Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

« « '. Y OREAL. AWST, 1882. PEDR WALDO A'I AMSERAU GAN Y PARCH. E. PARRÎ", FESTINIOG. 'YFEIRIA y penawd hwn ein sylw yn ol at adeg bell, a chyfnod di- rywiedig yn hanes yr eglwys. Mae yr eglwys yn ystod y deunaw can' ^iîynedd diweddaf wedi bod mewn llawer 'iaf a gauaf; aeth llawer ystorm gref drosti, erlidigaeth ar ol erlidigaeth yn ymosod arni. Ymdrechodd y byd fwy % oag unwaith i geisio lladd y gwirionedd, *c ymlid ymaith Gristionogaeth o'r tir; Ond er pob ymosodiad, mae yr eglwys yn fyw ac yn iach heddyw, ac yn helaethach fci therfynau yn awr nag y bu erioed o'r blaen, ac y mae hyn yn brawf sicr o'i î)wyfoldeb. Dywedir fod hanesiaeth fydol yn cael 6i gwneyd i fyny agos yn llwyr o hanes unigolion neillduol; collir golwg ar gyfT- íedinolrwydd y bobl yn nghysgod yr ychydig neillduolion, a gellir dweyd fod hyn yn wirionedd mewn hanesiaeth eg- Iwysig. Tra y mae miloedd o saint ffydd- lon wedi myned i ffordd yr holl ddaear, «leb fod neb yn gwybod am danynt ond t)uw, mae ereill yn ymddyrchafu mewn ^nwogrwydd yn hanes yr eglwys, fel y *nae eu henwau yn adnabyddus gan holl fyd cred ar ol eu hymadawiad, a diam- «Tlheu y byddant ar gael a chadw hyd y %dd olaf. Cyflwyna un oes hwy gyda gofal ac anwyldeb i oes arall. Un o'r Cymmeriadau hyn oedd Pedr Waldo. Mae yr Arglwydd yn cyfodi dynion neill- duol ar gyfer gwaith ac amserau neilldu- N. Rhai o'r cyfryw oedd Elias, Moses, loan Fedyddiwr, &c., yn y Beibl; ac **lewn hanesiaeth ddiweddarach, dynion cyffelyb oedd John Wickliffe, John Huss, t<uther, &c,—dynion yn adnabod eu gwaith, a chymhwysder ynddynt ar ei gyfer. Mae y personau hyn mewn gwa- hanol gyfnodau wedi bod yn iechyd i foesau Cristionogaeth, ac yn foddion i buro awyrgylch y byd crefyddol.—dyn» ion yn meddu ar ddigon o wroldeb a phenderfyniad meddwl, ac o onestrwydd calon, nes tori llwybr newydd iddynt eu hunain trwy feiddio gweithredu yn wa» hanol ac yn wrthwynebol i arferion eu hoes, serch cael eu herlid yn greulon am hyny. Mae y dynion hyn wrth ymddwyn yn gydwybodol mewn cydymdeimlad â'r gwirionedd, wedi gadael eu delw, a hyny yn hollol anymwybodol, ar feddwl yr oesau. Wrth ddarllen eu hanes yn nhry» lwyrder eu hunanaberthiad a'u hunan» gyssegriad i'w gwaith, teimlwn yn aml awydd i ymostwng i'r llwch ger eu bron, mewn teimlad didwyll o barch ac ed* mygedd tuag atynt; ac y mae gwrth* ddrych y sylwadau hyn yn hawlio Ue yR eu plith. Y lle y ganwyd ef. Daw amryw 0 ddynion nodedig i'n golwg yn eu Uawn faintioli—Ue eu genedigaeth a'u manteis» ion boreu oes dan orchudd, fel nas gellir bod yn sicr o barthed iddynt, ac un o'r cyfryw rai ydyw Pedr Waldo, Cawn yr olwg gyr^laf arno yn Lyons, yn Gâl. Sonia yr holl haneswyr am dano fel Pedr o Lyons, a'r peth tebycaf ydyw mai dyma ei fan genedigol. Yr oedd Lyons yn uri o brif ddinasoedd Ffrainc. Mae dechr reuad ei hanea fel amryw o hen ddinas- oedd enwag y byd, yn ymgolli o'n golwg yn mhellafoedd niwl henafiaeth. Yr oedd yn lle enwog cyn i Cacsar ddyfod trosodd a goresgyn y wlad, ac wedi hyny edrychií