Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

3flf YR ATHRAW. 1 Peaaf peth yw doethineb, cais ddoethineb, ac â'th hollgyfoeth cais ddeall.' CHWEFROR, 1853. GAN ANXIOÜS Tua y flwyddyn deugain, o'r cyfnod Cristionogol, yr ydoedd dyn ieuanc yn aros yn Ieruaalem; dyn o ddysgeidiáeth uchel, ac o enedigaeth barchus; dyn o benderfynolrwydd meddwl anghyft'redin, ac o egni gweithrediad diflino; dyn o gydwy- bod grefyddol, ond nid yn Gristion. íuddew gwresog ei galon oedd, yn gweled gogoniant mawr yn nghrefydd Moses, ac yn addolwr cydwybodol yn ol y drefn hòno. Defnyddiai ei gyrhaeddion dysgeidiawl i wrth-ddweyd apostolion Crist, a dysgyblion selog yr eglwys Gristionogol. Penderfynai i wneyd ei oreu i yru y gau-gred, fel y tybiai Gristionogaeth, o'r byd. Gosododd ei feddyliau bywiog av waith, tynodd ei gynlluniau yn rheolaidd, rhoddodd holl nerth ei egnion yn y gwaith o lanhau y wlad oddiwrth enw Crist, a gwnaeth hafog ddychrynllyd yn mhlith praidd Mab Duw. Ni anadlai ond celanedd a bygythion yn erbyn gwŷr a gwragedd a geid yn rhodio y ftbrdd newydd; a hyn oll o gydwybod i Dduw. Yr ydym yn cael yn y dyn ieuanc hwn, gynbrawf ardderchog o ddyn, ond o ddyn cnawdol; o'r dyn anianol,mae yn anhawdd gweled ei berfteithiach na'i brydferthach ; oblegyd nid oedd nac yn ddidduw nac yn ddifoes, ond ei fod yn gamsyniol ei olygiadau. Y dyn hwn ydoedd Saul o Tarsis. Pan yn gweiíhio ei gynlluniau. crefyddol allan, ac yn cario ei sel hyd ddiuasoedd dyeithr, i erlid egìwys Crist, iowyd ef gan Grist. Gwnaethpwyd ef yn Gristiou drwy yniyreliad nefol ac anar-