Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. HYDREF, 1859. RHIF XXIX. § 40. DOSBARTHIAD ARDDODIAID. Gellir dosbarthu Arddodiaid i rai syml a chyfansawdd. Syml;—Am, ar, a, ag, at, gwedi, heb, i, mewn, o, tan, îros, yn, §c. * Cyfansawdd;—Cyferbyn, gerbron, gerllaw, goruwch, islaw, oddeutu, oddiamgylch, uicchîaw, ymhlith, ynghylch, tyc. Weithiau ysgrifenir y geiriau sydd yn ffurfîo yr Ar- ddodiaid Cyfansawdd ar wahan ;—uwch ben, o ddeu tu, gyd ag, fyc. Weithiau, hefyd, arferir dau neu dri o eiriau o wahanol ranauymadrodd yn nghyd mewn ystyr Ardd- odiadol;—tu ag at, i mewn i, tu cefn i, allan o, tu hwnt i, lu draw i, yn ymyl, o gwmpas, yn ngwyneb, ivrth ochr, fyc. Geliir hefyd dosbarthu Arddodiaid yn ol y gwasan- aeth a gyflawnant. Rhai o honynt a wasanaethant i gyfleu y syniad o leoldeb, ereill y syniad o amser, ac ereill y syniad o offerynoliaeth, &c. Arddodiaid Lleol ydynt ranedig i isddosranau, yn ol fel y byddont yn gosod allan darddiad, sefyllfa, neu der- fyniad y weithred neu y syniad a gyflea y Ferf. Ardd- odiaid yn gosod allan Darddiadg-weithred;—o, oddiwrth, &c Ỳmadawodd o'r tŷ; aeth oddiwrth y drws. Ardd- odiaid yn gosod aîlan sefyllfa gweithred, neu y man y cyflawnir hi;—yn, mewn, ar hyd, gerllaw, tan, trwy, oddiamgylch, &c. Erys yn y tŷ ; gweithia gerllaw y flbrdd; aeth trwy yr afon. Arddodiaid yn dangos terfyn- iad gweithred ; at, i, &c. Wrth roddi addewid i Abraham,