Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GREAL. MEDI, 1878. Y PERL NAS GELLIR EI BRISIO GAN Y PAROH. D.~THOMAS, LLANGEFNI. "Ni ŵyr dyn beth a dal hi."—Job xxviii. 13. Y mae llawer o wahaniaeth rhwng dpethineb a gwybodaeth, a llawer yn meddu y naill, ond heb fod yn feddiannol ar y llall. Gall dyn fod yn gelfyddydwr niedrus, ond heb fod yn ddoeth ; gall fod yn seryddwr mawr, yn athronydd dwfn, yn areithiwr hyawdl, ond heb fod yn ddyn doeth; ac o'r ochr arall, y mae llawer dyn doeth a chylch ei wybodaeth yn hynod o gyfyng. Y mae doethineb yn golygu gwneyd defnydd o bob gwy- bodaeth, a thalent, ac adnoddau, yn y dull mwyaf deheuig a ellir er cyrhaedd yr amcan uwchaf. Nid oes neb yn gwneyd hyn ond y dyn duwiol, y dyn sydd yn rhoi ei drysor i gadw yn y nefoedd, ond y dyn sydd yn gwneyd yr Hollalluog yn noddfa, y dyn ag sydd yn gwneuthur y byd hwn yn îs-wasanaethgar i'r byd i ddyfod. Y peth cyntaf a gaiff ein sylw a fydd, I. CltEFYDD 0 DAN YR ENW DOETHTNEB. 1. Galluoga ddyn i farnu a phrisio pob peth yn gywir. Dengys bob peth yn ei natur, ei ansawdd, a'i werth priodol; yr aur, yr arian, ac anrhydedd. Dengys bwysigrwydd dyledswyddau at deulu a chymmydogion, at gyfeillion a gelynion, yr enaid a breintiau yr efengyl. Y rheol i gario yn mlaen gyda phob trafnidaeth dymhorol ydyw, ansawddfgwaftty.Jpwys, a mesur; ac y mae diffyg barn a gofal wrth ymwneyd â'r pethau hyn wedi tynu rniloedd o balasau i gabanau, o ganol llawnder a moethau i afael pangfeydd prinder ac anghen; o ganol nerth a hoen- Usrwydd trwy nychdod i waelod bedd; a gellir dweyd y bydd ein cysur a'n tynged amserol a thragywyddol ninnau yn di- 25 bynu ar ein cywirdeb yn barnu, yn pwyso, ac yn prisio pethau. Y mae prísio hyfforddiant ei phlentyn yn rhy isel, wedi peri i lawer mam dyner ocheneidio yn ddwys wrth edrych ar ei dynged mewn oedran addfetach: golchwyd ei gruddiau gwywedig â dagrau ganwaith a chan- waith. Pa beth yw yr achos fod llawer tad yn treulio cymmaint p'i amser a'i arian er rhoddi galwedigaeth ennillfawr i'w fab, a'i gael i droi mewn cylch bydol anrhydeddus, ond heb dreulio cymmaint ag awr erioed i'w argyhoeddi o werth enaid, a'r perygl o farw yn annuwiol? Cambrisio a wnaeth y dyn ; rhoi mwy o bris ar gorph nag ar enaid, ar fynyd awr na'r oes dragywyddol. Pa beth yw yr achos fod y dyn annuwiol yn mwlch angeu mor fynych yn ymwylltio, gan ddeisyf cael rhywun o rhywle i daenu ei achos o flaen gorsedd trugaredd)? Cam fesur hyd einioes wnaeth y dyn, gan addaw iddo ei hunan fanteision i gael crefydd mewn blwyddi dyfodol. Y mae llawer wedi mesur eu hoes yn ddeugain mlynedd, a hithau mewn llai nag wyth- nos i'r terfyn. Fe ddywedodd y goludog yn y ddammeg, wrth ei enaid, "Fy enaid, eistedd, bwyta, yf, a bydd lawen; y mae genyt dda lawer wedi ei roi i gadw dros lawer o flynyddoedd," er fod y warrant i symmud ei enaid o'r corph wrth y drws; a delir ei ymddygiad yn ngolwg yr oesau, hyd ganiad yr udgorn diweddaf, fel engraifft o ynfydrwydd a ffolineb diail. Y mae prisio breintiau efengyl a dyfroedd yr iachawdwriaeth yn rhy isel, wedi ar- wain miloedd i wlad nad oes ynddi ffynnon gyrnmainta dafnoddwfr: ondy mae doeth-