Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GREAL. TACHWEDD, 1869. DYLEDSWYDD YR EGLWYS TUAG AT Y PLANT.* Cînn g $awtj. 8KB*. J ones, Cougtognlas. «• Hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd, a phan heneiddio, nid ymedy â hi."—Diar. xxii. 6. "Wrth drafod y pwnc hwn, yr ydys, o anghenrheidrwydd, yn cyffwrdd â phynciau ereill &g sydd yn dal cyssylltiad agos âg ef; megys dyledswydd rhieni tuag at euplant, dyledswydd dyn tuag at ei gyd-ddyn, a dyledswydd yr eglwys tuag at y byd. Mae y tri mater hyn, o anghenrheidrwydd, yn dyfod yn ein ffordd; o ganlyniad, byddant yn íhwym o ddyfod o dan ein sylw i fesur mwy neu lai. Yn awr, mae y gofyniad yn dyfod atom wrth gychwyn,—Pa beth yw dyledswydd yr eglwys tuag at y plant ? Yn wreiddiol, nid oes a fyno yr eglwys fel eglwys â'r plant, yn yr ystyr o gyfranu unrhyw addysg iddynt, neu osod yn eu meddwl egwyddorion Unrhyw grefydd, nes y delont i oedran cyfrifoldeb, yn alluog i farnu drostynt eu hunain, ac i ddewis neu wrthod, fel y barnont yn briodol, unrhyw addysg neu eg- Wyddorion crefyddol. Mae yn ddyledswydd ar yr eglwys i weddio dros bawb, ac y inae yn rhwymedigaeth o bwys i weddio dros ddosbarth ieuanc cymdeithas—dros y plant. Nid ydys wrth weddio drostynt yn ymyraeth â hawliau neb. Yn wreiddiol, gwaith y rhieni yw gosod y plant ar ben ffordd bywyd, eu dysgu a'u hyfforddi yn y pethau a berthynant i'r bywyd sydd yr awr hon, a'r hwn a fydd. Mae y ddyled- swydd hon yn tarddu oddiar y berthynas sydd yn bodoli rhwng y rhieni a'r plant. Y rhieni ydynt yr offerynau trwy ba rai y dygir y plant i fòd ar y cyntaf; o ganlyn- iad, arnynt hwy y mae y gofal yn disgyn o osod y plant yn briodol ar ben ffordd bywyd. Yn wir, y rhieni yn unig sydd yn meddu cymhwysder,—y cymhwysder naturiol i'r gwaith hwn. Mae y serch sydd yn y rhieni tuag at y plant fel eu hiliog- aeth, yn peri eu bod y personau cymhwysaf o bawb i osod y plant yn briodol ar ben ffordd by wyd ; ac heblaw mai y rhieni sydd yn meddu mwyaf o gymhwysder i'r gwaith dan sylw, y mae dyledswydd y rhieni tuag at y plant o íiaen pob dyledswydd arall o'r dyledswyddau hyny sydd ar ddyn tuag at ei gyd-ddynion; y mae o flaen y ddyledswydd sydd ar ddyn tuag at ddyn fel ei gyd-greadur, a'r ddyledswydd sydd ar yr eglwys tuag at y byd. Mae yn seiliedig ar berthynas agosach,—perthynas rhieni âphlant. Mae yn sefyll ar ben rhestr y dyledswyddau hyny sydd ar ddyn tuag at ei gyd-greadur; ac y mae yn deilwng o sylw, nad yw gair y gwirionedd yn un Jnan yn crybwyll am ddyledswydd yr eglwys i hyfforddi y plant; sonir am ddyled- swydd y rhieni tuag at y plant, argymhellir hwy i'w maethu hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, (Eph. vi. 4.) ond ni sonir gair am rwymedigaeth bennodol yr eglwys iddynt yn yr ystyr hwn. Nid yw hyn, cofier, o anghenrheidrwydd, yn cynnwys nad yw yr eglwys dan rwymau i'r plant o gwbl gyda golwg ar addysgiaeth, oblegyd yn 1. Mae llawer o rieniplant hebfod yn grefyddol, ae mae y cyfryw, gan nad ydynt yn ♦Traddodwyd y sylwadau hyn ar gais cynnadledd cwrdd misol Owm Ehymni, yn Soari Pont- lotyn, Awst lOfed, 1869. Dichon y gallant, trwy gyfrwng y wasg, fod yn foddion i alw sylw pellach at y pwnc, ac felly wneyd ychydig o les gyŵ» golwg ar ddosẁarth. ieuanc cymŵeitUaa.—W. J, 32