Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GREAL RHAGFYR, 1860. TRAETIIAWD AR DDIENYDDIAD (CAPITÁL PUNISBMENT), SBT A YDYW Y FATH GOSBEDIGAETH YN GYFREITHLON, YN OL YR YSGRYTHYRAU, NEU NAD YDYW? ffian 2 $a«íj. <£. Hoterts, ÎSetljel, ISassaleg. (Buddygol yn Eisteddfod Freiniol Iforaidd Aberdare, 1857.). Yr ydym yn gosod y sylwadau canlyn- ol o flaen y darllenydd, pa rai a bigwyd genym allan o araeth seneddol a dradd- odwyd y flwyddyn ddiweddaf,* am eu bod yn cynnwys ffeithiau nodedig ag sydd yn taflu Uawer o oleuni ar nodiadau a wnawd yu y bennod ddiweddaf. J. (Tudal. 242.)—Aneffeitkiolrwydd di- enyddiad:—"Ymddengys i mi ỳ dylai cosbedigaeth, i ateb ei dyben, i fod yn gosbedîgaeth effeithiol, effeithiol ar fedd- wl ac enaid y troseddwr, ac effeithiol hefyd er rhoddi attalfa ar droseddau. A ydywdienyddiad yn gosbedigaeth effeith- iol? Nid yw amlder y llofruddiaethau yn ein hamser yn profì hyny. Yn lle gwneyd haeriadau cyffredinol bydd i mi ddisgyn at ffeithiau unigoî. Mae yn ffaith fod y rhan fwyaf o'r rhai sydd yn diweddu eu bywyd ar y crogbren, wedi ***bod yn yr arferiad o fod yn llygad-dystion o ddienyddiadau. Yn y flwyddyn 1846, Hofrudd o'r enw Wiclcs, a ddienyddwyd yn Newgate. Yr oedd wedi bod yn ddiweddar yn dyst o ddienyddiad. Dy- wedai ei fod wedi ei dueddu i gyflawni Uofruddiaeth, fel y byddai iddo hynodi ei hun fel arwr ar yr esgynglwyd. Yn 1845, drwg-weithredwr araìl o'r enw Conor a gyflawnodd lofruddiaeth. Yr oedd yntau wedi bod yn dyst o ddien- yddiad boreu y diwrnod y gwnaeth hyny. Yr un dydd ag y dienyddwyd y llofrudd Mobbs, troseddwr arall a ddygwyd o flaen y Police Office am amcanu efelychu ei drosedd, fel ỳ byddai iddo (yn ol ei eiriau ef ei hun) i gael ei grogi am hyny. Yn 1854, dienyddwyd un Cumming yn * " Speech infavour ofan inguiry by a select cotn- mittee into ihe expediency of maintaining capital punishment, by William Ewart, Esq., M.P., in the 'JBouse ofCommons, 1856." Edinburgh. Yr Eûcpress, papyr Ysgot- aidd, a ddywed fod amryw droseddau cyffelyb wedi eu cyflawni yn fuan ar ol hyny. Edrychwn eto j'r Iwerddon. Nid y dym wedi annghofio am galedrwydd ofn- adwy y tri dyn a ddienyddwyd yn Monaghan am lofruddiaeth Mr. Bateson. Yr peddynt yn hollol ddiofal ac anystyr- iol yn nghylch y gosb oedd yn eu haros. Bwytaent ac ysmocient yn y modd mwyafdifrawychydigcyneudienyddiad. Un o honynt a ddywedai, 'Pe buasai reprieve yn dyfod, y buasai yn ei wrthod.' Dywedent fod y dienyddwr yn myned i gyflawni y weithred oreu a wnaed erioed iddynt. Cymharent eu sefyllfa i eiddo yr Arglwydd Iesu pan yn cael ei gym- meryd i'w groeshoelio! Dywedir mai effaith niweidiol y grefydd Babaidd oedd hŷn. Ond gellir dwyn yn mlaen eng- reifftiau o galedrwyäd cyffelyb mewn rhai heb fod yn Babyddion. Yn 1852, dienyddwyd un Elizabeth Pinkard yn Northampton: 'Ar y boreu angeuol,' meddai y Northampton Mercury, *yr oedd yn bresennol pan ddarllenid gwedd- iau yn y capel; pan yr oedd yr hymq yh cael ei chanu, clywid ei llaisyn pwch na'r cyfan; aeth i fyny i'r esgynglwyd gyda'r difrawder mwyaf anystyriol. Sarah Chesham, yr hon oedd wedi lladd pedwar ar ddeg trwy wenwyn, a ddygwyd i'r crog- bren heb yr arwydd lleiaf o edifeirwch nac o ddychryn. Yr un modd Bartilemî, Anffyddiwr proffesedig, a fu farw yn ber- ffaith ddidaro; aetbi'w ddienyddiad,nid yn unigmewn modd anystyriol, ond gyda matb o gywreinrwydd hewydus. Gellid yn hawdd liosogi engreifftiau i'r un per- wyl. Ond yr wyf yn meddwl fod cym- maint ag a nodwyd yn ddigon i brofi pa mor aneffeithiol yw y gosb o farwolaetb, i ateb y dyben mewn golwg." 34