Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHIUW. CHWEFROR, 1860. ©fflAimA©ffl®«««<B,OfflfflS Kf^W¥^Da RHIF XXXIII. «sraÄwiMg § 45 NODIADAU RHAGARWEINIOL. Tardda y gair Cystrawen, yn oî Dr. O. Pugh, o cys =cyd a traw=-advance, a lead, education. Amcan Çystrawen yw dangos y dreíh y cyssylltir geiriau yn nghyd yn frawddegau rheolaidd. iíhaid fod dau neu ragor o eiriau yn cael eu harfer, cyn y bydd Cystrawen o un defnydd ; a dysgu yr efrydydd pa fodd i'w gosod wrth eu gilydd yn drefnus a dealladwy yw ei swydd. Wrth draethu ar natur a dybenion Grammadeg, cym- harai yr awdwr galluog a ysgrifenodd y rhan hòno, efrydiaeth y wyddiant hon i wneuthuriad oriadur. Cyfateba efrydiaeth Llythyreg i'r celfyddydwr yn dysgu parotoi gwahanol ranau yr oriadur,—yr olwynion, y pinau, yr echeli, y twythion, y pladau, y bysedd, &c. Wedi gwneuthur hyn, rhaid i'r peiriannydd ddyfod yn adnabyddus â'r holl ranau, ac o'u gwasanaeth yn y peiriant. Felly y Grammadegwr, wedi dyfod yn alluog i ífurfìo sillau a geiriau, rhaid iddo yn y lle nesaf ddysgu dosbarthu y geiriau yn ol eu defnydd, eu swjdd, a'r syniadau meddyliol a gyfleant; hyny yw, rhaid iddo ddysgu Geiryddiaeth. Gosodwyd deddfau y ddwy ganghen hon o Rammadeg ger bron yr efrydydd yn y tudalenau blaenorol. Ond er gallu parotoi gwahanol ranau yr oriadur, a gwybod eu henwau a'u gwasanaeth, rhaid dysgu y ffbrdd i'w gosod wrth eu gilydd, a phob rhan yn ei le priodol ei hun. Heb hyn, byddai yr holl