUE MYFYEDOD. BHIF XXXI. ©an s ^arclj. U. ÎEbans, fëuöles. (PAHHAD O TUDAL. 54.) 4. Y buddygoliaethau sydd wedi eu hennill yn barod. Buddygoliaeth rinweddol oedd buddygoliaeth y groes, ond o honi a thrwyddi y mae miloedd o fuddygoliaethau personol a gweithredol wedi ymgodi. Yn mha le bynag y dygwyd yr elfenau grymus o lwyddiant a gynnwysid yn nghroes Crist i gysswllt â'r galon ddynol, cydwybod a serch y carcharor, gwnaethant bob amser sicrhau goruehafiaeth. Mae yr eglwys efengylaidd, oddiar yr awr y íFurfiwyd hi yn Palestina hyd y fynyd bresennol, wedi bod yn cael ei hadeil- adu yn mhresennoldeb uff'ern, ac yn mhresennoldeb uffern o dan arfau. Cesglir y meini yn nghyd, a gosodir hwynt yn yr adeiladaeth o fewn gwersyll y gelyn. Fel y dygir yr adeilad yn mlaen, ymosodir arno gyda phob math o gyfrwysdra disantaidd, a dichellion ystry wiog; amgylchynir hi â phob math o warchae, a gwrthwynebir hi gyda phob math o arfau; ond adeiiedir hi ar Graig yr oesoedd, a phyrth uffern nis gorchfygant hi. Pob aelod a berthyn iddi, sydd gaethwas wedi ei waredu o deyrnas pechod,—sydd garcharor wedi ei gipio o afaelion y cryfarfog. Yr oedd llawer o honynt unwaith yn golofnau cedyrn yn ymerodraeth y tywyllwch, ond trwy rym gras torwyd hwynt i lawr, a gosodwyd hwynt yn golofnau yn nheml yr Iesu. Yr oedd llawer o'r buddygoliaethau a ennillwyd gan y Gwaredwr ar y diafol, pan yma ar y ddaear, yn ogoneddus, ond fe'u canlynwyd gan fuddyg- oliaethau tra gogoneddusach, ac yr oedd yr oll o'r buddygoliaethau hyn i'w hystyried fel math o ernes o fuddygoliaeth lwyr a chyfiawn yn y pen draw. Pan y dychwelodd y deg a thrigain, gan ddywedyd, " Arglwydd, hyd y nod y cythreuliaid a ddarostyngir i ni yn dy enw di," derbyniodd y newydd fel peth o gwrs, a chanfyddodd yn y llwyddiant a ganlynai eu gweinidogaeth wystl o oruchafiaeth berffaith. Edrychai i'r dyfodol fel pe byddai yn ei ymyl, a dywedai mewn hyder a gorfoledd, " Mi a welais Satan megys mellten yn syrthio o'r nef." Pan yn amgylchynedig gan amgylehiadau o'r prudd-der dyfnaf, a'r llwfrdra trymaf, o dan ba rai y suddai ei enaid i ddyfnderoedd tristwch a gofid, gwelai ei wrthwynebwyr wrth ei draed, a thystiai gyda hyder tawel a digyffro Tywysog gorseddedig, " Yn awr y mae barn y byd hwn, yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn." Mewn iaith gryfach wedi hyny, dywedai, " Tywysog y byd hwn a farnwyd." Canfydd- odd â'i lygad craffus a threiddgar, yn y cyfnod tywyll hwnw, gwblhad a pherffeithiad ei fuddygoliaeth ; a chlywodd â'i glustiau ysgafn, yn nghanol y tymhestloedd garw a ruent y pryd hwnw o'i amgylch, floeddiadau soniarus yr eglwys waredigol, pan yn llefain, " Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein